Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr TAR
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Canllaw Llyfrgell a TG hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd
I wybod mwy am gyfleusterau Llyfrgell a ThG os gwelwch yn dda gweler ein Canllaw Llyfrgell a TG ar gyfer myfyrwyr newydd
Eich Cyfrif TG
Eich Cerdyn Aber
Adnoddau TAR
Mae’r casgliad TAR yn cynnwys adnoddau dysgu y gellir eu defnyddio gan yr holl fyfyrwyr. Gellir adnabod eitemau o fewn y casgliad hwn drwy’r band gwyrdd ar eu meingefn.
Pan fydd myfyrwyr TAR ar y campws, gallant fenthyca eitemau o’r casgliad TAR am gyfnod treiglol o bythefnos.
Pan fydd myfyrwyr TAR ar eu lleoliad dysgu, gallant fenthyca eitemau o’r casgliad TAR am hyd y lleoliad. Dim ond llyfrau o’r casgliad hwn (llyfrau â band gwyrdd ar y meingefn) sydd â’r cyfnod benthyca estynedig hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, gall yr holl fyfyrwyr eraill hefyd fenthyca eitemau o’r casgliad TAR.
Caiff yr holl eitemau yn y casgliad TAR eu hychwanegu i Primo – Catalog y Llyfrgell ac maent wedi’u lleoli yn Llyfrgell Hugh Owen.
Gall myfyrwyr TAR fenthyca eitemau nad ydynt yn y casgliad TAR hefyd yn ystod a’r tu allan i’w lleoliadau. Mae unrhyw eitemau a fenthycir nad ydynt o’r casgliad TAR yn amodol ar y cyfnodau benthyca arferol ac mae’n rhaid eu dychwelyd os oes defnyddiwr arall wedi gwneud cais amdanynt neu os ydynt wedi cyrraedd uchafswm y cyfnod benthyca o 12 mis.
Anfonir e-bost atoch i roi gwybod i chi pan fydd angen dychwelyd eich eitemau felly edrychwch ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.