Partneriaeth ryngwladol i ddatblygu brechlyn ar gyfer afiechydon parasitig sy’n effeithio ar filiynau

Yr Athro Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

24 Tachwedd 2023

Mae partneriaeth ryngwladol newydd wedi’i sefydlu i ddatblygu brechlyn ar gyfer afiechydon parasitig sy’n heintio cannoedd o filiynau o bobl.

Bydd y prosiect, sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth, yn canolbwyntio ar heintiau schistosome a llyngyr bach sy’n effeithio ar ardaloedd trofannol ac is-drofannol y byd.

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae 500-800 miliwn o bobl yn cael eu heintio gan lyngyr bach, ac oddeutu 250 miliwn gan schistosome bob blwyddyn.

Mae’r heintiau hyn, a achosir gan fwydod parasitig neu helminth, fel rheol yn lledaenu drwy gysylltiad â dŵr ffres sydd wedi’i heintio ac maent yn arwain at amryw o broblemau iechyd. Mae schistosomes yn benodol yn gallu achosi llid a niweidio’r organau, gan ladd tua 12,000 o bobl yn flynyddol.

Mae cyffuriau ar gyfer trin yr heintiau hyn ar gael ond, oherwydd diffyg datblygiad imiwnedd, mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae'r parasitiaid hyn yn byw yn cael eu hail-heintio'n barhaus. Gall brechlynnau helpu i amharu ar y cylch hwn.

Fodd bynnag, mae ymchwil a datblygiad brechlynnau rhag helminth parasitig wedi bod yn gyfyngedig hyd yn hyn, ac nid oes dealltwriaeth dda o fecanweithiau ymatebion imiwnedd dynol.

Bydd y prosiect newydd, sy'n gydweithrediad rhwng ymchwilwyr o wahanol sefydliadau yn Ewrop, Affrica, yr Unol Daleithiau ac Awstralia, yn cymhwyso mewnwelediadau newydd o astudiaethau imiwnedd mwy diweddar i ddatblygiad brechlynnau.

Bydd yr academyddion yn ymchwilio i ffyrdd newydd o adnabod y targedau moleciwlaidd gorau ar gyfer y brechlynnau yn ogystal ag dod o hyd i’r ffordd fwyaf effeithiol o’i drin, gan gynnwys y platfform mRNA a ddaeth i sylw'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid.

Mae’r prosiect wedi derbyn €6.9 miliwn o gyllid gan raglen Horizon Europe y Comisiwn Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro Cornelis ‘Ron’ Hokke o Ganolfan Meddygol Prifysgol Leiden, cydlynydd y consortiwm:

“Mae heintiau Helminth yn achosi baich iechyd byd-eang enfawr. Bydd darganfod a datblygu brechlynnau effeithiol a chynllun arloesol ar gyfer datblygu brechlyn helminth yn darparu cyfraniadau hanfodol i’n pecyn cymorth ar gyfer rheoli ac atal y clefydau dinistriol hyn.”

Ychwanegodd yr Athro Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhannu ein harbenigedd hirsefydlog yn y maes hwn o’r ymchwil fel rhan o’r bartneriaeth bwysig hon. Mae helminths parasitig yn achosi rhai o'r clefydau heintus mwyaf niweidiol, gwanychol a chronig ymhlith poblogaethau dynol ledled y byd. Maent yn lladd miloedd o bobl yn flynyddol ac yn arwain at ddioddefaint miliynau yn fwy. Felly, mae gweithio mewn partneriaeth ar draws y byd fel hyn i ddatblygu brechlynnau yn hanfodol bwysig.”