Neidiwch i'r fersiwn testun

 

Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol 23/24

Camau Gweithredu'r Llyfrgell

Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod

SgiliauAber ar ei newydd wedd

Mae SgiliauAber yn adnodd ar-lein newydd cwbl ddwyieithog, sydd wedi'i ddatblygu fel lle ‘o dan-un-to’ i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae SgiliauAber wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr ym mhob agwedd ar eu taith Prifysgol. Gyda ffocws ar sgiliau academaidd ac astudio, pontio i fywyd prifysgol, lles, cyflogadwyedd, a defnyddio technoleg yn effeithiol.

Mae SgiliauAber hefyd yn cefnogi staff academaidd yn eu hymdrechion i wella'r profiad dysgu. Mae'r llwyfan yn cynnig arweiniad ar ymgorffori sesiynau sgiliau yn y cwricwlwm, gan helpu addysgwyr i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i'w myfyrwyr.

Ochr yn ochr â'r wefan ddiwygiedig y mae'r Modiwl Blackboard SgiliauAber newydd. Mae pob myfyriwr ar draws y Brifysgol wedi'u cofrestru'n awtomatig ar y modiwl hwn a gallant gael mynediad at ddeunyddiau addysgu, recordiadau o weithdai ac adnoddau SgiliauAber. 

Enwebeion Gwobr Llythrennedd Gwybodaeth LILAC

Cafodd ein Tîm Ymgysylltu Academaidd (sy'n cynnwys ein Llyfrgellwyr Pwnc a'n tîm Sgiliau Digidol) eu henwebu ar gyfer Gwobr Llythrennedd Gwybodaeth LILAC am yr adnodd SgiliauAber newydd.

Canolfan Sgiliau Newydd a Gwasanaeth Gyrfaoedd, Llyfrgell Hugh Owen

Rydym wedi agor Canolfan SgiliauAber newydd a gofod Gyrfaoedd ar Lawr D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen.

Mae Canolfan SgiliauAber yn cynnig apwyntiadau a sesiynau galw heibio i gefnogi myfyrwyr gydag ystod o wasanaethau gan gynnwys Mathemateg ac Ystadegau, Sgiliau Digidol a Gwyddoniaeth Sgiliau.  Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd bellach ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell ar gyfer galw heibio, clinigau CV ac apwyntiadau yn ogystal ag ar gyfer gweithdai gyrfaoedd a sesiynau hyfforddi.

Casgliad Llenyddiaeth Plant

Lluniodd y Llyfrgellydd Pwnc Addysg, Sarah Gwenlan, arddangosfa o lyfrau o'n Casgliad Llenyddiaeth Plant yn Llyfrgell Hugh Owen ar gyfer modiwl Llythrennedd Plant yr Ysgol Addysg.

Gwelwyd yr arddangosfa gan ymwelwyr o Brifysgol NHL Stenden yn yr Iseldiroedd yn ystod eu taith o amgylch y Llyfrgell yn yr hydref a oedd yn awyddus iawn i ddarganfod mwy am agweddau dwyieithog addysg, adnoddau ac ysgolion yng Nghymru.

Adnoddau DA

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi'r Canllaw Llyfrgell ddiweddaraf 'Defnyddio DA yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr' i bwyso a mesur sut y gall myfyrwyr ddefnyddio DA yn effeithiol i wneud y mwyaf o'u profiad llyfrgell.

Mae ein Llyfrgellwyr hefyd wedi bod yn gweithio'n galed i gyflwyno sesiynau SgiliauAber newydd 'DA a'ch astudiaethau' i fyfyrwyr.

Ailddatblygu Lefel E

Yr haf hwn mae newidiadau mawr ar droed i Lefel E, llawr canol Llyfrgell Hugh Owen.

Mae gwaith adeiladu'n dechrau ganol mis Mai ar ein prosiect i greu gofod mwy i fyfyrwyr ar y llawr hwn sy'n cynnwys mwy o leoedd astudio a 6 ystafell astudio grŵp newydd gyda golygfeydd hyfryd dros y dref tuag at y môr.

 

Canlyniadau'r ACF 2024

Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr

Gwasanaethau Llyfrgell - 93.3 

Meincnod y DU 90.2

Gwasanaethau TG - 90.9

Meincnod y DU 84.5

Boddhad cyffredinol myfyrwyr â'r adnoddau dysgu

Canlyniadau'r ACF Meincnod y DU Ein sgôr
2023 86 90
2024 87.2 91.5

Sefydliadau Meincnodi'r ACF

Mae'r siartiau hyn yn dangos sut mae Prifysgol Aberystwyth yn cymharu â sefydliadau meincnodi eraill o safbwynt adnoddau i ddisgyblaethau o fewn Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol*

Ar hyn o bryd rydym yn meincnodi yn erbyn:

  • Prifysgol Bangor

  • Prifysgol Met Caerdydd

  • Prifysgol Abertawe

  • University of Sussex

  • University of Lancaster

  • University of Keele

Thema 06: Bodlonrwydd â'r Adnoddau Dysgu: C. 19-21

  • Mae'r adnoddau a'r cyfleusterau TG sydd wedi'u darparu wedi cefnogi fy nysgu yn dda.

