Hyfforddi yng Ngheredigion
01 Mawrth 2006
“Hyrwyddo cyfleoedd. Cyffroi Cymunedau. Gwella ansawdd bywyd”
Bydd menter newydd bwysig fydd yn cynnig hyfforddiant am ddim i drigolion 10 ardal Cyngor Sir Ceredigion, yn cael ei lawnsio yng Nghanolfan Edward Richard, Ystad Meurig nos Llun yr 20fed o Chwefror gan Prifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA).
Bydd Dysgu Gyda'n Gilydd / Learning Together yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a all gynnwys unrhywbeth o olrhain achau i sgilliau cyfrifiadurol, neu gadw a chynnal ceir i gelf, ar gyfer pobl sy'n byw yng nghymunedau Llangeitho, Lledrod, Tregaron, Llanfihangel Ystrad, Llanarth, Llangybi, Capel Dewi, Troed yr Aur, Llandyfriog a Phenbryn.
Ond, cyn trefnu unrhyw hyfforddiant, cynhelir ymgynghoriad eang gyda unigolion a chynrychiolwyr sefydliadau yn yr ardal. Canlyniad hyn fydd rhaglen hyfforddi wedi e chynllunio at anghenion arbennig pob un o’r cymunedau.
Mae’r cyfarfod yn Ystrad Meurig, sy’n dechrau am 7.30 yh, wedi ei anelu at bobl sy’n byw yn Lledrod, Ystrad Meurig, Swydd Fynnon, Pontrhydfendigaid a Pontrhydygroes. Bydd yr ail gyfarfod yn yr ardal yma yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Tregaron ar ddydd Mawrth y 14eg o Fawrth am 7.30. Cyfarfod ar gyfer trigolion Tregaron fydd hwn.
Dafydd Wyn Morgan o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes PCA yw rheolwr y prosiect. “Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn all fod o fudd mawr i unigolion a’u cymunedau. Drwy gyd-weithio gyda phob cymuned gallwn adnabod eu anghenion neilltuol a chynnig cyfleoedd na fyddai ar gael iddynt fel arall.”
“Rydym wedi gosod targed i gofrestri dros 140 o unigolion dros ddwy flynedd y prosiect. Mae tri maen prawf sydd yn rhaid i berson gyrraedd er mwyn bod yn gymwys; rhaid iddynt fod dros 16, yn ddi-waith neu mewn gwaith rhan amser neu gyflog isel ac yn byw o fewn y 10 ardal benodedig (gweler uchod). Bydd gofal plant hefyd yn cael ei ystyried yng-nghyd â chyngor gyrfa” ychwanegodd.
Arianwyd y prosiect yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd - Y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Canolbwynt y prosiect yw Ceredigion, Canolbarth Cymru, ac mae’n targedi unigolion a grwpiau o fewn 10 ardal Amcan 1, Blaenoriaeth 3 o fewn y Sir. Mae manylion pellach ar gael gan rheolwr y cynllun Dafydd Wyn Morgan ar 01970 628516, e-bostiwch wwm@aber.ac.uk