Sgriniau cyffwrdd i brofi a yw ceffylau yn dioddef o iselder a chwsg gwael

Dr Sebastian McBride, Naomi Banister, Alice Catherine O'Reilly

Dr Sebastian McBride, Naomi Banister, Alice Catherine O'Reilly

20 Chwefror 2025

Mae academyddion yn ymchwilio i weld a yw newidiadau yn yr amodau byw yn gallu achosi iselder mewn ceffylau gan ddefnyddio sgriniau y mae’r anifeiliaid yn cyffwrdd â nhw â’u trwyn.

Yng nghanolfan ceffylau Prifysgol Aberystwyth, bydd ceffylau yn defnyddio sgriniau cyffwrdd awtomataidd pwrpasol i brofi eu gallu gwybyddol.

Bydd gofyn i’r anifeiliaid wahaniaethu a pharu gwahanol ddelweddau ar y sgriniau, a byddant  yn cael eu gwobrwyo gyda bwyd pan fyddant yn eu hadnabod yn gywir.

Credir y gall rhai ceffylau ymateb i amgylcheddau llawn straen trwy iselder ymddygiadol, fel iselder clinigol mewn bodau dynol, gyda symptomau fel ymddygiad encilgar, syllu a diffyg symud.

Fodd bynnag, ni wyddys i ba raddau y mae ceffylau yn dioddef iselder. Un rheswm posibl am yr ansicrwydd hwn yw bod ‘encilio’ yn cael ei ystyried yn ymddygiad arferol i geffylau mewn stablau.

Gan ddefnyddio technoleg cyffwrdd sgriniau a phrofion gwybyddol, bydd yr ymchwil yn dechrau adnabod yr anifeiliaid hyn a gweithio allan pa elfennau o’u hamgylchedd sy’n achosi iselder.

Mae gan yr ymchwil oblygiadau ar gyfer sut mae ceffylau’n cael eu cadw a’u trin mewn stablau ac amgylchiadau eraill.

Dywedodd Dr Sebastian McBride sy’n arwain yr ymchwil yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

“Mae iselder ymddygiadol yn anodd ei ddeall mewn ceffylau. Os edrychwch chi ar geffyl mewn stabl a'i ben i lawr, a yw’n gysglyd? A yw'n cysgu neu'n gorffwys? Neu a yw mewn cyflwr o iselder ymddygiadol? Mae’n anodd ei adnabod yn glinigol ac mae’n rhywbeth yr ydyn ni’n gweithio arno fe i wella ein dealltwriaeth.

“Mae llawer o geffylau’n cael eu cadw mewn amgylchedd lle nad yw eu hanghenion ymddygiad dyddiol yn cael eu diwallu neu lle maen nhw’n profi pyliau rheolaidd o straen. Mae'n hysbys bod sefyllfaoedd o straen cronig o'r fath yn cynhyrchu newidiadau niwroffisiolegol a all achosi ystod o symptomau ymddygiadol. Yn fwy diweddar, awgrymwyd y gallai rhai ceffylau fod yn ymateb i amgylcheddau llawn straen trwy iselder ymddygiadol.

“Un o nodau’r astudiaeth hon yw datblygu dull i nodi a yw iselder ymddygiadol mewn ceffylau yn bodoli, ac os ydyw, dechrau asesu pam mor gyffredin yw e o fewn poblogaethau ceffylau. Mae’n bosibl defnyddio mesurau ffisiolegol, newidiadau yng nghyfradd curiad y galon neu bwysedd gwaed i ymchwilio i gyflwr meddwl ceffylau ond yn aml mae'n anodd dehongli'r data hwn oherwydd gall yr un ymateb corfforol gael ei achosi gan wahanol gyflyrau.

“Mae tasg paru-i-sampl eisoes wedi’i dilysu mewn ceffylau, felly mae ganddi botensial cryf i ymchwilio i’r achosion presennol o iselder ymddygiadol mewn ceffylau. Nod yr astudiaeth hon, felly, yw datblygu’r dechneg a dechrau proses o sefydlu gwaelodlin ystadegol ar gyfer ceffylau ar draws brid, rhyw ac oedran.”

Mae’r academyddion hefyd yn bwriadu asesu sut mae newidiadau bach yn amgylchedd y ceffyl, fel stablau neu ddillad gwely newydd, yn effeithio ar eu cwsg a sut mae hyn yn trosi i newidiadau mewn gwybyddiaeth.

Mae ymchwil cyfredol yn asesu a yw perfformiad yn y ‘dasg gwahaniaethu rhwng dau ddewis’ yn cael ei leihau yn ystod cwsg toredig ac felly, i benderfynu a yw hwn yn fesur defnyddiol o ganlyniadau gwybyddol aflonyddwch cwsg mewn anifeiliaid.

Mae gan hyn oblygiadau i les a gallu ceffylau, er enghraifft mewn neidio arddangos.

Ychwanegodd Dr McBride:

“Mae cwsg yn sylfaenol bwysig i les pob anifail, ond anaml y byddwn ni’n ystyried cwsg wrth greu’r amgylcheddau gorau posibl i’r anifeiliaid yn ein gofal. Mae gallu mesur cwsg yn gywir yn ogystal â chanlyniadau gwybyddol cwsg gwael, felly, yn sylfaenol hanfodol i'r maes ymchwil pwysig hwn.

“I geffylau, mae gan newidiadau bach yn eu hwsmonaeth y potensial i effeithio’n fawr ar ansawdd a maint eu cwsg. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys newid goleuo, gwely a thymheredd, faint o gyswllt cymdeithasol yn ogystal ag amgylcheddau cysgu newydd, fel stabl newydd ychydig cyn cystadleuaeth. Mae’n bwysig ein bod yn dechrau deall sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gwsg y ceffyl fel y gallwn greu amgylcheddau gwell iddynt fyw ynddynt.”