  • Mae adnoddau'r llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a gofod dysgu) wedi cefnogi fy nysgu yn dda.

  • Rydw i wedi gallu cael gafael ar adnoddau penodol i fy nghwrs (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd, casgliadau) fel sydd angen

Celfyddydau Creadigol a Dylunio

Aberystwyth    89
Bangor    95.7
Met Caerdydd    87.2
Lancaster    84.9
Sussex    78.3

Addysg ac Addysgu

Aberystwyth    93.5
Bangor    77.8
Met Caerdydd    90.9
Keele    94.3
Sussex    84.5
Abertawe    92.4

Y Gyfraith

Aberystwyth    87.2
Bangor    92
Met Caerdydd    83.8
Keele    92.8
Lancaster    92
Sussex    87.7
Abertawe    85.9

Astudiaethau Iaith

Aberystwyth    92.3
Bangor    79
Keele    88.2
Sussex    89.5
Abertawe    88

Arolwg Defnyddwyr GG 2023

Rydym wedi bod yn gofyn i fyfyrwyr a staff lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd.

Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arno? Rydym wedi defnyddio'r ymatebion i gynllunio datblygu ein gwasanaethau. 

Cawsom 315 o ymatebion i'n Harolwg Defnyddwyr GG yn 2023. 

Adran Nifer yr ymatebwyr
Celf

8

Addysg 3
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 13
Hanes a Hanes Cymru 12
Canolfan Saesneg Rhyngwladol 0
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 12
Cyfraith a Throseddeg 19
Ieithoedd Modern 4
Theatr, Ffilm a Theledu 4
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 1

Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad

 

Gwariant

ers mis Awst 2023

Llyfrau ac eLyfrau -£171,950.15

Cyfnodolion ac eAdnoddau -£1,313,910.34

Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.

85% o'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data

15% sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau a thestunau wedi'u digido

 

Defnydd

19,618 o ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol 

182,411 o ymweliadau â  Llyfrgell Hugh Owen

 

Mynychwyr teithiau’r llyfrgell yn ôl adran yn CCGC

Adran Nifer
Cyfraith a Throseddeg 26
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 39
Hanes a Hanes Cymru 33
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 24
Canolfan Saesneg Ryngwladol 22
Dysgu Gydol Oes 0
Ieithoedd Modern 7
TAR 18
Celf 9
Addysg 7
Theatr, Ffilm a Theledu 15
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 5

 

Ers Awst 2023, mae'r Llyfrgell wedi:

rhoi benthyg 43,177 o eitemau i fenthycwyr

digideiddio 373 o adnoddau - 317 at ddefnydd CCGC

cael benthyg 495 o eitemau trwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd

rhoi benthyg 889 o eitemau trwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd

rhoi 622 o deithiau tywysedig i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd o Lyfrgell Hugh Owen a'i chyfleusterau

 

Porth Ymchwil Aberystwyth 

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim 

CCGC Allbynnau Ymchwil -163 ers dechrau 2023

CCGC Traethodau Hir Ymchwil -17 ers dechrau 2023

 

Eich Llyfrgellwyr Pwnc

llyfrgellwyr@aber.ac.uk  01970 621896

 

Joy Cadwallader (jrc)

Simon French (sif4)

Sarah Gwenlan (ssg)

Lloyd Roderick (glr9)

Dysgu a chymorth llyfrgell

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gweithgareddau dysgu’r Llyfrgellwyr yn ôl adran

Adran             Oriau dysgu
Celf

26

Addysg 17
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2
Hanes a Hanes Cymru 20
Canolfan Saesneg Rhyngwladol 3
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 7
Cyfraith a Throseddeg 35
Dysgu Gydol Oes 1
Ieithoedd Modern 3
Theatr, Ffilm a Theledu 6
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 6

Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc

Cymorth llyfrgell ar gyfer ymchwil

Gall Llyfrgellwyr Pwnc helpu gyda phrosiect ymchwil ar unrhyw lefel - o ddod o hyd i adnoddau, adolygiadau systematig, rheoli cyfeiriadau hyd at ei gyhoeddi.

Edrychwch ar ein Canllaw Llyfrgell Cymorth Llyfrgell i Ymchwilwyr sy'n cynnig cyngor, gwybodaeth, dolenni ar wasanaethau llyfrgell defnyddiol, awgrymiadau ar fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau, cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant a ffyrdd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

LibGuides

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man.

Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol.

Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 66,309 o weithiau ers mis Mehefin 2023.

 

Canllawiau Pwnc

Celf a Hanes Celf

gwelwyd 559 o weithiau yn 23/24

Addysg

gwelwyd 762 o weithiau yn 23/24

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

gwelwyd 520 o weithiau yn 23/24

Hanes a Hanes Cymru

gwelwyd 470 o weithiau yn 23/24

Canolfan Saesneg Ryngwladol

gwelwyd 114 o weithiau yn 23/24

Gwleidyddiaeth Rynglwadol

gwelwyd 495 o weithiau yn 23/24

Cyfraith a Throseddeg

gwelwyd 1374 o weithiau yn 23/24

Ieithoedd Modern

gwelwyd 294 o weithiau yn 23/24

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

gwelwyd 418 o weithiau yn 23/24

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

gwelwyd 251 o weithiau yn 23/24

 

Rhestrau Darllen

Ers mis Mehefin 2023, ychwanegwyd:

  • 417 o adnoddau at restrau Celf
  • 350 o adnoddau at restrau Addysg
  • 278 o adnoddau at restrau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 
  • 2290 o adnoddau at restrau Hanes a Hanes Cymru
  • 2143 o adnoddau at restrau Gwleidyddiaeth Ryngwladol
  • o adnoddau at restrau Canolfan Saesneg Rhyngwladol
  • 383 o adnoddau at restrau Cyfraith a Throseddeg
  • 83 o adnoddau at restrau Ieithoedd Modern
  • 523 o adnoddau at restrau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  • 69 o adnoddau at restrau Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ychwanegwyd cyfanswm o 6536 adnodd at restrau darllen CCGC

*Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido

 

Mae gan 96.6% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire

Darpariaeth Rhestrau Darllen y Gyfadran

Adran Canran o'r holl restrau
Cyfartaledd PA 96.6%
Celf 100
Addysg 100%
Astudiaethau Gwybodaeth 100%
Hanes a Hanes Cymru 100%
Canolfan Saesneg Rhyngwladol 96.3%
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 94%
Cyfraith a Throseddeg 100%
Ieithoedd Modern

97.5%

Theatr, Ffilm a Theledu 100%
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 100%

 

Sgiliau Digidol

Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein harfogi ni i fyw, dysgu ac i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol.

Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain. 

digi@aber.ac.uk

Cwrdd â'r Tîm

Sioned Llywelyn - Arweinydd Sgiliau Digidol

Shân Saunders - Cydlynydd Sgiliau Digidol

Laurie Stevenson, Noel Czempik, Joel Williams - Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Hyfforddiant Sgiliau Digidol

86 - Cyfanswm y sesiynau sydd wedi'u cynnal

Grŵp      Nifer y mynychwyr
Israddedig 289
Ôl-raddedig 38
Sesiynau galw heibio myfyrwyr 13
Digwyddiadau'r Ŵyl Sgiliau Digidol 72
Hyfforddiant Staff 53
Cynrychiolwyr Academaidd 12

 

Gŵyl Sgiliau Digidol

Cynhaliwyd yr Ŵyl Sgiliau Digidol am y tro cyntaf ym mis Tachwedd '23, a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr ehangu ac archwilio eu sgiliau digidol dros 28 o ddigwyddiadau. Mae holl adnoddau'r ŵyl ar gael i fyfyrwyr o wefan yr Ŵyl Sgiliau Digidol

72 o fynychwyr yr ŵyl - 21 o CCGC

Adran

Nifer y mynychwyr

Celf

3
Addysg 1
Saesneg 4
Hanes 2
Gwleidyddiaeth Ryngwladol 5
Y Gyfraith a Throseddeg 1
Dysgu Gydol Oes 0
Ieithoedd Modern 0
Theatr, Ffilm a Theledu 3
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 2

Offeryn Darganfod Digidol Jisc

Yn ystod '23-'24, roedd gan bob myfyriwr fynediad at Offeryn Darganfod Digidol Jisc (ODD), adnodd dwyieithog ar-lein a oedd yn eu galluogi i hunanasesu a datblygu eu hyder gyda thechnoleg

972 - Cyfanswm o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r ODD yn '23/24 – 420 yn CCGC

Roedd holiadur newydd yn yr Offeryn Darganfod Digidol yn caniatáu i fyfyrwyr hunanasesu a datblygu eu dealltwriaeth am DdA

 

Cyfres TipiauDigidol Wythnosol

Eleni, rydym wedi cyhoeddi cyfres newydd o TipiauDigidol wythnosol i gefnogi hyder myfyrwyr gyda thechnoleg: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/category/digitips/