Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Adam Price AS
12 Tachwedd 2009
Nos Lun nesaf, 16eg o Dachwedd 2009, bydd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Adam Price AS i draddodi ei Darlith Flynyddol.
Cynhelir y ddarlith yn yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 7.00 o'r gloch a'i theitl yw Cymru: Y Coloni Cyntaf ac Olaf Un (Wales: the first and last colony). Traddodir y ddarlith yn Gymraeg ond bydd offer cyfieithu ar gael.
Mae Adam Price yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2001, ac fe lwyddodd i gadw’r sedd a chynyddu’r mwyafrif yn sylweddol yn Etholiad Cyffredinol 2005. Fel cyn gyfarwyddwr cwmni economeg a gynigai wasanaeth ymgynghorol, ef yw Llefarydd Plaid Cymru ar faterion y Trysorlys, Diwydiant a Masnach.
Yn 2002, enillodd wobr ymchwilydd y flwyddyn gan gylchgrawn y Spectator oherwydd iddo amlygu llythyr gan y Prif Weinidog at Brif Weinidog Romania ar ran rhoddwr i Lafur, Lakshmi Mittal.
Yn 2003 datguddiodd fesur Ewropeaidd ugain oed a ddaeth yn sail gadarn i sialens gyfreithiol yn erbyn y llywodraeth gan weithwyr Allied Steel and Wire wedi iddynt golli eu pensiynau. Mae hefyd wedi arwain ymgyrch ynglŷn â chamdriniaeth o bobl Irac ac yn ddiweddar galwodd ar i’r Prif Weinidog gael ei uchelgyhuddo yn dilyn ei ymddygiad yng nghyd-destun y rhyfel yn Irac.
Fodd bynnag, cyhoeddodd Adam Price yn ddiweddar y bydd yn gadael San Steffan pan ddaw’r Etholiad Cyffredinol nesaf gan ei fod wedi derbyn Ysgoloriaeth nodedig Fulbright i astudio datganoli a datblygiad economaidd yn Harvard, un o brifysgolion uwchraddedig gorau’r Unol Daleithiau.
Wrth edrych ymlaen at y ddarlith wythnos nesaf, dywedodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ei fod yn “hynod falch fod Adam Price wedi cytuno i draddodi Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn 2009, a’i fod yn edrych ymlaen at ddarlith a fyddai heb os yn un fywiog a gwerthfawr dros ben”.
Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol ac yn rhan o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Fe'i sefydlwyd i hybu astudiaeth a thrafodaeth academaidd ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru.
Gan adlewyrchu ei gartref yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol hynaf yn y byd, mae gwaith Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn cwmpasu nid yn unig ddatblygiadau gwleidyddol oddi mewn i Gymru, ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol ac economaidd-wleidyddol Cymru gyda gweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop a'r byd.
Hon yw unfed ddarlith ar ddeg Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Fe'i traddodwyd yn y gorffennol gan ddau o Brif Weinidogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Alun Michael AS a Rhodri Morgan AC, Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, Yr Arglwydd Griffiths o Fforestfach, Simon Jenkins, yr Athro Tom Nairn, yr Athro Robert Hazell, yr Athro Michael Keating, Kirsty Williams. A.C. a Huw Lewis A.C.