Urddo chwe Chymrawd
04 Ebrill 2007
Rhoddir y teitl Cymrawd er Anrhydedd i rai sydd naill ai'n gyn-fyfyrwyr o fri neu sydd â chysylltiad agos â'r Brifysgol neu â bywyd Cymru. Eleni bydd y Cymrodyr yn cael eu cyflwyno yn ystod wythnos y seremonïau gradd ym mis Ngorffennaf.
Y Brifysgol yn lansio gradd newydd ategol mewn amaethyddiaeth organig
17 Ebrill 2007
Bydd gradd BSc newydd mewn amaethyddiaeth organig yn cael ei chynnig o fis Medi 2007 ymlaen, wedi ei thargedu at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau HND neu gradd sylfaenol mewn amaethyddiaeth cyffredinol neu organig neu bwnc perthnasol.
'After Trident: Peace and Proliferation?'
23 Ebrill 2007
Bydd y newyddiadurwr a'r awdur enwog John Gittings yn traddodi Darlith Flynyddol 2007 Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies yn y Brifysgol ddydd Mercher 25 Ebrill. Cynhelir y ddarlith, a fydd yn agored i'r cyhoedd, yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, am 6.00 y.h.
Yr Haul mewn 3D
23 Ebrill 2007
Mae gwyddonwyr o Aber wedi cynhyrchu'r darluniau tri dimensiwn cyntaf oll o'r haul gan defnyddio data o STEREO (Solar TErrestrial RElations Observatory), taith ofod NASA, a gafodd ei lansio yn llwyddiannus yn Hydref 2006.
Llwyddiant rhagbrawf Pencampwriaethau'r Byd
27 Ebrill 2007
Cafodd y rownd ragbrofol paralympaidd olaf ar gyfer Pencamwriaethau Para Dressage y Byd, ei chynnal yng Nghanolfan Geffylau'r Brifysgol ddydd Sadwrn 28 Ebrill, ac yn ôl y cystadleuwyr a'r beirniad roedd yn llwyddiant mawr.
Gweithredu Polisi Dim Ysmygu newydd y Brifysgol
02 Ebrill 2007
O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth newydd i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru sydd yn dod i rym ddydd Llun 2 Ebrill 2007, mae'r Brifysgol wedi diweddaru ei Pholisi Ysmygu i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth.