Neidiwch i'r fersiwn testun

 

Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 2023-24 Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd

Camau Gweithredu'r Llyfrgell

Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod

SgiliauAber ar ei newydd wedd

Mae SgiliauAber yn adnodd ar-lein newydd cwbl ddwyieithog, sydd wedi'i ddatblygu fel lle ‘o dan-un-to’ i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae SgiliauAber wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr ym mhob agwedd ar eu taith Prifysgol. Gyda ffocws ar sgiliau academaidd ac astudio, pontio i fywyd prifysgol, lles, cyflogadwyedd, a defnyddio technoleg yn effeithiol.

Mae SgiliauAber hefyd yn cefnogi staff academaidd yn eu hymdrechion i wella'r profiad dysgu. Mae'r llwyfan yn cynnig arweiniad ar ymgorffori sesiynau sgiliau yn y cwricwlwm, gan helpu addysgwyr i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i'w myfyrwyr.

Ochr yn ochr â'r wefan ddiwygiedig y mae'r Modiwl Blackboard SgiliauAber newydd. Mae pob myfyriwr ar draws y Brifysgol wedi'u cofrestru'n awtomatig ar y modiwl hwn a gallant gael mynediad at ddeunyddiau addysgu, recordiadau o weithdai ac adnoddau SgiliauAber. 

Enwebeion Gwobr Llythrennedd Gwybodaeth LILAC

Cafodd ein Tîm Ymgysylltu Academaidd (sy'n cynnwys ein Llyfrgellwyr Pwnc a'n tîm Sgiliau Digidol) eu henwebu ar gyfer Gwobr Llythrennedd Gwybodaeth LILAC am yr adnodd SgiliauAber newydd.

Canolfan Sgiliau Newydd a Gwasanaeth Gyrfaoedd, Llyfrgell Hugh Owen

Rydym wedi agor Canolfan SgiliauAber newydd a gofod Gyrfaoedd ar Lawr D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen.

Mae Canolfan SgiliauAber yn cynnig apwyntiadau a sesiynau galw heibio i gefnogi myfyrwyr gydag ystod o wasanaethau gan gynnwys Mathemateg ac Ystadegau, Sgiliau Digidol a Gwyddoniaeth Sgiliau.  Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd bellach ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell ar gyfer galw heibio, clinigau CV ac apwyntiadau yn ogystal ag ar gyfer gweithdai gyrfaoedd a sesiynau hyfforddi.

Addysgu a chymorth Llyfrgellydd Pwnc

Mae Simone Anthony, ein Llyfrgellydd Pwnc Addysg Gofal Iechyd, wedi bod yn rhoi sesiynau Llyfrgell, Gwybodaeth a sgiliau cyfeirnodi i fyfyrwyr y Dystysgrif Addysg Gofal Iechyd. Mae'r cynllun hwn yn galluogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i wneud lle i’w hastudiaethau o amgylch gwaith cyflogedig.

Mae Llyfrgellydd Pwnc Seicoleg, Sarah Gwenlan, wedi bod yn arbennig o brysur yn cynnal adolygiadau systematig gydag ymchwilwyr, gan adolygu pynciau gan gynnwys hunanreoli Diabetes, ymyriadau ymddygiadol sy'n newid ymddygiadau dietegol a chasineb at fenywod o fewn chwaraeon i fenywod.

Adnoddau DA

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi'r Canllaw Llyfrgell ddiweddaraf 'Defnyddio DA yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr' i bwyso a mesur sut y gall myfyrwyr ddefnyddio DA yn effeithiol i wneud y mwyaf o'u profiad llyfrgell.

Mae ein Llyfrgellwyr hefyd wedi bod yn gweithio'n galed i gyflwyno sesiynau SgiliauAber newydd 'DA a'ch astudiaethau' i fyfyrwyr.

Ailddatblygu Lefel E

Yr haf hwn mae newidiadau mawr ar droed i Lefel E, llawr canol Llyfrgell Hugh Owen.

Mae gwaith adeiladu'n dechrau ganol mis Mai ar ein prosiect i greu gofod mwy i fyfyrwyr ar y llawr hwn sy'n cynnwys mwy o leoedd astudio a 6 ystafell astudio grŵp newydd gyda golygfeydd hyfryd dros y dref tuag at y môr.

