150 blynedd o Fathemateg

06 Mehefin 2023

Mae’r flwyddyn academaidd hon yn nodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu Prifysgol Aberystwyth, a hefyd 150 mlynedd o addysgu Mathemateg yn y Brifysgol. Penodwyd Horatio Nelson Grimley i addysgu Mathemateg yn y Brifysgol yn 1872, ac mae Mathemateg wedi parhau i gael ei ddysgu yma ers hynny.

Er mwyn nodi’r achlysur, rydym wedi llunio llyfryn o bortreadau bychain o’n cyn benaethiaid adran. Fe fyddwn yn lansio’r llyfryn yn Aberystwyth yn ystod dathliadau’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr rhwng dydd Gwener, Mehefin 23ain a dydd Sul, Mehefin 25ain. Byddem wrth ein bodd pe baech yn gallu ymuno â ni.

Fe fyddwn yn cynnal dathliad (gan gynnwys cacen!) am 3pm ar ddydd Sadwrn, Mehefin 24ain, yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol. Mae croeso i bawb. Gall cyn-fyfyrwyr gofrestru trwy
https://www.aber.ac.uk/cy/development/newsandevents/events/reunion-weekend-2023/ ond dylai unrhyw un arall anfon neges e-bost i maths@aber.ac.uk erbyn Mehefin 12fed.