Recriwtio Rhyngwladol
Mr Jonathan Richards
02 Hydref 2008
Cyn ei benodi roedd Jonathan yn Uwch Ddarlithydd mewn Saesneg ac Ieithoedd Ewropeaidd ym Mhrifysgol Wolverhampton lle yr oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu cysylltiadau rhyngwladol, yn bennaf gyda gwledydd yng Nghanolbarth Ewrop ond hefyd gyda Siapan, Taiwan, De Corea ac India.
Mae Jonathan, sydd yn wreiddiol o Lanelli ac yn raddedig o Brifysgol Caerdydd, yn arwain tîm o 7 yn yr adran Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol, sydd yn ei thro yn rhan o Adran Denu a Derbyn y Brifysgol.
Dywedodd Jonathan:
“Mae Prifysgol Aberystwyth o'r farn fod cydweithio rhyngwladol a phresenoldeb myfyrwyr rhyngwladol yma yn Aberystwyth yn cryfhau proffil academaidd y Brifysgol, yn cyfoethogi y profiad myfyriol ac yn gwneud cyfraniad diwylliannol ac economaidd cadarnhaol i'r gymuned ehangach. Mae gan Aberystwyth hanes hir o gydweithio rhyngwladol. Dros nifer o ddegawdau mae wedi datblygu cysylltiadau rhyngwladol cryf mewn ymchwil a dysgu ac ar draws cwricwlwm llydan.”
Nod Cydweithio a Recriwtio Rhyngwladol yw adeiladu ar lwyddiannau recriwtio’r Brifysgol yn Ewrop (dechreuodd 120 o fyfyrwyr o Wlad Pwyl a 30 Bwlgaria yma ar ddechrau’r tymor) a chanolbwyntio ar 3 brif ardal ddaearyddol yn y lle cyntaf, Tseina a De Ddwyrain Asia, De Asia ac India yn benodol, a Gogledd America – yr Unol Daleithiau a Chanada.
Yng Ngogledd America bydd y pwyslais ar ddatblygu cysylltiadau sydd eisoes wedi ei sefydlu gan Lywydd y Brifysgol a Chyn-Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol yn y Cenhedloedd Unedig, Sir Emyr Jones Parry.
Bydd yr adran hefyd yn gyfrifol am rheoli a datblygu rhwydwaith cynghorwyr a gweithredwyr addysgiadol tramor yn o gystal â chytundebau sefydliadol rhyngwladol y Brifysgol.
“Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle o weithio yn agos gyda adrannau academaidd ac i ddwyn i’w sylw gyfleoedd recriwtio a chydweithio rhyngwladol,” ychwanegodd.
“Mae cryfder academaidd y Brifysgol mewn meysydd megis y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Rheolaeth a Busnes (gan gynnwys graddau ôl-raddedig wedi eu hachredu gan AMBA), a chwricwlwm eang mewn pynciau megis Cyfrifiadureg, y Gyfraith ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad rhyngwladol.”
“Yn ogystal, ac fel arbenigwr mewn dysgu Saesneg fel iaith dramor, mae gwaith Uned Iaith a Dysgu’r Brifysgol, â’i chyrsiau iaith Saesneg wedi eu achredu gan y Cyngor Prydeinig, yn mynd i fod o ddiddordeb i fyfyrwyr rhyngwladol, ac yn cynnig llwybrau tuag at gyrsiau gradd a graddau uwch llawn.”
Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol
Aelodau Staff
Mr Jonathan Richards, Pennaeth
Ms Ruth Owen, Swyddog Rhyngwladol
Mr Xuezhe Piao, Rheolwr Dwyrain Asia
Mrs Carol Smart, Cydlynydd Rhaglen Gyfnewid Myfyrwyr
Ms Annie Brunt, Swyddog Recriwtio Ôl-raddedig y Gymuned Ewropeaidd a’r Deyrnas Gyfunol
Ms Susan Jenkins, Cynorthwyydd Personol i’r Pennaeth a Gweinyddwraig Rhyngwladol
Ms Sandra Morgan, Cynorthwyydd Gweinyddol Rhaglen Gyfnewid Myfyrwyr
Penodwyd Ruth Owen yn Swyddog Rhyngwladol. Cyn hyn bu Rheolwraig Job Link yn Ngwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Yn wreiddiol o Ffosyffin ger Aberaeron, mae gan Ruth radd mewn Astudiaethau Ceffylau a Rheolaeth Busnes o Brifysgol Coventry ac mae newydd gwblhau tystysgrif ôl-raddedig mewn Rheolaeth a Marchnata o Aberystwyth.
Yn ei amser hamdden mae’n rheoli Stablau Cobiau Cymreig Deicin gyda ei thad, ac yn golygu y cylchgrawn National Equine Student sydd yn dosbarthu 15,000 o gopïau unwaith bob tymor i golegau ceffylau ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Dechreuodd Mr Xuezhe Piao, Rheolwr Dwyrain Asia, weithio fel cynrychiolydd Prifysgol yn Tseina a De Corea yn 2003. Yn wreiddiol o Dalaith Heilongjiang yng Ngogledd Ddwyrain Tseina, mae’n gyfrifol am hyrwyddo cydweithio rhwng Aberystwyth a sefydliadau addysg uwch yn Tseina, De Corea a Siapan. Ar hyn o bryd mae 120 o fyfyrwyr o Tesina, 40 o Siapan a 10 o De Corea yma yn Aberystwyth, yn astudio cyrsiau is ac ôl-raddedig.
Dychwelodd Ms Annie Brunt i Aberystwyth yn dilyn ei phenodi yn Swyddog Recriwtio Ôl-raddedig ym mis Gorffennaf 2007, wedi cyfnod yn gweithio ym Mhrifysgol Anglia Ruskin, Caergrawnt. Cyn hyn bu’n gweithio fel gweinyddwraig yn Unded Iaith a Dysgu’r Brifysgol yma yn Aberystwyth.
Mae Mrs Carol Smart yn gydlynydd Rhaglennu Cyfnewid Myfyrwyr, sydd yn cynnwys Erasmus a Rhaglen Gyfnewid Gogledd America. Ymunodd Carol â Chanolfan Rhyngwladol y Brifysgol yn 1990 lle bu’n gweithio yn y Swyddfa Cysylltiadau Ewropeaidd.
Mae Ms Susan Jenkins yn ymuno â’r tîm fel Cynorthwyydd Personol i Jonathan Richards ac fel Gweinyddwraig Rhyngwladol. Cyn ei phenodiad bu’n gweithio am bron i 18 mlynedd fel Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr Datblygu a Materion Allanol.
Aelod rhan amser o’r staff yw Ms Sandra Morgan sydd yn darparu cymorth gweinyddol i Mrs Carol Smart ar y rhaglenni cyfnewid myfyrwyr.
Ar hyn o bryd mae Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol wedi ei lleoli yn 9 Maes Lowri, ond bydd yn symud i gampws Penglais ar ddiwedd y flwyddyn.