Llwyddiant Triphlyg i Aber yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Glenys Mair Glyn Roberts yn ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol
12 Awst 2010
Enillwyd y tair prif wobr lenyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yng Nglyn Ebwy eleni gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, gan ennill clod y genedl.
Cipiodd Glenys Mair Glyn Roberts o Lantrisant y Goron ddydd Llun 2 Awst am ei chyfres o gerddi ar y pwnc ‘Newid’.
Ar ol astudio’r Gymraeg, Saesneg a Hanes yn Ysgol Gyfun Llangefni, daeth Glenys i’r Brifysgol yn Aberystwyth, ac ennill gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg ac yna M.A. am astudiaeth o Fytholeg Geltaidd yn Llenyddiaeth yr Ugeinfed Ganrif. Wedi cyfnod yn athrawes yn Ysgol Gyfun Tonyrefail, bu’n gweithio am rai blynyddoedd i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru yng Nghaerdydd cyn penderfynu mentro ar ei liwt ei hun fel cyfieithydd. Bu’n gweithio fel cyfieithydd a golygydd hunangyflogedig ers bron i ugain mlynedd bellach, ac mae’n aelod o fwrdd arholi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Bu darllen a dehongli barddoniaeth yn un o’i diddordebau pennaf erioed, ond yn lled ddiweddar y dechreuodd farddoni ei hun. Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu am Goron yr Eisteddfod
Mae’r casgliad buddugol o gerddi rhydd yn ymdrin â newid mewn gwahanol ffyrdd, ond y thema gyffredinol yw nad yw patrymau sylfaenol bywyd – geni, tyfu, aeddfedu, dadfeilio, darfod - fyth yn newid – ‘newid nid yw’n newid’, fel petai. Ond bod yna rin mewn bywyd sy’n rhoi ystyr i’r patrymau hyn.
Roedd dydd Mercher 4 Awst yn ddiwrnod hanesyddol, pan welwyd yr Americanwr cyntaf erioed yn ennill un o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod. Dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Jerry Hunter o Benygroes, Gwynedd, ond sy’n wreiddiol o Cincinnati, Ohio am ei nofel ‘Adfywiad’ sy’n trafod effeithiau’r rhyfel a’r straen y mae’n ei achosi.
Darllenydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor yw Jerry, ond yn ystod yr 1980au astudiodd am radd MPhil yn Aberystwyth, ac yn y cyfnod hwn roedd hefyd yn aelod o’r banc ffync Cymraeg, Arfer Anfad. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau academaidd, ac enillodd un ohonynt – Llwch Cenhedloedd – wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Mae hefyd wedi cyhoeddi nofel fer i blant, Ceffylau’r Cymylau, a chyflwyno rhaglenni hanes ar S4C.
Mae’r gyfrol fuddugol yn seiliedig ar hanes ganoloesol Myrddin Wyllt a aeth yn orffwyll yn ystod Brwydr Arfderydd, ac a wrthodai siarad a neb ond am ei chwaer, Gwenddydd. Mae’r stori wedi’i diweddaru a’i gosod yng nghyd-destun yr Ail Ryfel Byd.
Cyflwynwyd Cadair yr Eisteddfod i Tudur Hallam o Foelgastell, Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener 6 Awst am ei gerdd gynganeddol ‘Ennill Tir.’
Uwch-ddarlithydd Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yw Tudur. Cafodd ei fagu ym Mhenybanc, Rhydaman, a mynychodd Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa. Tra’r oedd yn fyfyriwr yn y Brifysgol yn Aberystwyth enillodd y Gadair ddwywaith yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Fe’i siarsiwyd gan yr Athro Hywel Teifi i ennill y Gadair i’r Adran y bu ef yn bennaeth arni yn Abertawe. Dyma, eleni, ufuddhau i’r gorchymyn hwnnw ac ymgais yw’r gwaith i gofio amdano a gwerthfawrogi perthnasedd ei fywyd a’i weledigaeth i Gymru heddiw.
Nid awdl goffa draddodiadol mohoni, ond yn hytrach cyflwynir stori am hen ŵr ar ddydd Calan sy’n rhy barod i ddwrdio’r ifanc ac yn rhy araf i’w hysgogi. Ar un olwg, cynrychioli’r Cymro Cymraeg goddefol, drwgdybus, anobeithiol a chwynfanllyd y mae’r hen ŵr. Neges yr wylan yn y gerdd yw bod yn rhaid iddo, os myn weld y Gymraeg yn ffynnu, newid ei ffordd o fyw, gan ddilyn esiampl yr athro gweithredol, yr Athro Hywel Teifi Edwards
.