Ecoleg

 

Mae’r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau ym maes pwnc Ecoleg. O Amrywiaeth Anifeiliaid a Phlanhigion i fodiwlau ar Ffyngau ac Adar, rydym yn sicr y byddwch yn dod o hyd i bwnc diddorol i’w astudio.

Rhagflasau Fideo Ecoleg

Llythyrau Cychwyn Cwrs Ecoleg

Gallwch astudio modiwlau unigol, neu gallwch weithio tuag at Dystysgrif mewn Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes ac yna, os dymunwch, Ddiploma.

Cyflwynir ein cyrsiau mewn 3 fformat gwahanol:

Dysgu ar-lein ar eich cyflymdra eich hun; a gyflwynir drwy Blackboard, ein hamgylchedd dysgu ar-lein.

Dysgu wyneb yn wyneb mewn amryw o leoliadau ecoleg ledled Cymru.

Dysgu cyfunol; cymysgedd o’r ddau, lle byddwch chi’n astudio nifer o unedau ar-lein ar eich cyflymdra eich hun cyn mynychu 1 neu 2 ddiwrnod o ddysgu wyneb yn wyneb mewn lleoliad ecoleg yng Nghymru.

Pa ffordd bynnag y dewiswch astudio gyda ni, fe wnawn yn sicr y cewch ddigon o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn ichi wneud y mwyaf o'ch profiad o ddysgu. Mae pob un o'n modiwlau wedi'u hachredu gan y brifysgol ac mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o ddarparu addysg oedolion.   

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, e-bostiwch Elin Mabbutt emm32@aber.ac.uk. Os oes gennych ymholiadau gweinyddol, e-bostiwch y Swyddfa Dysgu Gydol Oes, dysgu@aber.ac.uk.