Cymrodyr 2009
Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno Cymrawd yn ystod seremoniau graddion 2008.
13 Gorffennaf 2009
Bydd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth a chyn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, yn cyflwyno’r Prif Weinidog fel Cymrawd er Anrhydedd brynhawn Iau 16eg Gorffennaf.
Cynhelir seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, o ddydd Mawrth 14eg tan ddydd Gwener 17eg o Orffennaf.
Cymrodyr Prifysgol Aberystwyth 2009
Mrs Mary Lloyd Jones
Artist Cymreig o enwogrwydd rhyngwladol a chenhadydd ar gyfer celf a diwylliant Cymreig ar draws y byd.
Yr Athro Clyde Williams OBE
Athro Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Loughborough. Sefydlodd labordai cyntaf gwyddor chwaraeon y DG yn Loughborough ac Aberystwyth. Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Mr Dyfrig John
Prif-weithredwr Banc HSBC.
Yr Athro Ching Fai Ng
Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong, Athro Cemeg, Dirprwy Cyngres Genedlaethol Pobl Tseina, cyn gymrawd ôl-raddedig Nuffield ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Gwir Anhr Rhodri Morgan AC
Prif Weinidog Cymru.
Y Fonesig Athro Jean Thomas FRS
Meistr Coleg St. Catharine, Caergrawnt, Athro Biocemeg Macromoleciwlaidd, Prifysgol Caergrawnt.
Mr Huw Eurig Davies
Prif-weithredwr a sylfaenydd cwmni teledu Boomerang.
Cyflwynir y teitl Cymrawd er Anrhydedd i unigolion sydd naill ai'n gyn fyfyrwyr o fri neu sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, neu â bywyd Cymru.