Rhwydwaith newydd i wella profiadau plant sy’n ffoi - nod cynhadledd
Cynllun symud ffoaduriaid yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel - plant o Napoli ar drên i fynd â nhw i Emilia Romagna
05 Medi 2024
Mae arbenigwyr yn gobeithio sefydlu rhwydwaith ymchwil newydd i wella profiadau plant sy'n ffoi mewn cynhadledd a gynhelir yn Aberystwyth y mis hwn.
Y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n trefnu’r digwyddiad deuddydd lle y bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr, sydd â ddiddordeb mewn mudo plant a phobl ifanc, yn dod at ei gilydd o bob cwr o Brydain.
Bydd y gynhadledd academaidd yn trafod heriau a manteision cymharu profiadau plant ar ffo yn y gorffennol â phlant sydd yn ffoaduriaid heddiw, yn ogystal â’r rhan y mae adrodd straeon yn ei chwarae wrth ddygymod â mudo gorfodol.
Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn ystyried profiadau ffoaduriaid yn yr Ail Ryfel Byd a'r hyn y gellir ei ddysgu o’r profiadau hynny, a brwydrau plant a phobl ifanc sy'n chwilio am loches heddiw.
Dywedodd Andrea Hammel, sydd yn gyd-drefnydd y gynhadledd, ac yn Athro’r Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Un nod i’r gynhadledd hon yw dod ag academyddion a phobl sy'n gweithio i gyrff anllywodraethol, fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru a British Future, ynghyd i drafod sut y gallwn newid ein ffordd o siarad am blant sydd yn ffoaduriaid ym Mhrydain a ledled y byd, a dod o hyd i ffyrdd newydd ymlaen."
Bydd academyddion o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, ynghyd ag arbenigwyr o Brifysgol Nottingham Trent, Prifysgol Reading, Université Paris 1-Panthéon-Sorbonne, Prifysgol Birmingham, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a British Future yn siarad yn y digwyddiad.
Ychwanegodd un o drefnwyr y gynhadledd, Dr Elena Anna Spagnuolo o Brifysgol Aberystwyth:
"Dros y ganrif ddiwethaf, cymerwyd camau i symud plant allan o berygl ledled y byd, er enghraifft yn Sbaen, yr Eidal, a'r Deyrnas Unedig. Mae'r cysylltiad rhwng y cynlluniau hynny a phrofiadau plant ar ffo heddiw yn amlwg.
"Er bod yn rhaid ymchwilio i'r cynlluniau hynny yn ôl eu cyd-destunau cymdeithasol-ddiwylliannol a gwleidyddol eu hun, gellir gweld sawl tebygrwydd a phatrwm cyffredin. Bydd y rhain yn gallu bod yn fan cychwyn ar gyfer cydweithio cynhyrchiol rhwng ymchwilwyr sy'n gweithio mewn gwahanol wledydd, gyda'r nod o gefnogi a chynorthwyo plant sydd yn ffoaduriaid."
Cynhelir ‘Yesterday, Today, Tomorrow: Narrating Stories of Child Evacuees and Refugees, Rethinking Reception Policies and Practices’ ar 19-20 Medi.
Mae’r manylion llawn, gan gynnwys y manylion cofrestru, ar gael ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/e/yesterday-today-tomorrow-narrating-stories-of-child-evacuees-and-refugee-tickets-1002883981987
Mae croeso i bawb, ac fe fydd o ddiddordeb arbennig i ymchwilwyr, myfyrwyr PhD ac ymarferwyr sy’n ymddiddori ym mhrofiadau plant sy’n mudo.
Trefnir y digwyddiad gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth y Sefydliad Ieithoedd, Diwylliannau a Chymdeithasau yn Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain.