Llwyddiant Myfyriwr mewn Cystadleuaeth Traethawd Ymchwil Cenedlaethol

18 Rhagfyr 2023

Enillodd Caitlin Duggan (BSc Biowyddorau Milfeddygol) gydnabyddiaeth genedlaethol yn ddiweddar am ei phrosiect traethawd ymchwil israddedig ym maes Twbercwlosis Buchol yng nghystadleuaeth Traethawd Ymchwil y Flwyddyn Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain (BSAS) a roddodd ganmoliaeth uchel i’w thraethawd ymchwil.

Dywedodd Caitlin: "Mae'n anrhydedd fawr i mi gael fy newis ar gyfer y categori canmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth Traethawd Ymchwil Israddedig y Flwyddyn 2023. Mae fy nyled yn fawr a hoffwn ddiolch i'm goruchwyliwr am ei chefnogaeth drwy gydol fy mhrosiect a chydlynydd fy nghwrs am ei arweiniad a'i wybodaeth drwy gydol fy nhair blynedd yn Aberystwyth. Taniodd fy nhraethawd ymchwil fy angerdd at ymchwil yr wyf yn parhau i’w wneud ar hyn o bryd ar lefel meistr, ac yn gobeithio parhau ymhellach trwy gydol fy ngyrfa".

Dywedodd Elizabeth Magowan, Llywydd y BSAS: "Llongyfarchiadau i Caitlin am ei gwaith gwych ar y pwnc pwysig o fapio Twbercwlosis Buchol mewn Gwartheg. Mae'n wych gweld gwyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa yn ymroddedig i waith mor bwysig a dymunwn lwyddiant parhaus i Caitlin yn ei gyrfa. "

Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn llwyddiant myfyrwyr blaenorol yr Adran Gwyddorau Bywyd yng nghystadleuaeth traethawd ymchwil y flwyddyn BSAS megis Sara Valdimarsdottir yn 2021 (enillydd), Sydney Hatto a Mathilde Aass yn 2022 (Canmoliaeth Uchel) a Niamh Bews a Daniela Amiouny yn 2020 (Canmoliaeth Uchel).