Cyflawniadau mewn dysgu ac addysgu
(Ch i'r Dde) Deiliaid Gwobrau Rhagoriaeth Dysgu Mr Gareth Hoskins (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) Dr Basil Wolf (IBERS) a Dr Chris Loftus (Cyfrifiadureg) gyda Dr Jo Maddern, Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu.
06 Hydref 2008
Ymysg y bobl a fynychodd y digwyddiad roedd deiliaid Gwobrau Cronfa Datblygu Dysgu ac Addysgu, Gwobrau Rhagoriaeth Dysgu, Gwobr Rhagoriaeth Cynorthwywyr Dysgu Graddedig a Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch. Mae pob un o'r grwpiau yma wedi dangos datblygiad proffesiynol neu ymarfer da mewn dysgu a chynorthwyo dysgu myfyrwyr.
Dywedodd Dr Jo Maddern, Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae bod yn sefydliad dysgu ac ymchwil dosbarth cyntaf sydd yn ymateb i anghenion y gymuned leol, Cymru a'r byd tu hwnt yn rhan o Gennad Strategaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.
“Rydym yn gyfarwydd â meddwl am weithgareddau ymchwil mewn termau dylanwad rhyngwladol, ond gellir dadlau y dylem wneud yr un peth am ein gweithgareddau dysgu yn sgil rhyngwladoldeb cynyddol. Yn wir, wrth feddwl am y peth gallwn weld effaith ein dysgu yn ymestyn allan ac yn cyffwrdd ardal ddaearyddol ehangach mwy nag yr ydym yn ei sylweddoli ar yr olwg gyntaf.
“Mae neges Diwrnod Rhyngwladol Athrawon 2008 pwysleisio gwerth athrawon i gymdeithas, ac yn dadlau fod gan athrawon ran bwysig wrth gyflawni amcanion mewn datblygiad dynoliaeth ar draws y byd.
“Mae deiliaid y gwobrau a’r tystysgrifau yma wedi gweithio yn galed er mwyn datblygu ei dysgu. Mae angen i ni ddathlu yr hyn y maent wedi ei gyflawni a’i cyfraniad.”
Mae’r Brifysgol yn cynhyrchu dros £13m o’i gweithgareddau dysgu bob blwyddyn ac mae boddhad uchel myfyrwyr yn brawf o’r gwaith caled sydd yn cael ei wneud er mwyn datblygiad cyson ac arloesol mewn ymarfer dysgu a chynorthwyo addysgu myfyrwyr ar draws y Brifysgol.
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Athrawon UNESCO ar y 5ed o Hydref ac mae’n coffau athrawon a sefydliadau dysgu ar draws y byd. Ei nod yw ennyn cefnogaeth i athrawon ar bob safon o fewn y gyfundrefn addysg a’r cyfraniadau allweddol ym maent yn eu gwneud at addysg a datblygu byd-eang.
Trefnir ystod y gyrsiau dysgu a chymorth dysgu i fyfyrwyr, gweithdai a sesiynau ar gyfer staff y Brifysgol drwy y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd. Am fanylion pellach cysylltwch â: Dr Jo Maddern, Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu ar (01970) 622117 / staff.dev@aber.ac.uk
Deiliaid Gwobrau Rhagoriaeth Dysgu 2008
Dr Basil Wolf, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Mr Chris Loftus, Adran Cyfrifiadureg; Dr Kelly Grovier, Adran Saesneg; Mr Gareth Hoskins, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Dr Helen Roberts, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Deiliaid Gwobrau Rhagoriaeth Cynorthwywyr Dysgu Graddedig 2008
Miss Laura Guillaume, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol; Mr Stephan Petzold, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol; Miss Jennifer Pedersen, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol; Miss Shea Esterling, Adran y Gyfraith.
Cwblhawyr Prosiect Cronfa Datblygu Dysgu ac Addysgu
Yr Athro John Harvey, Yr Ysgol Gelf; Dr Simon Cox, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg; Dr Dylan Gwynn Jones, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Mrs Kate Wright, Gwasanaethau Gwybodaeth / Dysgu ac Addysgu Ar-lein Aberystwyth; Mrs Pauline Worthington, Y Ganolfan Iaith a Dysgu.
Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch
Ms Yang Ying, Ysgol Rheolaeth a Busnes; Dr Jamie Sexton, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol; Mrs Rosemary Cann, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes; Dr Daniel Brown, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg; Ms Margaret Ames, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Dr David Ceri Jones, Adran Hanes a Hanes Cymru; Dr Heidi Scott, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Mr Richard Godfrey, Ysgol Rheolaeth a Busnes; Dr Ioan Fazey, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Dr Hazel Davey, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Dr Martin Wilding, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg; Dr William Slocombe, Adran Saesneg; Dr Helen Roberts, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Dr Gareth Hoskins, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.