Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Dysgu Cymraeg

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i allu defnyddio ein hadnoddau.

Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg drwy system gofrestru ar-lein genedlaethol NCLW, wedi talu ffioedd y cwrs ac wedi dechrau mynychu dosbarthiadau wneud cais am fynediad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth trwy gysylltu â’r swyddfa Dysgu Cymraeg ar learnwelsh@aber.ac.uk.  Rhaid i’r cais hwn ddod o’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio ar y system ar-lein genedlaethol i gofrestru ar y cwrs.

Noder: Cewch fynediad i’r adnoddau cyhyd â’ch bod wedi cofrestru ar y cwrs. Yn ôl telerau’r cynllun NCLW, bydd absenoldeb o 4 wythnos yn olynol yn cael ei ystyried fel tynnu’n ôl o’r cwrs, daw eich cofrestriad i ben a chaiff eich cyfrif TG/Cerdyn Aber ei derfynu.

Eich Cerdyn Aber

Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber arlein fel ei bod yn barod ichi pan fyddwch yn cyrraedd y campws. 

Rhaid casglu Cardiau Aber o Lyfrgell Hugh Owen; nid yw'n bosibl i ni bostio'r rhain i chi.

Mae eich Cerdyn Aber yn cael ei ddefnyddio: