Llygad y Gwir!

13 Hydref 2008

Mae Dr Reyer Zwiggelaar o'r Adran Gyfrifiadureg yn arwain gwaith ymchwil fydd yn torri tir newydd gyda sustem oruchwylio sy'n dadansoddi tymheredd ac ymddygiad wynebau er mwyn dod o hyd i smyglwyr mewn mannau rheoli ffiniau.

Brwydro'r Diciâu

08 Hydref 2008

Mae brechiad newydd yn erbyn y diciâu yn cael ei ddatblygu gan Sefydliad Brechlyn Diciâu Byd-eang Areas sydd yn seiliedig ar waith ymchwil arloesol yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Recriwtio Rhyngwladol

02 Hydref 2008

Sefydlwyd adran Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol gan y Brifysgol a penodwyd Jonathan Richards yn Bennaeth arni.

Taith i'r lleuad

20 Hydref 2008

Tra fod India yn paratoi i lansio ei thaith gyntaf i'r lleuad, mae'r Athro Manuel Grande o Sefydliad Mathemateg a Ffiseg a phrif ymchwilydd ar offeryn C1XS y daith, yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am sut y cafod y lleuad ei ffurfio.

Ymweliad y Prif Weinidog

03 Hydref 2008

Bu Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhodri Morgan yn ymweld â'r Brifysgol i weld rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a'r Ganolfan Ddelweddu.

Cyflawniadau mewn dysgu ac addysgu

06 Hydref 2008

Cafodd deiliaid gwobrau dysgu eu cydnabod gan y Brifysgol mewn derbyniad wedi ei drefnu gan Adran Datblygu Staff.

Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig

20 Hydref 2008

Bydd Carwyn Jones AC, Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn darlithio ar “Getting the Devolution Dividend: Challenges for Wales in the Next Ten Years”, nos Fercher 29 Hydref.

Hanes a Hanes Cymru

24 Hydref 2008

Bydd y Dr Tim Brain OBE, Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw, yn traddodi darlith ar y pwnc 'The Independence of the Office of the Constable: A Necessary Myth?' ar ddydd Mercher 12 Tachwedd.