Y Brifysgol yn lansio gradd newydd ategol mewn amaethyddiaeth organig

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig

17 Ebrill 2007

Dydd Mawrth 17 Ebrill 2007
Y Brifysgol yn lansio gradd newydd ategol mewn amaethyddiaeth organig
Bydd gradd BSc newydd mewn amaethyddiaeth organig yn cael ei chynnig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) o fis Medi 2007 ymlaen.  Mae'r radd wedi ei thargedu at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau HND neu gradd sylfaenol mewn amaethyddiaeth cyffredinol neu organig neu bwnc perthnasol.  Gall hefyd fod o ddiddordeb i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau y ddwy flynedd gyntaf o radd BSc arferol.

Mae'r radd ategol newydd yn cynrychioli ail-strwythuro’r ddarpariaeth amaethyddiaeth organig o fewn Sefydliad Gwyddorau Gwledig PCA, sef y sefydliad cyntaf yn y Deurnas Gyfunol i gynnig gradd mewn amaethyddiaeth organig yn 1998.

Golyga’r strwythur newydd bod yr holl gyrsiau (da byw, cnydau, busnes, marchnata, yr amgylchedd a prosiect ymchwil neu rheolaeth) yn cael eu cynnal yn ystod blwyddyn olaf cynllun gradd BSc.

Dywedodd cydlynydd y cynllun Dr Nic Lampkin: “Mae’r cynllun newydd yn cydnabod nad yw nifer o fyfyrwyr yn datblygu diddordeb mewn ffermio organig tan yn ystod neu ar ôl eu astudiaethau cychwynol a gall y rhai sy’n gadael ysgol fod yn amharod i ymrwymo i gymhywster arbenigol mewn amaethyddiaeth organig.  Bydd y strwythur newydd yn galluogi myfyrwyr i fanteisio ar yr ymchwil pwysig ac eang i amaethyddiaeth organig sydd yn cael ei wneud yn y Sefydliad a hynny mewn modd mwy penodol.”

Mae gan Sefydliad Y Gwyddorau Gwledig raglen ffermio organig weithredol sy’n yn gymorth i’r dysgu.  Dyma hefyd yw lleoliad Canolfan Organig Cymru (www.organic.aber.ac.uk), sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig i gynhyrchwyr, defnyddwyr ac eraill yng Nghymru.

Dr Nic Lampkin, prif awdur/golygydd y testun safonol Organic Farming ac Organic Farm Management Handbook, sydd yn arwain y cynllun.

Ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi cael gradd BSc, mae rhaglen uwchraddedig debyg ar gael yn ogystal.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda rheolwr y cwrs Dr Phillipa Nicholas, pkn@aber.ac.uk.

Nodiadau ar gyfer y Golygydd:

http://www.irs.aber.ac.uk/subjects/ag/index.shtml

·         Mae dros 600 o fyfyrwyr yn astudio yn Sefydliad Y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth
·         Mae Aberystwyth wedi bod yn darparu cyrsiau mewn amaethyddiaeth ers mwy na 120 o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwn datblygodd y Brifysgol enw da am fod yn un o’r sefydliadau mwyaf blaengar o safbwynt cyrsiau gradd a diploma mewn Amaethyddiaeth.
·         Mae ffermydd y Brifysgol, sydd yn ymestyn dros 560 hectar, yn cynnig ystod eang o adnoddau ar gyfer dysgu. Maent yn cael eu ffermio’n fasnachol yn ogystal â chael eu defnyddio ar gyfer dysgu ac ymchwil.
·         Mae’r Sefydliad yn cynnig ystod o fwrseriaethau myfyrwyr sydd werth rhwng £800 a £1000.
·         Lleolir Canolfan Organig Cymru (www.organic.aber.ac.uk) yn Sefydliad y Gwyddorau Gwledig. Mae’n darparu cyngor, hyfforddiant ac addysg ac yn gwneud gwaith ymchwil i amaethyddiaeth ogranig.

·         Mae uned Arolwg Busnes Fferm wedi ei lleoli o fewn y sefydliad ac yn cynnal arolwg o 600 o ffermydd yng Nghymru ac yn adnodd o bwys ar gyfer addysg myfyrwyr. Mae’r Arolwg yn cyfuno data ariannol a materol ac mae’r Sefydliad yn cyhoeddu’r canlyniadau yn flynyddol.
·         Mae’r cyrsiau Amaethyddiaeth Organig canlynol yn cael eu cynnig gan Sefydliad y Gwyddorau Gwledig:
o        BSc (Anrh) Amaethyddiaeth Organig Ategol
o        Tystysgrif Olraddedig mewn Rheolaeth Busnes Organig, Cynhyrchu Da Byw a’r Amgylchedd
o        Tystysgrif Olraddedig mewn Amaethyddiaeth Organig

Modiwlau
o        Amaethyddiaeth Organig (israddedig, lefel 2)
o        Cynhyrchu Cnydau Organig (israddedig, lefel 3)
o        Sustemau Amaeth-Bwyd a Marchnata (israddedig, lefel 3)
o        Yr Amgylchedd-Amaeth (israddedig, lefel 3)
o        Rheolaeth a Iechyd Da Byw Organig (israddedig (lefel 3) ac olraddedig)
o        Rheolaeth Busnes Organig (israddedig (lefel 3) ac olraddedig)