 

Canlyniadau'r ACF 2024

Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr

Gwasanaethau Llyfrgell - 93.3 

Meincnod y DU 90.2

Gwasanaethau TG - 90.9

Meincnod y DU 84.5

Boddhad cyffredinol myfyrwyr â'r adnoddau dysgu

Canlyniadau'r ACF Meincnod y DU Ein sgôr
2023 86 90
2024 87.2 91.5

Sefydliadau Meincnodi'r ACF

Mae'r siartiau hyn yn dangos sut mae Prifysgol Aberystwyth yn cymharu â sefydliadau meincnodi eraill o safbwynt adnoddau i ddisgyblaethau o fewn Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd*

Ar hyn o bryd rydym yn meincnodi yn erbyn:

  • Prifysgol Bangor

  • Prifysgol Met Caerdydd

  • Prifysgol Abertawe

  • University of Sussex

  • University of Lancaster

  • University of Keele

Thema 06: Bodlonrwydd â'r Adnoddau Dysgu: C. 19-21

  • Mae'r adnoddau a'r cyfleusterau TG sydd wedi'u darparu wedi cefnogi fy nysgu yn dda.

  • Mae adnoddau'r llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a gofod dysgu) wedi cefnogi fy nysgu yn dda.

  • Rydw i wedi gallu cael gafael ar adnoddau penodol i fy nghwrs (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd, casgliadau) fel sydd angen

Daeareg, Gwyddorau Daear ac Amgylchedd

Aberystwyth    91.9
Bangor    84.4
Keele    79.4
Sussex    89.4
Abertawe    86.2

Gwyddorau Biolegol a Chwaraeon

Aberystwyth    90.9
Bangor    86.7
Met Caerdydd    86.9
Keele    86.1
Sussex    91.8
Abertawe    89.4

Seicoleg

Aberystwyth    92.6
Bangor    84.3
Met Caerdydd    88.9
Keele    89.2
Sussex    86
Abertawe    85.6

Amaethyddiaeth, Bwyd ac astudiaethau cysylltiedig

Aberystwyth    89.7
Bangor    93.5

 

Arolwg Defnyddwyr GG 2023

Rydym wedi bod yn gofyn i fyfyrwyr a staff lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd.

Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arno? Rydym wedi defnyddio'r ymatebion i gynllunio datblygu ein gwasanaethau. 

Cawsom 315 o ymatebion i'n Harolwg Defnyddwyr GG yn 2023. 

Adran Nifer yr ymatebwyr
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

25

Addysg Gofal Iechyd 13
Gwyddorau Bywyd 48
Seicoleg 14
Ysgol Gwyddor Filfeddygol 2

Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad

 

Gwariant

ers mis Awst 2023

Llyfrau ac eLyfrau -£171,950.15

Cyfnodolion ac eAdnoddau -£1,313,910.34

Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.

85% o'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data

15% sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau a thestunau wedi'u digido

 

Defnydd

19,618 o ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol 

182,411 o ymweliadau â  Llyfrgell Hugh Owen

 

Mynychwyr teithiau’r llyfrgell yn ôl adran yn CGBD

Adran Nifer
Gwyddorau Bywyd 82
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear 41
Seicoleg 50

 

Ers Awst 2023, mae'r Llyfrgell wedi:

rhoi benthyg 43,177 o eitemau i fenthycwyr

digideiddio 373 o adnoddau - 26 at ddefnydd CGBD

cael benthyg 495 o eitemau trwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd

rhoi benthyg 889 o eitemau trwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd

rhoi 622 o deithiau tywysedig i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd o Lyfrgell Hugh Owen a'i chyfleusterau

 

Porth Ymchwil Aberystwyth 

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim

CGBD Allbynnau Ymchwil -238 ers dechrau 2023

CGBD Traethodau Hir Ymchwil -21 ers dechrau 2023

 

Eich Llyfrgellwyr Pwnc

llyfrgellwyr@aber.ac.uk  01970 621896

Non Jones (nrb)

Simon French (sif4)

Simone Anthony (sia1)

Sarah Gwenlan (ssg)

Dysgu a chymorth llyfrgell

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gweithgareddau dysgu’r Llyfrgellwyr yn ôl adran

Adran             Oriau dysgu
Gwyddorau Bywyd (amaeth) 3
Gwyddorau Bywyd (bioleg) 2
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear 9
Addysg Gofal Iechyd 69
Seicoleg 33
Milfeddygaeth 2

Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc

Cymorth llyfrgell ar gyfer ymchwil

Gall Llyfrgellwyr Pwnc helpu gyda phrosiect ymchwil ar unrhyw lefel - o ddod o hyd i adnoddau, adolygiadau systematig, rheoli cyfeiriadau hyd at ei gyhoeddi.

