Tadau a merched

Dr Alan Axford a Dr Rachel Rahman

Dr Alan Axford a Dr Rachel Rahman

17 Gorffennaf 2008

Dydd Iau 17 Gorffennaf, 2008
Tadau a'u merched yn dathlu

Roedd y seremonïau graddio eleni yn destun dathlu i ddau dad a'u merched.

Brynhawn dydd Iau cafodd yr arbenigwr cancr Dr Lan Axford ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth. Yn yr un seremoni derbyniodd ei ferch, Dr Rachel Rahman, ddoethuriaeth am ei gwaith yn Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff y Brifysgol.

Derbyniodd Dr Rahman ei doethuriaeth am ei astudiaeth o agweddau cymhelliant adferiad cardiaidd. Mae nawr yn ymuno ag Adran Seicoleg newydd lle bydd yn ddarlithydd ac yn dysgu seico-bioleg a seicoleg iechyd.    

Derbyniodd tad a merch o Benrhyncoch, Roger and Jodi Bennett, raddau Meistr mewn dwy seremoni whanol yn ystod yr wythnos.

Derbyniodd Roger radd MSc (Econ) mewn Astudiaethau Strategol o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.  Daeth ei lwyddiant yn dilyn ei benodi yn ddiweddar i swydd Pennaeth Argyfyngau Sifil Posibl a Gwrthsefyll o fewn Gwasanaeth Tan Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Derbyniodd Jodi radd MA mewn Astudiaethau Cynulleidfa a Derbyniad o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu brynhawn dydd Mawrth. Mae Jodi, a oedd tan yn ddiweddar yn gweithio yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, bellach yn swyddog marchnata gyda Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.  

Wedi derbyn ei radd, dywedodd Roger;
“Diolch yn fawr iawn i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r profiad wedi agor fy llygaid, ac wedi rhoi i mi sgiliau a phriodoleddau nad oeddwn yn gwybod eu bod gennyf.”