Cyflogadwyedd
Mae parch mawr i’n cynlluniau gradd cyffrous sy’n hynod berthnasol i’r gweithle, ac mae hyn yn dangos bod ein haddysg arloesol yn sicrhau y gallwch symud yn rhwydd o fywyd prifysgol i’r byd proffesiynol.
Bydd ein graddau Mathemateg yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddi lle croesewir sgiliau dadansoddol a chyfrifiadurol yn benodol. Rydym yn darparu hyfforddiant ymarferol wrth gymhwyso mathemateg ac er mwyn eich helpu chi i gyflwyno eich hun a'ch gwaith. Mae ein myfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi ym meysydd cyfrifeg a bancio, yswiriant ac mewn cwmnïau actiwaraidd, adrannau addysgu, meddygol ac ystadegau'r llywodraeth, gweithgynhyrchu awyrofod, a llawer o feysydd eraill.
Bydd cynnal astudiaethau a gwaith prosiect pellach yn rhan o’n graddau meistr integredig a’n cyrsiau Gwyddor Data ac Ystadegau uwchraddedig ar gyfer Bioleg Gyfrifiadurol yn agor drysau i yrfaoedd ymchwil ac i gwmnïau sy’n defnyddio "data mawr".
Er mwyn ichi lwyddo yn y farchnad swyddi, mae rhai o'n cyrsiau yn cynnig blwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn graddio â’r sgiliau a'r profiad angenrheidiol fel y gallwch gamu i mewn i'r farchnad swyddi yn gynt na’ch cyfoedion.