£1 miliwn ar gyfer ymchwil ar brawf diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint

Yr Athro Luis Mur

Yr Athro Luis Mur

11 Rhagfyr 2023

Mae gwaith gwyddonwyr i ddatblygu pecyn diagnosis cyflym newydd er mwyn canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach wedi derbyn hwb gyda grant gwerth £1 miliwn.

Mae canser yr ysgyfaint yn effeithio ar bron i 50,000 o bobl y flwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol, yn lladd mwy o bobl nag unrhyw ganser arall ac yn costio mwy na £2.4bn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd.

Mae diagnosis o'r clefyd yn y camau cynnar yn heriol, gan fod symptomau clinigol ond yn ymddangos os yw'r tiwmor yn fawr iawn neu wedi lledaenu y tu allan i'r ysgyfaint.

Dim ond mewn tua un o bob wyth o bobl y mae llawdriniaeth yn bosibl; gyda'r mwyafrif llethol yn cael cynnig triniaethau i liniaru eu clefyd anwelladwy.

Nod y gwyddonwyr yw datblygu prawf i adnabod yn gyflym y bobl sydd fwyaf tebygol o elwa o sganio.

Mae’r gwaith yn rhan o bartneriaeth rhwng cwmnïau yn y Deyrnas Gyfunol: y Life Science Group, Highfield Diagnostics, ProTEM Services a Valley Diagnostics ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth.

Bydd y cyllid newydd o Innovate UK yn galluogi’r tîm i ddefnyddio ymchwil Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu pecyn prawf aml-sgrinio newydd a allai adnabod biofarcwyr canser, neu gemegau bach, sy'n bresennol mewn wrin.

Gall y chwe biofarcwr wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint gyda chywirdeb o 90% ac yn y cyfnodau cynnar iawn, cyn i symptomau clinigol ddechrau.

Dywedodd yr Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r cyllid newydd yn hwb mawr i waith y tîm. Mae canser yr ysgyfaint yn cael effaith ddinistriol ar gymaint o bobl a’u hanwyliaid. Mae’r tîm yma eisoes wedi adnabod biofarcwyr mewn wrin sy’n gallu gwneud diagnosis o nifer o ganserau a chlefydau eraill. Gall hefyd nodi ym mha gyfnod y mae'r afiechyd mewn claf. Gobeithiwn y gall y cydweithio pwysig hwn gymhwyso’r ymchwil sy’n arwain y byd yma yn Aberystwyth a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Trwy barhau i weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ddatblygu ystod o'r profion diagnostig newydd hyn dros y blynyddoedd i ddod. Ein nod yw y byddan nhw’n gwneud diagnosis ac yn monitro dilyniant, lleoliad ac effeithiolrwydd amrywiaeth eang o glefydau a chanserau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y rhain yn arwain at ddiagnosis cyflym, cost-effeithiol a chywir o nifer o gyflyrau mewn meddygfeydd a gartref.”

Dywedodd Jenny Murray, Rheolwr Gyfarwyddwr y Life Science Group ac Arweinydd y Prosiect:

“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r consortiwm o gwmnïau annibynnol yn y Deyrnas Gyfunol yn datblygu’r dechnoleg hon er budd y Deyrnas Gyfunol. Mae gan y dechnoleg hon y potensial i chwyldroi profion diagnostig yma yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd lle mae mynediad cyfyngedig at ganolfannau diagnostig.

“Mae’r tîm yn hyderus bydd y ddyfais hon, a’r rhai eraill a fydd yn dilyn, nid yn unig yn achub bywydau ond hefyd yn gallu dangos arbedion sylweddol yn y gwasanaeth iechyd, ailddatblygu’r llwybr diagnostig a chreu swyddi yng Nghymru a refeniw i’r Deyrnas Gyfunol gyfan.”

Dywedodd Alex Sklan, Arweinydd Arloesedd, Data ar gyfer Diagnosis Cynnar a Meddyginiaeth Fanwl yn Innovate UK: “Mae Innovate UK yn darparu cymorth i brosiectau sydd â’r potensial i alluogi mwy ohonon ni i fyw bywydau hirach ac iachach. Un o'r ffyrdd y gellir gwneud hyn yw trwy wneud diagnosis o glefydau yn gynharach, fel yn achos y prosiect hwn. Gyda’r buddsoddiad hwn, rydyn ni’n helpu i gyflymu datblygiad prawf a allai achub llawer o fywydau.”

Byddai'r prawf, sydd mewn cyfnod cynnar o’i ddatblygiad, yn hawdd i'w ddefnyddio, ac yn mabwysiadu'r dull llif unffordd a ddaeth yn gyfarwydd yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r cydweithrediad rhwng academyddion o Gymru, partneriaid masnachol y Deyrnas Gyfunol a sawl ysbyty yng Nghymru wedi derbyn y cyllid newydd o raglen Gwella Meddyginiaeth Fanwl Innovate UK, gan gynnwys arian o Swyddfa’r Gwyddorau Bywyd.  Yn ogystal, mae’r partneriaid yn anelu at gynhyrchu’r offer hyn ar raddfa fawr ar safle newydd yn ne Cymru.