Monitorau Gwybodaeth
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu system o Fonitorau Gwybodaeth i Adrannau eu defnyddio i rannu gwybodaeth.
Gellir defnyddio’r Monitorau Gwybodaeth hyn i ddangos cyfres sy’n cylchdroi o dudalennau i hysbysebu cyrsiau, gwasanaethau ac eitemau newyddion.
Monitor mawr yw’r Monitor Gwybodaeth gyda chyfrifiadur mewnosodedig sy’n rhedeg cyfres o weddalennau.
Yr adrannau sy’n gyfrifol am brynu’r caledwedd a chreu’r cynnwys a bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn:
- rhoi cymorth i gael a gosod y monitor
- darparu hyfforddiant a chymorth i greu a diweddaru’r cynnwys
- rheoli’r gwasanaeth sy’n darlledu’r cynnwys
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn byddwch angen:
- Monitor Gwybodaeth
- cyfrif ar infomon.disk.aber.ac.uk
- eich cynnwys (Sut mae creu hwnnw?)
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth os hoffech gael Monitor Gwybodaeth (Sut mae gwneud hynny?)
Ceir rhagor o wybodaeth am Fonitorau Gwybodaeth yn ein Cwestiynau Cyffredin