Neidiwch i'r fersiwn testun

Fersiwn testun

Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 2022-23 Cyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol

 

Camau Gweithredu'r Llyfrgell - Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod

Business Insights Rydym bellach yn cynnig mynediad at adnodd Busnes newydd -  Gale - Business Insights. Trwy Business Insights, gallwch gyrchu mwy na 430,000 o broffiliau cwmni manwl gyda data ariannol y cwmni, trosolwg manwl o wledydd, a phroffiliau cynhwysfawr o'r diwydiant.

Ffyrdd newydd i ddarganfod adnoddau llyfrgell ar-lein - Rydym wedi cyflwyno dau adnodd newydd i'ch helpu i chwilio a dod o hyd i adnoddau llyfrgell ar-lein:

Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr i'w lawrlwytho sy'n darparu mynediad un-clic at erthyglau. Darllen rhagor

Mae Browzine yn eich galluogi i bori a chadw cyfnodolion ysgolheigaidd sydd ar gael o'r llyfrgell neu o ffynonellau agored. Darllen rhagor

Canllaw Primo - Primo yw catalog y llyfrgell ac offeryn darganfod Prifysgol Aberystwyth sy'n rhoi mynediad i chi at adnoddau'r llyfrgell. Rydym wedi cyhoeddi canllaw Primo newydd i'ch helpu i wneud y gorau o Primo.

Map Llawr y Llyfrgell - Rydym yn lansio map llawr ar-lein rhyngweithiol yn Llyfrgell Hugh Owen i helpu pobl i ffeindio eu ffordd o gwmpas ac ymgyfarwyddo â chyfleusterau'r llyfrgell. Mae Map Llawr y Llyfrgell wedi'i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell, i'ch helpu i leoli eich llyfrau. Ymwelwch â'r llyfrgell ar-lein yma

Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid - Ennillodd GG y safon swyddogol Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2015 ac rydym wedi cynnal y safon hon gan ennill meysydd o 'Compliance Plus', meysydd sy'n mynd uwchlaw'r gwasanaeth safonol, bob blwyddyn ers hynny.

Yn yr adolygiad llawn diwethaf yn 2021,  dyfarnwyd 11 maes Compliance Plus. Cynhaliwyd y rhain i gyd yn 2022 ac yn 2023. Rhagor o wybodaeth yma

Myfyrwyr Rhyngwladol a'r Llyfrgell - Ym mis Chwefror 2023, cynhaliwyd wythnos o weithgareddau samplu i asesu'r ffyrdd y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ymgysylltu â'n gwasanaethau. Roedd y gweithgareddau'n seiliedig ar ddulliau UX ac roedd yn cynnwys teithiau llyfrgell dan arweiniad y myfyrwyr a chyfweliad lled-strwythuredig i holi am eu profiadau cyn ac ar ôl cyrraedd Aberystwyth. Manylion yma

Canllaw llyfrgell ar gyfer staff addysgu - Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi LibGuide ar gyfer staff addysgu newydd sy'n cynnwys popeth y mae angen i staff newydd ei wybod am y llyfrgell a sicrhau adnoddau ar gyfer eu modiwlau

Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru - Ennillodd ein tîm Ymgysylltu Academaidd yr ail wobr yng Ngwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru am eu gwaith ar y Canllaw Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad.

Dywedodd y beirniaid: “Cynlluniodd y tîm adnodd hyfforddi newydd ar gyfer cyfeirnodi. Mae'r adnodd yn rhyngweithiol ac yn gwbl ddwyieithog, wedi'i integreiddio i systemau dysgu myfyrwyr a gellir ei deilwra i wahanol anghenion myfyrwyr. Roedd llwyddiant datblygiad yr adnoddau hyfforddi newydd hyn yn cydnabod bod cyflwyno llwyddiannus yn dibynnu ar gael y defnyddwyr i gymryd rhan. Roedd yn amlwg bod gan y tîm ddealltwriaeth wirioneddol o sut y byddai myfyrwyr yn ymwneud â'r cynnwys a beth fyddai'n lleihau pryder wrth gyfeirnodi.

 

Canlyniadau'r ACF 2022 - Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr

Gwasanaethau Llyfrgell - 93    8 pwynt canran yn uwch na 2022 Ar y brig yng Nghymru

Gwasanaethau TG - 89   3 phwynt canran yn uwch na 2022 Ar y brig yng Nghymru

 

Arolwg Defnyddwyr GG 2022 - Rydym wedi bod yn gofyn i fyfyrwyr a staff lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd. Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arnoRydym yn defnyddio'r ymatebion i gynllunio a datblygu ein gwasanaethau. 