Edrychwch ar ein Canllaw Llyfrgell Cymorth Llyfrgell i Ymchwilwyr sy'n cynnig cyngor, gwybodaeth, dolenni ar wasanaethau llyfrgell defnyddiol, awgrymiadau ar fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau, cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant a ffyrdd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

LibGuides

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man.

Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol.

Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 66,309 o weithiau ers mis Mehefin 2023.

 

Canllawiau Pwnc

gwelwyd 663 o weithiau yn 23/24

Addysg Gofal Iechyd

gwelwyd 6341 o weithiau yn 23/24

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

gwelwyd 584 o weithiau yn 23/24

Seicoleg a Chwnsela

gwelwyd 1103 o weithiau yn 23/24

 

Mae ein LibGuide Gofal Iechyd wedi'i weld 4783 o weithiau yn fwy yn 23/24 na'r flwyddyn flaenorol

 

Rhestrau Darllen

Ers mis Mehefin 2023, ychwanegwyd:

  • 304 o adnoddau at restrau Gwyddorau Bywyd a BVSc

  • 1759 o adnoddau at restrau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

  • 96 o adnoddau at restrau Seicoleg

  • 90 o adnoddau at restrau Addysg Gofal Iechyd

Ychwanegwyd cyfanswm o 2249 adnodd at restrau darllen CGDB

*Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido

 

Mae gan 96.6% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire

Darpariaeth Rhestrau Darllen y Gyfadran

Adran Canran o'r holl restrau
Cyfartaledd PA 96.6%
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear 100%
Addysg Gofal Iechyd 100%
Gwyddorau Bywyd a BVSc 99.4%
Seicoleg 100%

 

Sgiliau Digidol

Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein harfogi ni i fyw, dysgu ac i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol.

Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain. 

digi@aber.ac.uk

Cwrdd â'r Tîm

Sioned Llywelyn - Arweinydd Sgiliau Digidol

Shân Saunders - Cydlynydd Sgiliau Digidol

Laurie Stevenson, Noel Czempik, Joel Williams - Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Hyfforddiant Sgiliau Digidol

86 - Cyfanswm y sesiynau sydd wedi'u cynnal

Grŵp      Nifer y mynychwyr
Israddedig 289
Ôl-raddedig 38
Sesiynau galw heibio myfyrwyr 13
Digwyddiadau'r Ŵyl Sgiliau Digidol 72
Hyfforddiant Staff 53
Cynrychiolwyr Academaidd 12

 

Gŵyl Sgiliau Digidol

Cynhaliwyd yr Ŵyl Sgiliau Digidol am y tro cyntaf ym mis Tachwedd '23, a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr ehangu ac archwilio eu sgiliau digidol dros 28 o ddigwyddiadau. Mae holl adnoddau'r ŵyl ar gael i fyfyrwyr o wefan yr Ŵyl Sgiliau Digidol

72 o fynychwyr yr ŵyl - 22 o CGBD

Adran

Nifer y mynychwyr

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

4
Addysg Gofal Iechyd 0
Gwyddorau Bywyd 10
Seicoleg 6
Milfeddygaeth 2

Offeryn Darganfod Digidol Jisc

Yn ystod '23-'24, roedd gan bob myfyriwr fynediad at Offeryn Darganfod Digidol Jisc (ODD), adnodd dwyieithog ar-lein a oedd yn eu galluogi i hunanasesu a datblygu eu hyder gyda thechnoleg

972 - Cyfanswm o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r ODD yn '23/24 – 334 yn CGBD

Roedd holiadur newydd yn yr Offeryn Darganfod Digidol yn caniatáu i fyfyrwyr hunanasesu a datblygu eu dealltwriaeth am DdA

 

Cyfres TipiauDigidol Wythnosol

Eleni, rydym wedi cyhoeddi cyfres newydd o TipiauDigidol wythnosol i gefnogi hyder myfyrwyr gyda thechnoleg: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/category/digitips/