Gwneud Cwyn am Ddeunydd Ar-lein sy'n Tramgwyddo neu'n aflonyddu

Y mae’n ddyletswydd ar Brifysgol Aberystwyth (PA) sicrhau nad yw'r adnoddau cyfrifiadurol y mae hi'n gyfrifol amdanynt yn cael eu camddefnyddio. Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys cymryd camau i atal pobl rhag defnyddio'r adnoddau cyfrifiadurol mewn unrhyw ffordd a allai dramgwyddo neu aflonyddu ar staff, myfyrwyr neu ddefnyddwyr allanol y gwasanaethau.

Y mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG), sy'n gweithredu ar ran PA, drefn ar gyfer ymchwilio i unrhyw gwyn a dderbynnir. Dyma'r prif egwyddorion:

  • Yr un yw'r drefn os yw'r gwyn yn dod o PA neu rywle arall.
  • Rydym yn ymdrin ag unrhyw weithgaredd cyfrifiadurol a wneir gan staff neu fyfyrwyr PA o dan y parth aber.ac.uk.
  • Aelod enwebedig o staff PA sydd â'r cyfrifoldeb o fod yn gyswllt cyntaf ac am sicrhau bod pawb yn dilyn y drefn.

Meysydd a allai achosi pryder penodol

Y mae tri maes y gellir eu nodi'n benodol lle mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gyfrifol am ymateb i gwynion ar frys - sef deunydd sy'n tramgwyddo, deunydd sy'n aflonyddu, a deunydd a gynigir o wefannau PA.

Deunydd sy'n Tramgwyddo

Mae gan bobl sy'n defnyddio adnoddau cyfrifiadurol PA hwl i ddisgwyl na fyddant, yn ddamweiniol, yn dod ar draws deunydd sy'n tramgwyddo, sy'n aflonyddu neu'n sy'n anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd. Dyma enghreifftiau o le y gellid dod ar draws deunydd o'r fath:

  • Arddangosir ar ddyfeisiau sy’n dod o dan gyfrifioldeb Gwasanaethau Gwybodaeth, er enghraifft peiriannau argraffu neu gyfrifiaduron mewn ystafelloedd cyfrifiaduron
  • Wedi cael ei anfon fel e-bost digymell
  • Wedi'i gyhoeddi ar wefan PA

Y mae'n bwysig i ddefnyddwyr gofio bod deunydd sy'n hollol dderbyniol iddynt wrth edrych arno yn eu hystafell eu hunain neu sy'n cael ei gyfnewid rhwng ffrindiau yn gallu bod yn annerbyniol os bydd trydydd person yn dod ar ei draws yn annisgwyl mewn man cyhoeddus neu'n ei dderbyn fel neges ddigymell.

Deunydd sy'n Aflonyddu

Mae polisi'r Brifysgol am aflonyddwch rhywiol a hiliol yn ymdrin â deunydd sy'n cael ei ledaenu drwy ei systemau cyfrifiadurol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am hyn, cysylltwch ag Ymgynghorwyr y Myfyrwyr yn Urdd y Myfyrwyr os ydych chi'n fyfiriwr, ac ag Adnoddau Dynol os ydych chi'n aelod o staff.

Deunydd y We

Mae gan weddalennau broffil uchel ac mae camddefnydd ohonynt gan awduron PA, boed hynny'n fwriadol neu'n ddamweinol, yn fater difrifol. Dylid cofio bod cyhoeddi deunyddiau ar safleoedd gwe yn cael ei ystyried yn ôl y gyfraith yn gyfwerth â chyhoeddi confensiynol ar bapur; er enghraifft mae cyfreithiau enllib a hawlfraint yn estyn i ddeunydd o'r fath.

