Neidiwch i'r fersiwn testun

 

Fersiwn testun

Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 2022-23 Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

 

Camau Gweithredu'r Llyfrgell - Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod

Ffyrdd newydd i ddarganfod adnoddau llyfrgell ar-lein - Rydym wedi cyflwyno dau adnodd newydd i'ch helpu i chwilio a dod o hyd i adnoddau llyfrgell ar-lein:

  • Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr i'w lawrlwytho sy'n darparu mynediad un-clic at erthyglau. Darllen rhagor
  • Mae Browzine yn eich galluogi i bori a chadw cyfnodolion ysgolheigaidd sydd ar gael o'r llyfrgell neu o ffynonellau agored. Darllen rhagor

Canllaw Primo - Primo yw catalog y llyfrgell ac offeryn darganfod Prifysgol Aberystwyth sy'n rhoi mynediad i chi at adnoddau'r llyfrgell. Rydym wedi cyhoeddi canllaw Primo newydd i'ch helpu i wneud y gorau o Primo.

Map Llawr y Llyfrgell - Rydym yn lansio map llawr ar-lein rhyngweithiol yn Llyfrgell Hugh Owen i helpu pobl i ffeindio eu ffordd o gwmpas ac ymgyfarwyddo â chyfleusterau'r llyfrgell. Mae Map Llawr y Llyfrgell wedi'i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell, i'ch helpu i leoli eich llyfrau. Ymwelwch â'r llyfrgell ar-lein yma

Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid - Ennillodd GG y safon swyddogol Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2015 ac rydym wedi cynnal y safon hon gan ennill meysydd o 'Compliance Plus', meysydd sy'n mynd uwchlaw'r gwasanaeth safonol, bob blwyddyn ers hynny.

Yn yr adolygiad llawn diwethaf yn 2021,  dyfarnwyd 11 maes Compliance Plus. Cynhaliwyd y rhain i gyd yn 2022 ac yn 2023. Rhagor o wybodaeth yma

Myfyrwyr Rhyngwladol a'r Llyfrgell - Ym mis Chwefror 2023, cynhaliwyd wythnos o weithgareddau samplu i asesu'r ffyrdd y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ymgysylltu â'n gwasanaethau. Roedd y gweithgareddau'n seiliedig ar ddulliau UX ac roedd yn cynnwys teithiau llyfrgell dan arweiniad y myfyrwyr a chyfweliad lled-strwythuredig i holi am eu profiadau cyn ac ar ôl cyrraedd Aberystwyth. Manylion yma

Canllaw llyfrgell ar gyfer staff sy'n dysgu - Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi LibGuide ar gyfer staff addysgu newydd sy'n cynnwys popeth y mae angen i staff newydd ei wybod am y llyfrgell a sicrhau adnoddau i fodiwlau

Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru -Ennillodd ein tîm Ymgysylltu Academaidd yr ail wobr yng Ngwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru am eu gwaith ar y Canllaw Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad.

Dywedodd y beirniaid: “Cynlluniodd y tîm adnodd hyfforddi newydd ar gyfer cyfeirnodi. Mae'r adnodd yn rhyngweithiol ac yn gwbl ddwyieithog, wedi'i integreiddio i systemau dysgu myfyrwyr a gellir ei deilwra i wahanol anghenion myfyrwyr. Roedd llwyddiant datblygiad yr adnoddau hyfforddi newydd hyn yn cydnabod bod cyflwyno llwyddiannus yn dibynnu ar gael y defnyddwyr i gymryd rhan. Roedd yn amlwg bod gan y tîm ddealltwriaeth wirioneddol o sut y byddai myfyrwyr yn ymwneud â'r cynnwys a beth fyddai'n lleihau pryder wrth gyfeirnodi.

 

Canlyniadau'r ACF 2022 - Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr

Gwasanaethau Llyfrgell - 93    8 pwynt canran yn uwch na 2022 Ar y brig yng Nghymru

Gwasanaethau TG - 89   3 phwynt canran yn uwch na 2022 Ar y brig yng Nghymru

 

Arolwg Defnyddwyr GG 2022 - Rydym wedi bod yn gofyn i fyfyrwyr a staff lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd. Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arnoRydym yn defnyddio'r ymatebion i gynllunio a datblygu ein gwasanaethau. 

Cawsom 534 o ymatebion i'n Harolwg Defnyddwyr GG yn 2022. 

Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad

Adran Nifer o ymatebwyr
Celf 10
Addysg 13
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 20
Hanes a Hanes Cymru 13
Canolfan Saesneg Rhyngwladol 2
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 18
Cyfraith a Throseddeg 14
Ieithoedd Modern 10
Theatr, Ffilm a Theledu 10
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 1

 

Gwariant -  Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.

85% - sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data. 15% - sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau, testunau wedi'u digido o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion.

  • Gwariwyd £158,769 ar lyfrau ac elyfrau ers mis Awst 2022
  • Gwariwyd £1,364,947 ar gyfnodolion, egyfnodolion a chronfeydd data ers mis Awst 2022

 

Defnydd - Ers mis Awst 2022:

  • Mae 37,165 o lyfrau wedi cael eu benthyg a 212 o gyfnodolion.
  • Rydym wedi digideiddio 484 eitem ar gyfer CCGC a 550 ar y cyfan.
  • Rydym wedi benthyg 470 eitem gan lyfrgelloedd eraill ac wedi rhoi benthyg 964 o eitemau trwy'r cynllun benthyciadau rhwng llyfrgelloedd.
  • Rydym wedi tywys 461 o fyfyrwyr o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen ar ddechrau'r tymor.

Mynychwyr teithiau'r llyfrgell yn ôl adran yn CCGC:

Adran  
Cyfraith a Throseddeg 20
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 34
Hanes a Hanes Cymru 25
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 29
Canolfan Saesneg Ryngwladol 17
Dysgu Gydol Oes 1
Ieithoedd Modern 7
TAR 37
Celf 7
Addysg 13
Theatr, Ffilm a Theledu 27
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 12
  • 124,031 o ymweliadau â Llyfrgell Hugh Owen
  • 15,258 o ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Roedd 361 o ymweliadau â'r Ystafell Iris de Freitas dros y Pasg. Roedd yr ystafell astudio ar agor 24/7 yn ystod y gwyliau tra roedd gweddill Llyfrgell Hugh Owen ar gau.

Rydym yn gweithio ar gynyddu oriau agor y llyfrgell y tu allan i amseroedd tymor traddodiadol er mwyn darparu ar gyfer anghenion pob myfyriwr ar draws cynlluniau astudio cynyddol amrywiol.

 

Rhestrau darllen - Ers mis Mehefin 2022, ychwanegwyd:

  • 527 o adnoddau at restrau Celf

  • 134 o adnoddau at restrau Addysg

  • 310 o adnoddau at restrau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 

  • 1385 o adnoddau at restrau Hanes a Hanes Cymru

  • 1428 o adnoddau at restrau Gwleidyddiaeth Ryngwladol

  • 103 o adnoddau at restrau Canolfan Saesneg Rhyngwladol

  • 547 o adnoddau at restrau Cyfraith a Throseddeg

  • 102 o adnoddau at restrau Ieithoedd Modern

  • 545 o adnoddau at restrau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

  • 146 o adnoddau at restrau Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ychwanegwyd cyfanswm o 5227 adnodd at restrau darllen CCGC ers mis Mehefin 2022. *Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido

Cymhareb o lyfrau print i elyfrau ar restrau darllen

Math o adnodd  
Llyfrau print 3022
elyfrau 1228
Darpariaeth Rhestrau Darllen 

Mae gan 95.3% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire

1762 o fodiwlau sydd angen rhestr. 1679 o fodiwlau sydd â rhestr
Darpariaeth Rhestrau Darllen y Gyfadran
Adran Canran o'r holl restrau
Cyfartaledd PA 95.3%
Celf 100%
Addysg 94.9%
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 97.3%
Hanes a Hanes Cymru 100%
Canolfan Saesneg Rhyngwladol 96.3%
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 94%
Cyfraith a Throseddeg 100%
Ieithoedd Modern 95.8%
Theatr, Ffilm a Theledu 97.7%
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 100%

 

Porth Ymchwil Aberystwyth - yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim

  • 101 o allbynau ymchwil CCGC ers dechrau 2022
  • 20 o draethodau hir ymchwil CCGC ers dechrau 2022

 

LibGuides - Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man. Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol. 

Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 44,053 o weithiau mewn un flwyddyn academaidd sy'n 6212 o weithau yn rhagor na'r flwyddyn flaenorol

Canllawiau Pwnc

Celf a Hanes Celf gwelwyd 334 o weithiau yn 22/23

Addysg gwelwyd 528 o weithiau yn 22/23

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gwelwyd 343 o weithiau yn 22/23

Hanes a Hanes Cymru gwelwyd 267 o weithiau yn 22/23

Canolfan Saesneg Ryngwladol gwelwyd 54 o weithiau yn 22/23

Gwleidyddiaeth Rynglwadol gwelwyd 210 o weithiau yn 22/23

Cyfraith a Throseddeg gwelwyd 1222 o weithiau yn 22/23

Ieithoedd Modern gwelwyd 97 o weithiau yn 22/23

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gwelwyd 155 o weithiau yn 22/23

