Taith i'r lleuad

Yr Athro Manuel Grande

Yr Athro Manuel Grande

20 Hydref 2008

Dydd Llun 20 Hydref 2008

Gwyddonydd Aberystwyth yn arwain prosiect i astudio'r lleuad

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau diweddaraf wrth i India baratoi i lansio'r llong ofod Chandrayaan-1, sef y tro cyntaf i’r wlad honno fentro i’r Lleuad, ar 22 Hydref.

Yr Athro Manuel Grande yw Pennaeth y Grŵp Ffiseg Sustemau Heulol yn Sefydliad Mathemateg a Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, ac ef yw Prif Archwilydd camera pelydr-X soffistigedig sydd yn gyfraniad Prydain at y cyrch i’r lleuad.

Cafodd y camera, C1XS, ei gynllunio a’i adeiladu yn Adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ofod STFC yn Labordy Rutherford Appleton. Sbectromedr Pelydr-x yw C1XS, a fydd yn mesur pelydrau-x i fapio gwneuthuriad wyneb y Lleuad. Bydd hyn yn helpu gwyddonwyr i ddeall ei gwreiddiau a sut y’i datblygodd, yn ogystal ag astudio’r adnoddau mwynol sydd yno.

Chandrayaan-1 yw’r fenter gyntaf i’r lleuad gan Sefydliad Ymchwil India i’r Gofod (ISRO). Mae wedi’i gynllunio i droi o gwmpas y Lleuad ac mae ganddo offer i ganfod gronynnau a radar yn ogystal ag offer a fydd yn edrych ar wahanol rannau o’r sbectrwm electromagnetig, sef gweledol, lled isgoch, a phelydr-x .

Dywedodd yr Athro Manuel Grande, Prif Archwilydd C1XS, Prifysgol Aberystwyth, “Bydd y cyfarpar C1XS yn rhoi darlun newydd inni o beth mae’r Lleuad wedi’i wneud; nid yn y fan hon a’r fan draw, ond ar draws wyneb cyfan ein hwythfed cyfandir. Bydd hyn yn golygu ein bod yn gallu datrys y dirgelion sy’n dal heb eu hateb o ran gwreiddiau sustem y Ddaear a’r Lleuad.”

Dywedodd y Dr Ian Crawford o Goleg Birkbeck College, sy’n cadeirio Tîm Gwyddoniaeth C1XS,
“Mae llawer nad ydym yn ei wybod eto am y Lleuad. Bydd mapiau manwl a chywir o wneuthuriad wyneb y lleuad yn ein helpu i ddeall ei adeiladwaith mewnol a’i hanes daearegol. Byddwn yn dysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd i’r Lleuad ers iddo ffurfio a sut a phryd yr oerodd. Drwy edrych i mewn i’w graterau, efallai y gallwn weld o dan yr wyneb hyd yn oed a chael cip ar yr hyn sydd oddi tano.”

Datblygwyd C1XS drwy gydweithio â Sefydliad Ymchwil India i’r Gofod. Mae’n defnyddio technoleg newydd i wneud offer bach, ysgafn a sensitif a all fesur meintiau’r elfennau cemegol sydd ar wyneb y lleuad drwy fesur y pelydrau-x y maent yn eu hamsugno a’u rhoi allan. Mae’r sbectromedr wedi’u datblygu o’r offer arbrofol technolegol llwyddiannus o’r enw D-CIXS, a lansiwyd ar y daith i’r lleuad a wnaed gan Smart-1 Asiantaeth Gofod Ewrop.

Bydd C1XS yn gweithio drwy edrych ar belydrau-x o’r Haul sydd wedi’u hamsugno gan atomau ym mhridd y lleuad, a’u gyrru allan wedyn mewn ffordd sy’n dangos gwneuthuriad yr wyneb. Mae’r sbectromedr yn gallu synhwyro pelydrau-x magnesiwm, alwminiwm a silicon. Pan fo golau pelydrau-x yr haul yn llachar, yn ystod ffagliad heulol, er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn gallu mesur elfennau eraill megis haearn, titaniwm a chalsiwm hefyd. Er mwyn mesur elfennau’r wyneb yn gywir, mae’n rhaid mesur y pelydrau-x a gynhyrchir gan yr haul. Mae gan C1XS sustem ganfod ychwanegol i fesur y pelydrau-x hyn o’r enw Monitor Pelydrau-x Heulol a ddarparwyd gan Arsyllfa Prifysgol Helsinki yn y Ffindir.

Dywedodd y Dr Tony Cook, o Brifysgol Aberystwyth, un o brif arbenigwyr ar fapio’r Lleuad, “Yn y pen draw, gallai’r mapiau hyn roi gwybod inni’r lleoliadau gorau ar y Lleuad i chwilio am adnoddau naturiol”

“Mae C1XS yn defnyddio fersiwn dechnoleg uwch o ganfodyddion CCD arferol, fel y rhai a geir mewn camera digidol, o’r enw dyfeisiadau gwefr ysgubedig. Maent yn cael eu rhoi y tu ôl i gyfanelwr aur a chopr, sy’n cyfyngu ar olwg y canfodyddion pelydrau-X fel eu bod yn anelu’n llwybr cul. Gyda’i gilydd mae’r ddwy ddyfais hon yn creu camera pelydr-X manwl iawn sy’n gallu adnabod elfennau cemegol yr wyneb, ond eto’n mae’n llawer twtiach ac ysgafnach na sbectromedrau pelydrau-X llongau gofod eraill.” meddai Chris Howe, Prif Beiriannydd C1XS, o Adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ofod STFC.

Dywedodd yr Athro Grande ymhellach, “Rydym ni yng ngwledydd Prydain yn cyflym arwain y maes o ran gwneud offer pelydr-X planedol. Bydd C1XS yn cryfhau ein sefyllfa a braenaru’r tir inni allu arwain wrth greu offer tebyg i deithiau i’r blaned Fercher ac i fannau eraill yng Nghysawd yr Haul.”

Chandrayaan-1
Ceir manylion am daith Chandrayaan-1 ar lein yma http://www.isro.org/chandrayaan/htmls/home.htm.

C1XS
Dyfais a grëwyd drwy gydweithredu rhwng Prydain ac India yw C1XS, ar y cyd ag amrywiaeth eang o gydweithredwyr o sefydliadau ymchwil ac academaidd o bedwar ban byd. Ceir rhestr gyflawn o sefydliadau sy’n cymryd rhan yn http://www.sstd.rl.ac.uk/c1xs/CO-I.htm

Sefydliadau ym Mhrydain sy’n cymryd rhan:
Prifysgol Aberystwyth, Labordy Rutherford Appleton STFC, Coleg Birkbeck, Prifysgol Brunel, Coleg Prifysgol Llundain.

Ffeithiau
• Disgwylir y bydd Chandrayaan-1 yn lansio o Ganolfan Ofod Satish Dhawan yn Sriharikota (SHAR), India.
• Bydd Chandrayaan-1 yn cyrraedd y Lleuad ymhen wythnos ar ôl y lansiad.
• Bydd Chandrayaan-1 yn troi o gwmpas y Lleuad 100km uwchben yr wyneb.