Neidiwch i'r fersiwn testun

 

Cynlluniau Gweithredu'r Llyfrgell Cyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol 23/24

Camau Gweithredu'r Llyfrgell

Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod

SgiliauAber ar ei newydd wedd

Mae SgiliauAber yn adnodd ar-lein newydd cwbl ddwyieithog, sydd wedi'i ddatblygu fel lle ‘o dan-un-to’ i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae SgiliauAber wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr ym mhob agwedd ar eu taith Prifysgol. Gyda ffocws ar sgiliau academaidd ac astudio, pontio i fywyd prifysgol, lles, cyflogadwyedd, a defnyddio technoleg yn effeithiol.

Mae SgiliauAber hefyd yn cefnogi staff academaidd yn eu hymdrechion i wella'r profiad dysgu. Mae'r llwyfan yn cynnig arweiniad ar ymgorffori sesiynau sgiliau yn y cwricwlwm, gan helpu addysgwyr i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i'w myfyrwyr.

Ochr yn ochr â'r wefan ddiwygiedig y mae'r Modiwl Blackboard SgiliauAber newydd. Mae pob myfyriwr ar draws y Brifysgol wedi'u cofrestru'n awtomatig ar y modiwl hwn a gallant gael mynediad at ddeunyddiau addysgu, recordiadau o weithdai ac adnoddau SgiliauAber. 

Enwebeion Gwobr Llythrennedd Gwybodaeth LILAC

Cafodd ein Tîm Ymgysylltu Academaidd (sy'n cynnwys ein Llyfrgellwyr Pwnc a'n tîm Sgiliau Digidol) eu henwebu ar gyfer Gwobr Llythrennedd Gwybodaeth LILAC am yr adnodd SgiliauAber newydd.

Canolfan Sgiliau Newydd a Gwasanaeth Gyrfaoedd, Llyfrgell Hugh Owen

Rydym wedi agor Canolfan SgiliauAber newydd a gofod Gyrfaoedd ar Lawr D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen.

Mae Canolfan SgiliauAber yn cynnig apwyntiadau a sesiynau galw heibio i gefnogi myfyrwyr gydag ystod o wasanaethau gan gynnwys Mathemateg ac Ystadegau, Sgiliau Digidol a Gwyddoniaeth Sgiliau.  Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd bellach ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell ar gyfer galw heibio, clinigau CV ac apwyntiadau yn ogystal ag ar gyfer gweithdai gyrfaoedd a sesiynau hyfforddi.

Addysgu a chymorth Llyfrgellydd Pwnc

Mae Anita Saycell, ein Llyfrgellydd Pwnc Busnes ac Astudiaethau Gwybodaeth, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'i hadrannau i deilwra'r Cwis Cyfeirnodi a Llên-ladrad ar gyfer myfyrwyr newydd ym mis Medi.

Mae Anita hefyd wedi creu adnoddau newydd ar gyfer Ysgol Fusnes Aberystwyth gan gynnwys fideos i esbonio mwy am y defnydd o DA ar gyfer myfyrwyr yn Aberystwyth a chyflwyno Datganiad ar y Defnydd o Offer DA yr adran a blwch newydd ar y Canllaw Llyfrgell Busnes i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i erthyglau o The Economist.

Adnoddau DA

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi'r Canllaw Llyfrgell ddiweddaraf 'Defnyddio DA yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr' i bwyso a mesur sut y gall myfyrwyr ddefnyddio DA yn effeithiol i wneud y mwyaf o'u profiad llyfrgell.

Mae ein Llyfrgellwyr hefyd wedi bod yn gweithio'n galed i gyflwyno sesiynau SgiliauAber newydd 'DA a'ch astudiaethau' i fyfyrwyr.

Ailddatblygu Lefel E

Yr haf hwn mae newidiadau mawr ar droed i Lefel E, llawr canol Llyfrgell Hugh Owen.

Mae gwaith adeiladu'n dechrau ganol mis Mai ar ein prosiect i greu gofod mwy i fyfyrwyr ar y llawr hwn sy'n cynnwys mwy o leoedd astudio a 6 ystafell astudio grŵp newydd gyda golygfeydd hyfryd dros y dref tuag at y môr.