Cawsom 534 o ymatebion i'n Harolwg Defnyddwyr GG yn 2022. Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad

Adran Nifer o ymatebwyr
Ysgol Fusnes Aberystwyth 36
Cyfrifiadureg 50
Mathemateg 8
Ffiseg 19
Astudiaethau Gwybodaeth 14

 

Gwariant -  Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.

85% - sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data

15% - sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau, testunau wedi'u digido o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion.

  • Gwariwyd £158,769 ar lyfrau ac elyfrau ers mis Awst 2022
  • Gwariwyd £1,364,947 ar gyfnodolion, egyfnodolion a chronfeydd data ers mis Awst 2022

 

Defnydd - Ers mis Awst 2022:

  • mae 37,165 o lyfrau wedi cael eu benthyg a 212 o gyfnodolion.
  • Rydym wedi digideiddio 37 eitem ar gyfer CBGFf a 550 ar y cyfan.
  • Rydym wedi benthyg 470 eitem gan lyfrgelloedd eraill ac wedi rhoi benthyg 964 o eitemau trwy'r cynllun benthyciadau rhwng llyfrgelloedd.
  • Rydym wedi tywys 461 o fyfyrwyr o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen ar ddechrau'r tymor.

Mynychwyr teithiau'r llyfrgell yn ôl adran yn CBGFf:

Adran  
Ysgol Fusnes Aberystwyth 23
Cyfrifiadureg 7
Adran Astudiaethau Gwybodaeth 28
Mathemateg 7
Ffiseg 7
  • 124,031 o ymweliadau â Llyfrgell Hugh Owen
  • 15,258 o ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Roedd 361 o ymweliadau â'r Ystafell Iris de Freitas dros y Pasg. Roedd yr ystafell astudio ar agor 24/7 yn ystod y gwyliau tra roedd gweddill Llyfrgell Hugh Owen ar gau.

Rydym yn gweithio ar gynyddu oriau agor llyfrgell y tu allan i amseroedd tymor traddodiadol er mwyn darparu ar gyfer anghenion pob myfyriwr ar draws cynlluniau astudio cynyddol amrywiol.

 

Rhestrau darllen - Ers mis Mehefin 2022, ychwanegwyd:

  • 67 o adnoddau at restrau Ysgol Fusnes Aberystwyth

  • o adnoddau at restrau Cyfrifiadureg

  • 526 o adnoddau at restrau Astudiaethau Gwybodaeth

  • o adnoddau at restrau Mathemateg

  • 15 o adnoddau at restrau Ffiseg

Ychwanegwyd cyfanswm o 618 adnodd at restrau darllen CBGFf ers mis Mehefin 2022. *Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido

Cymhareb o lyfrau print i elyfrau ar restrau darllen

Math o adnodd  
Llyfrau print 3022
elyfrau 1228

 

Mae gan 95.3% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire

1762 o fodiwlau sydd angen rhestr. 1679 o fodiwlau sydd â rhestr

Darpariaeth Rhestrau Darllen y Cyfadran

Adran Canran o'r holl restrau
Cyfartaledd PA 95.3%
Ysgol Fusnes Aberystwyth 89.7%
Cyfrifiadureg 88%
Astudiaethau Gwybodaeth 87.6%
Mathemateg 98.7%
Ffiseg 76.1%

 

Porth Ymchwil Aberystwyth - yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim

  • 171 o allbynau ymchwil CBGFf ers dechrau 2022
  • 6 o draethodau hir ymchwil CBGFf ers dechrau 2022

 

LibGuides - Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man. Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol. 

Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 44,053 o weithiau mewn un flwyddyn academaidd sy'n 6212 o weithau yn rhagor na'r flwyddyn flaenorol

Canllawiau Pwnc

Ysgol Fusnes Aberystwyth gwelwyd 1052 o weithiau yn 22/23

Cyfrifiadureg gwelwyd 150 o weithiau yn 22/23

Astudiaethau Gwybodaeth gwelwyd 1757 o weithiau yn 22/23

Mathemateg a Ffiseg gwelwyd 102 o weithiau yn 22/23

 

Eich Llyfrgellwyr Pwnc

 

Gwasanaethau Gwybodaeth - Dysgu a chymorth llyfrgell - Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddiant i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a gwneud defnydd effeithiol o'n hamrywiol wasanaethau. Rydym yn cynnig hyfforddiant yn y meysydd canlynol:

  • Sgiliau Academaidd i Fyfyrwyr
  • Systemau Gweinyddol
  • Sgiliau Digidol
  • Dysgu ac Addysgu
  • Datblygu Gyrfa
  • Ymchwil

Yn 22/23 cyflwynodd ein Llyfrgellwyr Pwnc sesiynau ar Fetrigau a Metrigau Amgen, Canfod Adnoddau Safonol, Cyfeirnodi a meddalwedd gyfeirnodi EndNote a Mendeley.

Rydym yn gweithio ar ailwampio tudalennau SgiliauAber i'w gwneud yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy defnyddiol ar gyfer myfyrwyr. Bydd SgiliauAber ar eu newydd wedd yn lansio'n gynnar yn y flwyddyn academaidd nesaf    

Gweithgareddau dysgu'r Llyfrgellwyr yn ôl adran

Adran Oriau dysgu Mynychwyr
Cyfrifiadureg 1 2
Astudiaethau Gwybodaeth 13 313
Mathemateg 1 7
Ysgol Fusnes Aberystwyth 27 767

 

Sgiliau Digidol - Cwrdd â'r tîm

  • Sioned Llywelyn - Arweinydd Sgiliau Digidol
  • Shân Saunders - Cydlynnwyr Datblygu Galluoedd a Sgiliau Digidol
  • Laurie Stevenson, Jeffrey Clark  - Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein harfogi ni i fyw, dysgu ac i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain.

 

Offeryn Darganfod Digidol Jisc Adnodd dwyieithog ar-lein sy'n galluogi myfyrwyr a staff i hunan-asesu eu sgiliau digidol, gan eich galluogi i nodi eich hyder a'ch gallu mewn arferion yn y byd go iawn yw'r Offeryn Darganfod Digidol.

Ers mis Medi 2022, cwblhaodd dros 800 o fyfyrwyr sylfaen a myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yr Offeryn Darganfod Digidol. Dyma fanylion am y niferoedd o bobl o fewn adrannau CBGFf sydd wedi cwblhau'r offeryn:

Adran  
Ysgol Fusnes Aberystwyth 71
Cyfrifiadureg 92
Astudiaethau Gwybodaeth 7
Mathemateg 1
Ffiseg 51

 

Llyfrgell Sgiliau Digidol Llyfrgell Adnoddau newydd i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol, gan amrywio o'ch cefnogi i ddatblygu arferion digidol iach i ddysgu sut i godio.

 

Gŵyl Sgiliau Digidol y flwyddyn nesaf: Mae gennym ddigwyddiad cyffrous ar y gweill ym mis Tachwedd 2023, yr Ŵyl Sgiliau Digidol! Wythnos yn llawn gweithdai, sesiynau hyfforddi a gweithgareddau, a'r cyfan wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol.

 

Linkedin Learning Llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell helaeth o gyrsiau ar-lein a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr i'ch helpu i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal â sawl sgil arall. Ers mis Medi 2022, mae 4,535 o gyrsiau a 31,246 o fideos wedi cael eu gwylio yn LinkedIn Learning.

Newydd: Rydym wedi lansio 15 casgliad newydd eleni, yn cynnwys cyrsiau a fideos byr LinkedIn Learning a fydd yn eich helpu'n benodol i ddatblygu eich sgiliau digidol.

Newydd: Mae Pencampwyr Digidol Myfyrwyr hefyd wedi creu amrywiaeth o gasgliadau i gefnogi myfyrwyr yn y meysydd canlynol:

· Mynd i'r afael â straen arholiadau

· Cadw'n ddiogel ar-lein

· Cynnal eich brwdfrydedd

Prif Gyrsiau LinkedIn Learning ar gyfer Myfyrwyr CBGFf yn 22/23

  1. Excel Essential Training (2awr 22m) 
  2. Python Essential Training (2022) (4awr 22m) 
  3. 20 Rules of Visual Communication (1awr 47m) 
  4. Overcome Overthinking (36m) 
  5. Academic Research Foundations: Quantitative (1awr 41m) 
  6. Beating Procrastination (23m)