Urddo chwe Chymrawd
Seremoni graddio cymrodorion
04 Ebrill 2007
Prifysgol Cymru, Aberystwyth i urddo chwe Chymrawd newydd yn ystod Seremoniau Graddio 2007
Eleni bydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn urddo Sefydlydd cwmni Ffilmiau'r Nant, cyn fyfyriwr a Phrif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw, Prif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig, Actor a seren y sioe gerdd ‘Phantom of the Opera', Un o sefydlwyr Coleg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth, a Phrif Weithredwr a Dirprwy Gadeirydd Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronynnau a Seryddiaeth Prydain, yn Gymrodyr.
Rhoddir y teitl Cymrawd er Anrhydedd i rai sydd naill ai'n gyn-fyfyrwyr o fri neu sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, neu â bywyd Cymru. Eleni bydd y Cymrodyr yn cael eu cyflwyno yn ystod wythnos y seremonïau gradd ym mis Ngorffennaf.
Cymrodyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth 2007:
Mr Wil Aaron
Sefydlydd cwmni Ffilmiau’r Nant.
Cynhyrchydd a gohebydd.
Dr Timothy Brain QPM, BA, PhD, FRSA
Cyn fyfyrwiwr a Phrif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw
Aelod o Fyrddau Ymgynhorol Hanes a Hanes Cymru a’r Ysgol Rheolaeth a Busnes
Ms Lynne Brindley MA, FCILIP, FRSA
Prif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig
Cadeirydd Cynghrair Cadwraeth Digidol y Deyrnas Unedig
Mr Peter Karrie
Actor a seren y sioe gerdd ‘Phantom of the Opera’.
Wedi cyd-weithio’n agos â Chanolfan y Celfyddydau droeon.
Yr Arglwydd Livesey o Dalgarth Frycheiniog a Maesyfed MSc
Cyn-aelod Seneddol dros Sir
Cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Un o sefydlwyr Coleg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth
Yr Athro Keith Mason
Prif Weithredwr a Dirprwy Gadeirydd Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronynnau a Seryddiaeth Prydain
Prif Weithredwr y Cyngor Cyfleusterau Mawr