 

Canlyniadau'r ACF 2024

Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr

Gwasanaethau Llyfrgell - 93.3 

Meincnod y DU 90.2

Gwasanaethau TG - 90.9

Meincnod y DU 84.5

Boddhad cyffredinol myfyrwyr â'r adnoddau dysgu

Canlyniadau'r ACF Meincnod y DU Ein sgôr
2023 86 90
2024 87.2 91.5

Sefydliadau Meincnodi'r ACF

Mae'r siartiau hyn yn dangos sut mae Prifysgol Aberystwyth yn cymharu â sefydliadau meincnodi eraill o safbwynt adnoddau i ddisgyblaethau o fewn Cyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol*

Ar hyn o bryd rydym yn meincnodi yn erbyn:

  • Prifysgol Bangor

  • Prifysgol Met Caerdydd

  • Prifysgol Abertawe

  • University of Sussex

  • University of Lancaster

  • University of Keele

Thema 06: Bodlonrwydd â'r Adnoddau Dysgu: C. 19-21

  • Mae'r adnoddau a'r cyfleusterau TG sydd wedi'u darparu wedi cefnogi fy nysgu yn dda.

  • Mae adnoddau'r llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a gofod dysgu) wedi cefnogi fy nysgu yn dda.

  • Rydw i wedi gallu cael gafael ar adnoddau penodol i fy nghwrs (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd, casgliadau) fel sydd angen

Busnes a Rheolaeth

Aberystwyth    90.4
Bangor    84.1
Met Caerdydd    88.6
Keele    92.4
Sussex    86.4
Abertawe    87.2

Cyfrifiadureg

Aberystwyth    90.4
Bangor    92.5
Met Caerdydd    78.4
Keele    82.2
Lancaster    90
Sussex    89
Abertawe    81.6

Gwyddorau Mathemateg

Aberystwyth    98.3
Keele    91.3
Sussex    84.9
Abertawe    87.8

Gwyddorau Ffisegol

Aberystwyth    93.3
Keele    87.9
Sussex    85.5
Abertawe    90.2

Arolwg Defnyddwyr GG 2023

Rydym wedi bod yn gofyn i fyfyrwyr a staff lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd.

Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arno? Rydym wedi defnyddio'r ymatebion i gynllunio datblygu ein gwasanaethau. 

Cawsom 315 o ymatebion i'n Harolwg Defnyddwyr GG yn 2023. 

Adran Nifer yr ymatebwyr
Ysgol Fusnes Aberystwyth 18
Cyfrifiadureg 18
Mathemateg 6
Ffiseg 10
Astudiaethau Gwybodaeth 5

Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad

 

Gwariant

ers mis Awst 2023

Llyfrau ac eLyfrau -£171,950.15

Cyfnodolion ac eAdnoddau -£1,313,910.34

Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.

85% o'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data

15% sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau a thestunau wedi'u digido

 

Defnydd

19,618 o ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol 

182,411 o ymweliadau â  Llyfrgell Hugh Owen

 

Mynychwyr teithiau’r llyfrgell yn ôl adran yn CBGFf

Adran Nifer
Ysgol Fusnes Aberystwyth 36
Cyfrifiadureg 24
Astudiaethau Gwybodaeth 63
Mathemateg 7
Ffiseg 18

 

Ers Awst 2023, mae'r Llyfrgell wedi:

rhoi benthyg 43,177 o eitemau i fenthycwyr

digideiddio 373 o adnoddau - 30 at ddefnydd CBGFf

cael benthyg 495 o eitemau trwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd

rhoi benthyg 889 o eitemau trwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd

rhoi 622 o deithiau tywysedig i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd o Lyfrgell Hugh Owen a'i chyfleusterau

 

Porth Ymchwil Aberystwyth 

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim

CBGFf Allbynnau Ymchwil -171 ers dechrau 2023

CBGFf Traethodau Hir Ymchwil -14 ers dechrau 2023

 

Eich Llyfrgellwyr Pwnc

llyfrgellwyr@aber.ac.uk  01970 621896

 

Anita Saycell (aiv)

Simon French (sif4)

Dysgu a chymorth llyfrgell

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gweithgareddau dysgu’r Llyfrgellwyr yn ôl adran

Adran             Oriau dysgu
Ysgol Fusnes Aberystwyth 29
Astudiaethau Gwybodaeth 15
Mathemateg 2
Ffiseg .5
Cyfrifiadureg 6

Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc

Cymorth llyfrgell ar gyfer ymchwil

Gall Llyfrgellwyr Pwnc helpu gyda phrosiect ymchwil ar unrhyw lefel - o ddod o hyd i adnoddau, adolygiadau systematig, rheoli cyfeiriadau hyd at ei gyhoeddi.

