Ffilm a Theledu <br />Cyfleoedd Uwchraddedig

Adeilad Parry Williams

Adeilad Parry Williams

01 Ionawr 2008

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Cyfleoedd Uwchraddedig o fis Medi 2008
Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, sydd â graddfa 5 gan yr RAE, wedi'i lleoli’n gadarn yng Nghymru, ac mae ganddi broffil rhyngwladol sefydlog ar draws ei disgyblaethau. Mae i’r Adran amgylchedd ymchwil bywiog ar gyfer astudio uwchraddedig.

Rydym yn cynnig cyfres o raglenni MA cyffrous a gynlluniwyd i’ch paratoi am waith proffesiynol a/neu waith ymchwil doethurol: MA Astudiaethau Cynulleidfa a Derbyniad, MA Astudiaethau Ffilm, MA Ymarfer Perfformio, MA Cynhyrchu Radio*, MA Sgriptio, MA Astudiaethau Teledu, MA Theatr a’r Byd *ar gael yn gyfan gwbl neu yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae myfyrwyr MA yr Adran yn elwa ar nifer o ysgoloriaethau noddedig, yn enwedig gan y BBC ar gyfer MA Cynhyrchu Radio, a chan Sefydliad Thompson ar gyfer astudiaethau MA cyfrwng Cymraeg. Bydd ymgeiswyr eithriadol am unrhyw un o’r cynlluniau uchod sydd â bwriad pendant o ddilyn cwrs doethur yn yr Adran, hefyd yn cael eu hystyried am ysgoloriaeth paratoi am ymchwil Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a gynlluniwyd i gwmpasu gwerth blwyddyn o ffioedd amser llawn, ynghyd â chynhaliaeth, ac fe’i meincnodwyd i sicrhau ei bod gyfwerth â’r AHRC (£8,000 ar hyn o bryd).

Mae enw da yr Adran am gynnal ymchwil blaengar, rhyngwladol o safon uchel yn golygu bod Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn lle delfrydol ar gyfer astudiaeth ddoethurol. Rydym yn cynnig arolygiaeth a hyfforddiant ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan ganolbwyntio ar destunau megis:

•        Perfformiad tirwedd, amgylchedd ac mewn man arbennig
•        Theatr, ffilm a theledu Cymraeg a ieithoedd lleiafrifol
•        Prosesau cynhyrchu cenedlaethol a rhyngwladol, a chyd-destunau derbyniad
•        Strwythurau, hanesion a pholisïau rheoledig darlledu
•        Theatr, ffilm a dramâu teledu amgen ac arbrofol

Gall ymchwil PhD fod yn seiliedig ar ymarfer, neu ar ffurf thesis ysgrifenedig. Mae myfyrwyr PhD yr Adran yn derbyn nawdd o nifer o ffynonellau: AHRC, Prifysgol Aberystwyth, elusennau annibynnol, cyflogwyr, a chyrff tramor. Cynigiwn gefnogaeth ac arweiniad wrth lunio ceisiadau i’r cyrff hyn, ac ychwanegwn at y cyfleoedd maent yn eu darparu trwy ddyfarnu nifer o ysgoloriaethau doethurol

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i fyfyrwyr eithriadol nad ydynt fel arall wedi gallu sicrhau nawdd. Cynlluniwyd y rhain i gwmpasu ffioedd amser llawn gwerth tair blynedd, ynghyd â chynhaliaeth, ac fe’u meincnodwyd i sicrhau eu bod gyfwerth â’r AHRC (£12,600 y flwyddyn ar hyn o bryd).


I gael manylion pellach a dolenni i ffurflenni cais a dulliau gweithredu, cysyllter â Ceris Jones, Gweinyddwr Ymchwil yr Adran, ar 01970 628648, neu ekj@aber.ac.uk.