Gwneud Cwyn

Os teimlwch eich bod wedi ei tramgwyddo, eich gwneud i demilo'n anghysurus neu'ch bygwth gan unrhyw ddeunydd cyfrifiadurol neu ddeunydd cyfathrebu sydd wedi tarddu o PA:

  • Fel rheol dylech e-bostio'r manylion gydag unrhyw dystiolaeth ategol i abuse@aber.ac.uk
  • Os ydych yn fyfyriwr gallwch hefyd godi'r mater naill ai gyda'ch tiwtor neu â Deon eich cyfadran.
  • Os ydych yn aelod o staff gallwch hefyd godi'r mater naill ai â Phennaeth eich Adran neu ag aelod o staff o'ch dewis.
  • Os ydych tu allan i'r Brifysgol gallwch gysylltu'n uniongyrchol ag un o aelodau o staff y GG a nodir isod, er mai anfon e-bost i abuse@aber.ac.uk fel rheol yw'r dull gorau oherwydd bod hyn yn rhoi cyfnod ysgrifenedig o'r gwyn ar unwaith a gellir cynnwys deunydd atodol.

Trefn PA unwaith y bydd wedi derbyn cwyn

Bydd y sawl a enwebir gan PA yn ymateb i'r achwynydd ymhen dau ddiwrnod gwaith yn cadarnhau bod y gwyn wedi dod i law ac yn nodi pwy ydynt a beth yw eu safle yn y Brifysgol, ynghyd â'u rhif ffôn a'u cyfeiriad e-bost uniongyrchol. Cysylltir â'r achwynydd wedyn ymhen tri dowrnod gwaith arall gydag adroddiad cychwynnol ar ymateb PA.

Mae'r ymateb hwn yn debygol o ddod o dan un o dri chategori.

  1. Os penderfynir bod y gwyn yn gwbl gyfiawn byddwn yn cymryd camau ar unwaith i atal y defnyddiwr dan sylw rhag parhau neu ailadrodd y gweithgaredd sy'n petri tramgwydd gan ddefnyddio camau disgyblu mewnol PA. Er enghraifft gallai hyn gynnwys tynnu'r gweddalennau neu dynnu'r hawl i anfon negeseuon e-bost yn ôl. Byddwn yn rhoi gwybod i'r achwynydd mai dyma'r camau gweithredu a gymerwyd.
  2. Os penderfynir na ellir ategu'r gwyn byddwn yn rhoi gwybod i'r achwynydd am hyn ynghyd â'r rhesymau, a byddwn yn gwahodd yr achwynydd i ymateb i'r penderfyniad ac ailgyflwyno'r gwyn os hoffent wneud hynny. Ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau eraill ac ni fydd y defnyddiwr a nodwyd yn y gwyn yn cael ei gynnwys mewn unrhyw ffordd. (Wrth benderfynu a oes angen cymryd camau pellach, un prawf pwysig yw a fyddai unigolyn rhesymol yn cael ei dramgwyddo neu'i gynhyrfu wrth ddod ar draws deunydd penodol; prawf arall yw a dorrwyd unrhyw gyfraith.)
  3. Os bydd natur y gwyn yn golygu ei bod yn codi problemau na ellir eu datrys ar unwaith, bydd rhaid chwilio am farn arall yn y Brifysgol ac efallai barn gyfreithiol. Oherwydd y gall hyn gymryd ychydig o amser, cymerir camau i sicrhau bod y gweithgaredd y gwnaethpwyd cwyn amdano yn cael ei wahardd ac nad yw'n cael ei ailadrodd nes bod penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch sut mae symud ymlaen. Bydd yr achwynydd a'r defnyddiwr dan sylw yn cael gwybod mai dyma'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd. Yn amodol ar y penderfyniad terfynol naill ai bydd yr achwynydd yn cael ei ategu, ac felly byddwn yn dilyn camau achos (1) uchod, neu ni fydd yn cael ei ategu, ac felly byddwn yn dilyn camau achos (2) a chaiff y defnyddiwr ganiatâd i ailddechrau'r gweithgaredd.

Anfodlonrwydd â'r Ymateb

Os bydd achwynydd yn teimlo nad ydym wedi ymdrin â'r gwyn yn dderbyniol, gallant gysylltu â:

  • Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gwybodaeth 01970 62 2391