Edrychwch ar ein Canllaw Llyfrgell Cymorth Llyfrgell i Ymchwilwyr sy'n cynnig cyngor, gwybodaeth, dolenni ar wasanaethau llyfrgell defnyddiol, awgrymiadau ar fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau, cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant a ffyrdd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

LibGuides

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man.

Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol.

Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 66,309 o weithiau ers mis Mehefin 2023.

 

Canllawiau Pwnc

Ysgol Fusnes Aberystwyth

gwelwyd 1186 o weithiau yn 23/24

Cyfrifiadureg

gwelwyd 582 o weithiau yn 23/24

Astudiaethau Gwybodaeth

gwelwyd 2182 o weithiau yn 23/24

Mathemateg a Ffiseg 

gwelwyd 258 o weithiau yn 23/24

 

Rhestrau Darllen

Ers mis Mehefin 2023, ychwanegwyd:

  • 46 o adnoddau at restrau Ysgol Fusnes Aberystwyth
  • 39 o adnoddau at restrau Cyfrifiadureg
  • 494 o adnoddau at restrau Astudiaethau Gwybodaeth
  • 16 o adnoddau at restrau Mathemateg
  • 28 o adnoddau at restrau Ffiseg

Ychwanegwyd cyfanswm o 623 adnodd at restrau darllen CBGFf 

*Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido

 

Mae gan 96.6% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire

Darpariaeth Rhestrau Darllen y Gyfadran

Adran Canran o'r holl restrau
Cyfartaledd PA 96.6%
Ysgol Fusnes Aberystwyth 100
Cyfrifiadureg 100%
Astudiaethau Gwybodaeth 100%
Mathemateg 100%
Ffiseg 100%

 

Sgiliau Digidol

Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein harfogi ni i fyw, dysgu ac i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol.

Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain. 

digi@aber.ac.uk

Cwrdd â'r Tîm

Sioned Llywelyn - Arweinydd Sgiliau Digidol

Shân Saunders - Cydlynydd Sgiliau Digidol

Laurie Stevenson, Noel Czempik, Joel Williams - Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Hyfforddiant Sgiliau Digidol

86 - Cyfanswm y sesiynau sydd wedi'u cynnal

Grŵp      Nifer y mynychwyr
Israddedig 289
Ôl-raddedig 38
Sesiynau galw heibio myfyrwyr 13
Digwyddiadau'r Ŵyl Sgiliau Digidol 72
Hyfforddiant Staff 53
Cynrychiolwyr Academaidd 12

 

Gŵyl Sgiliau Digidol

Cynhaliwyd yr Ŵyl Sgiliau Digidol am y tro cyntaf ym mis Tachwedd '23, a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr ehangu ac archwilio eu sgiliau digidol dros 28 o ddigwyddiadau. Mae holl adnoddau'r ŵyl ar gael i fyfyrwyr o wefan yr Ŵyl Sgiliau Digidol

72 o fynychwyr yr ŵyl - 20 o CBGFf

Adran

Nifer y mynychwyr

Busnes

9
Cyfrifiadureg 5
Astudiaethau Gwybodaeth 4
Mathemateg 1
Ffiseg 1

Offeryn Darganfod Digidol Jisc

Yn ystod '23-'24, roedd gan bob myfyriwr fynediad at Offeryn Darganfod Digidol Jisc (ODD), adnodd dwyieithog ar-lein a oedd yn eu galluogi i hunanasesu a datblygu eu hyder gyda thechnoleg

972 - Cyfanswm o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r ODD yn '23/24 – 218 yn CBGFf

Roedd holiadur newydd yn yr Offeryn Darganfod Digidol yn caniatáu i fyfyrwyr hunanasesu a datblygu eu dealltwriaeth am DdA

 

Cyfres TipiauDigidol Wythnosol

Eleni, rydym wedi cyhoeddi cyfres newydd o TipiauDigidol wythnosol i gefnogi hyder myfyrwyr gyda thechnoleg: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/category/digitips/