Cyfleoedd byd-eang
Mae tîm Cyfleoedd Byd-eang Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau ichi fynd dramor am ran o’ch gradd: o gyrsiau byr a chyfleoedd i wirfoddoli yn ystod yr haf i dreulio semester neu flwyddyn lawn yn astudio’r pwnc o’ch dewis yn un o’r prifysgolion sy’n bartner inni.
Mae’r brifysgol hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n cynnwys blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae hyn yn eich galluogi i astudio yn un o’n prifysgolion partner yn Ewrop neu mewn rhan arall o’r byd am un neu ddau semester yn ystod eich trydedd blwyddyn, gan ddychwelyd i Aberystwyth ar gyfer eich blwyddyn derfynol ac i raddio.
Mae adroddiadau’n dangos bod myfyrwyr sy’n astudio dramor yn fwy deniadol i gyflogwyr ac yn ennill mwy o gyflog na’u cyfoedion. Cymrwch fantais o’r cyfle unigryw hwn i wella eich sgiliau allweddol trwy ddewis astudio dramor.