Deallusrwydd Artiffisial
Deallusrwydd Artiffisial (DA) yw'r broses o ddatblygu algorithmau a systemau sy'n gallu dysgu o ddata, adnabod patrymau, a gwneud penderfyniadau neu ragfynegiadau yn seiliedig ar yr algorithmau neu'r systemau hynny.
Mae enghreifftiau o raglenni DA mewn bywyd bob dydd yn cynnwys sgwrsfotiaid, meddalwedd adnabod delwedd neu lais, cerbydau awtonomaidd, a systemau argymell (ar gyfer ffilmiau, cerddoriaeth, neu siopa ar-lein).
Gall DA gynnig buddion a heriau i brifysgolion. Ar y naill law, gall gynnig syniadau a safbwyntiau gwahanol, ond ar y llaw arall, gall effeithio ar ddysgu a chynhyrchu camwybodaeth. Yn y Gwasanaethau Gwybodaeth, rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol er mwyn helpu i gefnogi defnydd diogel a moesegol ohono.
Nod y dudalen hon yw rhoi trosolwg i chi o'n canllawiau DA yn ogystal ag ystyried sut y gellir ei ddefnyddio ar draws nifer o swyddogaethau'r Brifysgol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyffredinol am ddefnyddio DA, cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk). Ar gyfer myfyrwyr, os oes gennych ymholiadau am y defnydd derbyniol o DA ar gyfer eich aseiniadau, cysylltwch â'ch tiwtor neu gydlynydd modiwl.