Dirgelwch am pam fo trapiau glas yn dal pryfed wedi’i ddatrys – ymchwil
Dr Roger Santer, Prifysgol Aberystwyth
28 Mehefin 2023
Mae’r dull traddodiadol o ddefnyddio trapiau glas i dal pryfed yn gweithio oherwydd bod y pryfed yn drysu’r lliw gydag anifeiliaid y maen nhw’n dymuno eu cnoi, yn ôl ymchwil newydd a gafodd ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth.
O bryfed du i bryfed tsetse, ers blynyddoedd mae trapiau glas wedi cael eu defnyddio i ddenu a dal pryfed sy’n cnoi, gan gynnig dull pwysig ar gyfer rheoli clefydau a gaiff eu trosglwyddo gan bryfed fel salwch cysgu. Fodd bynnag, doedd e ddim yn glir pam eu bod yn gweithio.
Roedd gan wyddonwyr amryw o ddamcaniaethau, gan gynnwys y gallai arwynebau glas edrych fel mannau cysgodol i orffwys i bryfed neu fel anifeiliaid i’w cnoi.
Aeth tîm, a gafodd ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, i’r afael â’r broblem drwy hyfforddi rhwydweithiau niwral artiffisial i ddynwared prosesu gweledol mewn ymennydd pryfyn.
Mae rhwydweithiau niwral artiffisial yn fath o ddysgu peirianyddol sydd wedi’i ysbrydoli gan strwythur systemau nerfol go iawn.
Gan ddefnyddio'r un signalau ffotoreceptor â phryfed go iawn, dysgodd y rhwydweithiau hyn i ganfod anifeiliaid trwy gymharu signalau ffotoreceptors glas a gwyrdd-sensitif, ond canfuwyd cysgod gan ddefnyddio disgleirdeb. Yna fe wnaethant gamgymryd trapiau pryfed glas ar gyfer anifeiliaid, gan awgrymu bod pryfed yn gwneud yr un peth.
Dywedodd Dr Roger Santer o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, a arweiniodd yr astudiaeth:
“Mae pam fo pryfed sy’n cnoi yn cael eu denu’n arbennig i drapiau glas wedi bod yn bôs go iawn i ymchwilwyr. Ein syniad ni oedd y gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddod o hyd i’r ffordd orau o adnabod ysgogiadau naturiol gan ddefnyddio signalau ffotoreceptor pryfed, ac roedden ni’n disgwyl i hynny ymdebygu i’r prosesau sy’n digwydd mewn ymennydd pryfed go iawn. Y syndod oedd bod y mecanweithiau gorau ar gyfer adnabod anifeiliaid a chysgod yn hollol wahanol. Er nad oedd y trapiau glas yn edrych yn ddim byd tebyg i anifeiliaid o safbwynt dynol, roeddent yn ysgogi'r mecanweithiau a oedd yn adnabod anifeiliaid orau gan ddefnyddio signalau ffotoreceptor pryfed.
“Os gallwn ni ddeall y mecanweithiau sy’n denu pryfed i drapiau lliw, gallwn ni wella lliw’r trapiau hynny fel eu bod yn dal pryfed yn fwy effeithlon. Mae hwn yn nod pwysig iawn oherwydd bod gwahanol rywogaethau o bryfed sy’n cnoi yn lledaenu afiechydon pobl ac anifeiliaid pwysig, felly mae rheoli pryfed yn rhan bwysig o reoli clefydau.”
Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y cyfnodolyn Proceedings of the Royal Society B.