Modelu Mathemategol o Strwythurau, Solidau a Llifyddion
Trosolwg
Mae diddordebau'r grŵp yn cwmpasu mecaneg solid a llifydd, rheoleg a meteoroleg. Mae hyn yn cynnwys elastigedd a phroblemau aml-ffiseg; biomecaneg; problemau trosglwyddiad mewn parthau nad ydynt yn llyfn; plastigedd a gludedd; ymddygiad llifol o lifyddion elastig-gludiog, gan gynnwys toddiadau polymer; strwythur a dynameg ewynnau a deunydd cysylltiedig; dadansoddiad llinol o lifyddion cymhleth; problemau trosglwyddiad màs optimaidd a’u cymwysiadau; damcaniaeth fesur a dadansoddiad amgrwm. Mae ein dulliau o ymdrin â'r problemau yma yn cynnwys modelu, dadansoddiad mathemategol cywir, efelychiad rhifiadol ac arbrofi.
Meysydd Ymchwil
Ymysg diddordebau Gennady Mishuris ac Adam Vellender mae meysydd hynod, rhyngwynebau amherffaith a rhyngwynebau tenau mewn deunydd cyfansawdd, modelu mathemategol o holltau mewn cyfryngau anghydryw, problemau dynameg mewn solidau a strwythurau, deunydd plastig a phlastig gludiog. Yn enwedig, mae dadansoddiad asymptotig o ddatrysiadau yn agos at bwyntiau afreolaidd, lledaeniad craciau, tonnau mewn cyfryngau cymhleth, cyfiawnhad o leihad dimensiynol, problemau cyswllt mewn biomecaneg, ac effeithiau newydd o ganlyniad ymddygiad deunydd penodol o flaen rhyngwynebau a diffygion.
Problemau trosglwyddiad màs optimaidd a’u cymwysiadau ydy prif-ddiddordeb ymchwil Rob Douglas ynghyd â phrofi canlyniadau manwl gan ddefnyddio damcaniaeth mesur a dadansoddiad amgrwm (a’i gyffredinoliadau). Cymhelliant rhai problemau ydy meteoroleg megis, er enghraifft, dod o hyd i ffyrdd mwy soffistigedig o fesur cyfeiliornad wrth ragweld y tywydd, tra bo rhai eraill yn ymwneud â nodweddion y systemau hafaliadau differol rhannol. Mae hefyd ganddo ddiddordeb mewn dadansoddiad llinol o lifyddion cymhleth.
Mae gan Simon Cox a Tudur Davies ddiddordeb mewn modelu strwythur a dynameg ewynnau a deunydd tebyg, a rheoleg yn gyffredinol. Mae nhw’n gweithio gydag Edwin Flikkema ar ddarganfod strwythur geometrig a thopolegol ewynnau statig. Mae’r ymchwil yn ymwneud â datrysiad o hafaliadau differol rhannol, efelychiad rhifiadol o strwythurau cellog yn ffiseg a bioleg a dyfeisio arbrofion perthnasol. Mae diddordeb hefyd gyda Cox mewn cymhwyso llif potensial i broblemau o donnau'n torri, ac mae’n gweithio gyda Mishuris ar lifoedd crymedd canolig. Mae Adil Mughal yn astudio’r effeithiau topoleg a geometreg mewn ffiseg mater dwys. Yn enwedig, mae ganddo ddiddordeb mewn problemau pacio, ewynnau a’r rôl geometregau cydffurfiol yn y systemau yma.
Cynhelir ymchwil gan aelodau’r grŵp ymchwil mewn cydweithrediad â phartneriaid Ewropeaidd, gyda nawdd FP7 a Horizon2020.