Ymchwil mewn Mathemateg
Rydym fel sefydliad yn rhoi pwyslais cryf ar waith ymchwil, ac yn cefnogi grwpiau ymchwil sy'n gweithio'n flaenllaw ym maes gwyddoniaeth ar lefel byd-eang.
- Mae diddordebau'r grŵp Modelu Mathemategol o Strwythurau, Solidau a Llifyddion yn cwmpasu problemau gwahanol mewn mecaneg solidau a llifyddion yn ogystal â dadansoddiad mathemategol ohonynt.
- Mae'r grŵp Strwythurau, Gwybodaeth a Rheolaeth Cwantwm yn gweithio mewn maes o systemau cwantwm yn rhyngweithio â'i cynefin, ac yn benodol y maes newydd o beirianeg rheolaeth cwantwm.
- Mae'r grŵp Cyfuniadeg Algebraidd yn weithgar mewn theori dylunio, theori codio a theori cynrychiolaeth o grwpiau Weyl a'r algebrau Hecke cysylltiol.
- Mae diddordebau'r Grŵp Ystadegaeth yn cynnwys cymhwyso ystadegaeth i fioleg a biowybodeg.
Mae'r ymchwilwyr ym mhob grŵp yn ymwneud â chynlluniau cydweithio ehangach.