Cymeradwyo uno ag IGER

Yr Hen Goleg
05 Gorffennaf 2007
Cyngor y Brifysgol yn cymeradwyo uno gyda IGER
Yn nghyfarfod o Gyngor Prifysgol Cymru, Aberystwyth brynhawn Mercher, 4 Gorffennaf, cymeradwywyd cynnig i uno'r Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol gyda'r Brifysgol.
Bydd yr uniad yn creu canolfan o arbenigedd fydd yn gystadleuol yn rhyngwladol mewn gwyddor amgylcheddol, ac o fudd economaidd mawr i’r sector tir pori yng Nghymru a thu hwnt. Atgyfnerthir dylanwad y ganolfan ymhellach gan y Bartneriaeth Ymchwil a Menter sydd wedi ei sefydlu gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Bangor.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth:
“Rwy’n croesawi’r penderfyniad hwn gan Gyngor y Brifysgol heddiw yn gynnes iawn. Mae hwn yn gyfle gwych i greu canolfan ymchwil ac arloesi mewn gwyddoniaeth amgylcheddol a defnydd tir cynaliadwy o safon byd. Mae’n ddatblygiad gwyddoniaeth ac arloesi pwysig i Gymru.”
Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn cyhoeddiad tebyg gan noddwyr IGER, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg, ddydd Gwener 4 Mai 2007.