Sofraniaeth yr Arctic
yr Athro Michael Byers
07 Ionawr 2008
Yr Athro Michael Byers yn siarad yn Aberystwyth ar Sofraniaeth yr Arctic
Nos Fawrth, 8 Ionawr 2008 bydd yr Athro Michael Byers o Brifysgol British Columbia yn traddodi anerchiad dan y teitl: Arctic Rush: Climate change and International Politics in the Far North.
Bydd y ddarlith yn dechrau am 6 o'r gloch yn 'Steve Crichter Room' Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Athro Gwyddor Wleidyddol yw Michael Byers, ac mae'n dal Cadair Ymchwil Canada mewn Gwleidyddiaeth Byd-eang a Chyfraith Ryngwladol ym Mhrifysgol British Columbia. Cyn 2005, roedd yn Athro’r Gyfraith a Chyfarwyddwr Astudiaethau Canadaidd ym Mhrifysgol Duke; rhwng 1996 ac 1999 bu’n Gymrawd yng Ngholeg yr Iesu yn Rhydychen.
Mae’r Athro Byers yn ysgrifennu a dysgu ar faterion sofraniaeth yr Arctic, grym milwrol, cyfraith y môr a chysylltiadau rhwng Canada ag UDA. Mae’n arwain prosiect ar Dramwyfa’r Gogledd Orllewin fel rhan o ArcticNet, consortiwm o wyddonwyr o 27 o brifysgolion Canada a 5 adran o’r llywodraeth. Ef yw awdur Intent for a Nation: What is Canada For? (Douglas & McIntyre: 2007), ac mae’n cyfrannu’n gyson i’r LondonReview of Books, Globe and Mail a TorontoStar.
Gellir gweld enghreifftiau o’i waith ar y pwnc hwn yn yr erthygl ‘On Thinning Ice’ yn y London Review of Books a’r erthygl ‘Our Next Frontier: the Arctic Ocean’ yn y Globe and Mail.