Llwyddiant iaith
01 Ebrill 2011
Bu deuddeg o athrawon o Geredigion yn dathlu cwblhau cwrs dwys i ddysgu Cymraeg a gynhaliwyd rhwng Medi a Rhagfyr 2010 gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pwrpas y cwrs, a gynhaliwyd o dan nawdd Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru, oedd dysgu’r Gymraeg ar lefel Mynediad a Sylfaen.
Wedi iddynt ddychwelyd i’w hysgol mae ganddynt y sgiliau i ehangu dysgu Cymraeg fel ail iaith, hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, a datblygu ethos Gymraeg yr ysgol.
Cafodd yr athrawon llwyddiannus eu cydnabod mewn seremoni arbennig gafodd ei chynnal yng nghwmni’r Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ddydd Llun 28ain Mawrth.
Yr athrawon llwyddiannus:
- Robert Evans, Ysgol Uwchradd Aberteifi
- Sarah Stephenson, Ysgol Uwchradd Aberteifi
- Huw Raw Rees, Ysgol Cwm Padarn, Llanbadarn
- Anne Williams, Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth
- Jane Thorogood, Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth
- Jennifer Jones, Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth
- Nuala Davies, Ysgol Comins Coch
- Mandy Rowe, Ysgol Padarn Sant, Aberystwyth
- Patricia Slater, Ysgol Padarn Sant, Aberystwyth
- Anna-Rose Richards, Ysgol Plascrug, Aberystwyth
- Julia Liebescheutz, Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan
- Susan Jones, Ysgol Uwchradd Tregaron
Wrth siarad am ei llwyddiant dywedodd Jane Thorogood, athrawes yn Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau: Roedd hwn yn gyfle perffaith i ddatblygu fy Nghymraeg ac i ddysgu’r math o iaith y gallaf ei defnyddio yn y dosbarth.
Llongyfarchodd Siôn Meredith, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, yr athrawon ar gwblhau’r cwrs, y cyntaf o’i fath i’w gynnal yng nghanolbarth Cymru. Dywedodd:
Rydym yn falch dros ben o’r cyfle i gyflwyno’r cwrs arloesol hwn yng Ngheredigion. Gwnaed cymaint o gynnydd gan yr athrawon mewn cyfnod byr iawn drwy eu trochi yn yr iaith Gymraeg am dri mis. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi cynlluniau i gynnal rhagor o gyrsiau o dan nawdd y cynllun hwn i athrawon a chynorthwywyr dysgu yng Nghanolbarth Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Eifion Evans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion:
Dim ond trwy fuddsoddi mewn datblygu sgiliau’r gweithlu y gallwn ni wella safonau mewn dysgu ac addysgu. Dyma enghraifft wych o fuddsoddiad mewn sgiliau a fydd yn arwain at ddeilliannau gwell i’n disgyblion yng Ngheredigion. Mae gennym bwyslais positif iawn ar ddatblygu sgiliau dwyieithog yn y sir hon ac mae ymroddiad yr ysgolion a’r athrawon a fu ar y cwrs yn enwedig yn hwb go iawn i’n polisi dwyieithrwydd. Mae’r athrawon wedi dangos brwdfrydedd heintus yn ystod y cwrs ac ar ei ôl ac rwy’n eu llongyfarch ar eu llwyddiant.
Dywedodd Ceredig Davies, y Cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cymunedol ar Gyngor Sir Ceredigion:
Mae’r athrawon wedi cyflawni camp sylweddol trwy’r cwrs sabothol ac rwy’n eu llongyfarch yn fawr iawn ar eu hymdrechion. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth yr ysgolion wrth ryddhau'r athrawon ac yn falch o gydnabod fod y Brifysgol wedi darparu cwrs o ansawdd uchel iawn. Yn bendant mae hwn yn gyfraniad gwerthfawr at ddatblygu sgiliau athrawon a fydd yn eu tro yn elwa ein disgyblion trwy gynyddu dwyieithrwydd yn ein hysgolion.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i rhedeg gan Brifysgol Aberystwyth. Cafodd ei sefydlu yn 2006 ac mae’n trefnu dosbarthiadau i bobl sydd eisiau dysgu a gwella eu Cymraeg yng Ngheredigion, Powys a Meirionnydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan www.aber.ac.uk/cymraegioedolion/ neu drwy ffonio 0800 876 6975.