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gwelwyd 174 o weithiau yn 22/23

 

Eich Llyfrgellwyr Pwnc

 

Gwasanaethau Gwybodaeth - Dysgu a chymorth llyfrgell - Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddiant i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a gwneud defnydd effeithiol o'n hamrywiol wasanaethau. Rydym yn cynnig hyfforddiant yn y meysydd canlynol:

  • Sgiliau Academaidd i Fyfyrwyr
  • Systemau Gweinyddol
  • Sgiliau Digidol
  • Dysgu ac Addysgu
  • Datblygu Gyrfa
  • Ymchwil

Yn 22/23 cyflwynodd ein Llyfrgellwyr Pwnc sesiynau ar Fetrigau a Metrigau Amgen, Canfod Adnoddau Safonol, Cyfeirnodi a meddalwedd gyfeirnodi EndNote a Mendeley.

Rydym yn gweithio ar ailwampio tudalennau SgiliauAber i'w gwneud yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy defnyddiol ar gyfer myfyrwyr. Bydd SgiliauAber ar eu newydd wedd yn lansio'n gynnar yn y flwyddyn academaidd nesaf    

Gweithgareddau dysgu'r Llyfrgellwyr yn ôl adran

Adran Oriau dysgu Mynychwyr
Celf 20 316
Addysg 16 359
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 9 390
Hanes a Hanes Cymru 8 330
Canolfan Saesneg Rhyngwladol 3 46
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 6 106
Cyfraith a Throseddeg 4 221
Dysgu Gydol Oes 1 8
Ieithoedd Modern 4 60
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu 14 250
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 9 72

 

Sgiliau Digidol - Cwrdd â'r tîm

  • Sioned Llywelyn - Arweinydd Sgiliau Digidol
  • Shân Saunders - Cydlynnwyr Datblygu Galluoedd a Sgiliau Digidol
  • Laurie Stevenson, Jeffrey Clark  - Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein harfogi ni i fyw, dysgu ac i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain.

 

Offeryn Darganfod Digidol Jisc Adnodd dwyieithog ar-lein sy'n galluogi myfyrwyr a staff i hunan-asesu eu sgiliau digidol, gan eich galluogi i nodi eich hyder a'ch gallu mewn arferion yn y byd go iawn yw'r Offeryn Darganfod Digidol.

Ers mis Medi 2022, cwblhaodd dros 800 o fyfyrwyr sylfaen a myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yr Offeryn Darganfod Digidol. Dyma fanylion am y niferoedd o bobl o fewn adrannau CCGC sydd wedi cwblhau'r offeryn:

Adran  
Celf 43
Addysg 40
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 23
Hanes a Hanes Cymru 71
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 64
Ieithoedd Modern 21
Theatr, Ffilm a Theledu 17
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 11

 

Llyfrgell Sgiliau Digidol Llyfrgell Adnoddau newydd i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol, gan amrywio o'ch cefnogi i ddatblygu arferion digidol iach i ddysgu sut i godio.

 

Gŵyl Sgiliau Digidol y flwyddyn nesaf: Mae gennym ddigwyddiad cyffrous ar y gweill ym mis Tachwedd 2023, yr Ŵyl Sgiliau Digidol! Wythnos yn llawn gweithdai, sesiynau hyfforddi a gweithgareddau, a'r cyfan wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol.

 

Linkedin Learning Llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell helaeth o gyrsiau ar-lein a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr i'ch helpu i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal â sawl sgil arall. Ers mis Medi 2022, mae 4,535 o gyrsiau a 31,246 o fideos wedi cael eu gwylio yn LinkedIn Learning.

Newydd: Rydym wedi lansio 15 casgliad newydd eleni, yn cynnwys cyrsiau a fideos byr LinkedIn Learning a fydd yn eich helpu'n benodol i ddatblygu eich sgiliau digidol.

Newydd: Mae Pencampwyr Digidol Myfyrwyr hefyd wedi creu amrywiaeth o gasgliadau i gefnogi myfyrwyr yn y meysydd canlynol:

· Mynd i'r afael â straen arholiadau

· Cadw'n ddiogel ar-lein

· Cynnal eich brwdfrydedd

Prif Gyrsiau LinkedIn Learning ar gyfer Myfyrwyr CCGC yn 22/23

  1. Writing with Flair: How to Become an Exceptional Writer (5awr 8m) 
  2. Media Composers 2020 Essential Training (9awr 35m) 
  3. WordPress Essential Training (1awr 57m) 
  4. Overcome Overthinking (36m) 
  5. Photoshop 2020 Essential Training: The Basics (6awr 18m) 
  6. Beating Procrastination (23m)