Academydd o Aberystwyth yn traddodi darlith yn senedd yr Almaen
Yr Athro Andrea Hammel (chwith) gyda Lukas Geck, Cyfarwyddwr Arddangosfa 'I said Auf Wiedersehen' yn y Bundestag yn Berlin.
09 Chwefror 2024
Yr wythnos hon, cyflwynodd academydd o Brifysgol Aberystwyth, sy’n arbenigwr ar y cynllun Kindertransport, ganfyddiadau ei hymchwil helaeth yn senedd genedlaethol yr Almaen yn Berlin.
Traddododd Andrea Hammel, Athro Almaeneg a Chyfarwyddwr Canolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddarlith yn y Bundestag, Senedd genedlaethol Gweriniaeth Ffederal yr Almaen.
Achubwyd 10,000 o blant Iddewig mewn cyfnod o ddeng mis yn union cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.
Er bod hyn yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn stori o lwyddiant o gyfnod y rhyfel sy’n ennyn teimladau da ac yn enghraifft gadarnhaol o agwedd ddyngarol ac anhunanol y Deyrnas Unedig tuag at ffoaduriaid yn y gorffennol, dadleuai darlith yr Athro Hammel y dylid edrych ar ei etifeddiaeth â llygaid mwy beirniadol.
Cyn traddodi ei darlith, dywedodd yr Athro Hammel:
"Mae cynllun Kindertransport wedi cael ei gofio fel cynllun hael dan arweiniad y llywodraeth - hanes arwrol o achub a gyflawnwyd er gwaethaf popeth. Y gwir yw, mai prin oedd yr adnoddau a roddwyd gan lywodraeth Prydain i'r cynllun, a ddibynnodd yn hytrach ar roddion elusennol a gwirfoddolwyr.
"Hefyd, dim ond rheolau fisa i blant a laciwyd gan lywodraeth Prydain - gwrthodwyd derbyn rhieni'r plant, am eu bod yn poeni y gallent gystadlu am swyddi ar adeg o ddiweithdra uchel ymhlith gweithwyr Prydain. Ar ben hyn, nid yr achosion mwyaf argyfyngus a gafodd eu blaenoriaethu wrth ddethol, ond y rhai a oedd yn debygol o roi'r argraff orau ac a allai wneud y cyfraniad mwyaf i gymdeithas yn y dyfodol. Ac fe roddwyd rhai plant a phobl ifanc mewn cartrefi anaddas, a hynny weithiau gyda chanlyniadau ofnadwy.
"Rwy'n falch iawn mod i wedi cael fy ngwahodd i rannu fy ymchwil ar gynllun Kindertransport yn y Bundestag. Credaf yn gryf fod llawer y gall hanes ei ddysgu i ni am y ffordd y cafodd ffoaduriaid eu trin yn hanesyddol, a allai wneud bywyd yn haws i blant sy'n ffoi rhag gwrthdaro heddiw, ac mae'n bwysig ein bod yn meddwl yn realistig am lwyddiant ond hefyd am ddiffygion Kindertransport.
"Roedd fy narlith yn cyd-daro ag arddangosfa deimladwy iawn, 'Dywedais, 'Auf Wiedersehen'' a gefnogwyd gan sefydliad Bertold Leibinger Stiftung a chanolfan Freundeskreis Yad Vashem. Mae'r arddangosfa'n darlunio, trwy gyfrwng llythyrau a chardiau post, y gwahanu torcalonnus i bump o deuluoedd y ffodd eu plant ar y Kindertransport."
Meddai curadur yr arddangosfa, Ruth Ur:
"Roeddem yn hynod falch bod yr Athro Hammel wedi gallu cyflwyno ei hymchwil a'i llyfr diweddaraf yn y Bundestag. Gallodd ddangos hanes cymhleth y Kindertransport a rhoi cyd-destun i'r llythyrau a'r cardiau post a gyflwynir yn ein harddangosfa 'Dywedais Auf Wiedersehen' rhwng y ffoaduriaid bach ym Mhrydain a'r rhieni a'r teuluoedd a adawyd ar ôl ar y Cyfandir."
Cyhoeddwyd llyfr yr Athro Andrea Hammel, 'Kindertransport - What Really Happened' (Polity Books) i nodi 85 mlynedd ers cynllun Kindertransport ym mis Tachwedd 2023.