Amdanom ni
Croeso i'r Adran Mathemateg.
Mae "Mathemateg ger y Lli" yn rhan o waith Aberystwyth byth ers i'r Brifysgol agor ei drysau am y tro cyntaf.
Yn wir, Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf i ddysgu Mathemateg yng Nghymru. Wrth reswm, mae'r dulliau dysgu wedi newid ers i'r Athro Mathemateg cyntaf, Horatio Nelson Grimley, groesawu ei fyfyrwyr yn 1872, ond mae ein hamcan, o hyd, yw darparu addysg o'r ansawdd orau mewn amgylchedd sy'n gyfeillgar a chefnogol.
Rydym yn adran glos o staff ymchwil sy'n canolbwyntio ar sut mae ein myfyrwyr yn dysgu, yn datblygu ac yn cael eu bodloni tra byddant yma yn Aberystwyth. Wrth ddysgu ein myfyrwyr, rydym yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtora bychain a sesiynau ymarferol er mwyn ymchwilio i gyfoeth cynhenid Mathemateg a throi Mathemateg ac Ystadegau yn gymwysiadau ymarferol.
Mae ymchwil yr adran yn dod â thair disgyblaeth ynghyd, sef Mathemateg Bur, Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegau. Mae gan ein darlithwyr arbenigedd mewn pynciau megis theori plethau ac algebrâu gweithredyddion, modelu mathemategol a rhifiadol ar strwythurau a hylifau, ac ystadegau a gymhwysir at setiau data biolegol.
Mae ein cyrsiau Mathemateg anrhydedd sengl wedi'u hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (yr IMA), sy'n golygu y bydd myfyrwyr yn bodloni'r gofynion addysgol er mwyn iddynt gael eu cydnabod fel Mathemategwyr Siartredig. Yr hyn sy’n sail i’r cyrsiau hyn yw algebra a chalcwlws. Mae hyn yn golygu bod gan fyfyrwyr ddewis eang o opsiynau blwyddyn olaf mewn pynciau megis dadansoddi mathemategol, ystadegau biolegol, mecaneg hylif a soledau, ac algebrâu gweithredyddion. Yn ogystal â'n cyrsiau anrhydedd sengl, gall myfyrwyr astudio cyrsiau anrhydedd gyfun mewn cydweithrediad ag adrannau eraill yn y brifysgol, a gallant arbenigo mewn meysydd megis ffiseg fathemategol a gwyddor data.
Mae gan yr adran enw ardderchog am ansawdd ei dysgu a’i haddysgu, yn ogystal â’r amgylchedd dysgu. Rydym ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd gyda'r Dysgu, yr Asesu a'r Adborth mewn Mathemateg (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023) ac rydym yn ail yn y DU am brofiad myfyrwyr ar gyfer pwnc Mathemateg (GUG 2023).
Mae ein myfyrwyr yn elwa ar gymdeithas fywiog, sef y Gymdeithas Fathemateg, ac maent wedi mynd yn eu blaenau i yrfaoedd llwyddiannus ym maes cyllid, dysgu, diwydiant a llawer mwy. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i hyrwyddo cyfleoedd gwaith yn ogystal â'r posibilrwydd o astudio pellach.
Yng Nghymru, mae'r Adran yn chwarae rhan arweiniol wrth ddysgu mathemateg ar lefel addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Treuliwch beth amser yn pori drwy ein gwefan a dysgwch ragor am ein cyrsiau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. Os nad ydych erioed wedi ymweld ag Aberystwyth, dewch i un o'n Diwrnodau Agored neu Ddiwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr i weld pam mai ni yw un o brifysgolion gorau'r Deyrnas Unedig am foddhad myfyrwyr. Cewch gyfle hefyd i gwrdd â rhai o'r staff sy'n cyfrannu at ein hamgylchedd croesawgar.
Dr Gwion Evans
Pennaeth Adran