Mynediad diwifr i ymwelwyr â Phrifysgol Aberystwyth
Mae’n rhaid i ymwelwyr sydd eisiau defnyddio gwasanaeth diwifr Prifysgol Aberystwyth wneud yn siŵr:
- bod gan eu cyfrifiadur y pecyn gwasanaeth diweddaraf a’r diweddariadau wedi’u gosod ar gyfer eu system weithredu
- bod gan eu cyfrifiadur feddalwedd gwrthfirws diweddar
- nad oes firysau nac ysbïwedd ar eu cyfrifiadur
cyn iddynt ddod i’r campws.
Mae’r holl ddefnydd a wneir o rwydwaith Prifysgol Aberystwyth yn cael ei reoli gan Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Pholisi Defnydd Derbyniol JANET.
Ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill
- Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yng Ngwasanaeth Crwydro Janet.
- Golyga hyn fod ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill sy’n cymryd rhan yn gallu cysylltu â rhwydwaith eu sefydliadau eu hunain drwy rwydwaith diwifr eduroam Prifysgol Aberystwyth pan fônt yn ymweld â’n campws. Gallwch wirio i weld a yw eich sefydliad yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn ar wefan Gwasanaeth Crwydro JANET
- Dylech wneud trefniadau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn gyda’ch sefydliad cartref CYN dod i Brifysgol Aberystwyth.
Pob ymwelydd arall, unigolion sy’n mynychu cynadleddau a digwyddiadau
- Mae ein rhwydwaith diwifr ymwelwyr PAU-Guest ar gael ar draws y campws:
- Darperir y gwasanaeth hwn gan BT a gofynnir i chi fewngofnodi gyda chyfeiriad e-bost personol: