Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 2021-22
Camau Gweithredu'r Llyfrgell
Critical Studies and Performance Practice - Mewn partneriaeth â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, mae'r Llyfrgell yn prynu’r ôl-gasgliad cyflawn o e-lyfrau Critical Studies & Performance Practice gan Bloomsbury a byddwn yn prynu'r diweddariadau blynyddol i'r casgliad wrth iddynt gael eu rhyddhau. Bydd yr e-lyfrau’n cael eu cadw ar y llwyfan Drama Online a bydd myfyrwyr a staff yn gallu eu canfod hefyd yn Primo.
Canllaw Traethawd Hir - Rydym wedi creu Canllaw Traethawd Hir newydd i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth, i'w defnyddio nhw ac i'w rheoli nhw ar gyfer eu prosiectau.
Casgliad Lles Darllen yn Well - Rydym wedi llunio'r Rhestr Ddarllen Darllen yn Well. Casgliad o adnoddau sydd ar gael trwy'r Llyfrgell i gefnogi iechyd meddwl a lles ein defnyddwyr.
Adnewyddu Llyfrgell Hugh Owen - Rydym wedi bod wrthi'n casglu adborth gan ddefnyddwyr ar gyfer y gwaith arfaethedig o adnewyddu Lefelau E ac F. Darllenwch rai o'r awgrymiadau a rhannwch eich rhai chi yma
Hybiau Monitor - Rydym yn treialu hybiau monitor yn Llyfrgell Hugh Owen i helpu pobl i ddefnyddio'u gliniaduron mewn ffordd fwy ergonomig. Rhagor o wybodaeth yma.
Ymestyn oriau agor y Llyfrgell - Gwnaethom sicrhau bod y Llyfrgell ar agor gymaint â phosibl dros gyfnodau gwyliau gan gynnwys y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a'r Pasg.
Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid - Enillodd Gwasanaethau Gwybodaeth safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2015 ac mae wedi cynnal y safon hon ac wedi ennill meysydd Compliance Plus, meysydd sy'n mynd y tu hwnt i ddarpariaeth gwasanaeth safonol, bob blwyddyn ers hynny. Darllenwch fwy yma
Benthyciadau Post a Dychwelyd Rhadbost - Rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth benthyciadau trwy'r post i fyfyrwyr dysgu o bell a myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Canllaw a Chwis Cyfeirnodi a Llên-ladrad - Ym mis Medi 2020 lansiodd y llyfrgell Ganllaw a Chwis Llyfrgell pwrpasol i godi ymwybyddiaeth o Gyfeirnodi a Llên-ladrad. Ers ei lansio, edrychwyd ar y canllaw 100,273 o weithiau.
Lansiwyd fersiwn newydd o'r Canllaw a'r Cwis ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd 2022/2023 ac mae 1293 o ymdrechion wedi'u gwneud ar y cwis newydd, gyda 552 yn sgorio'r marc pasio a argymhellir o 80 neu uwch.
Canlyniadau'r ACF 2022
Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG hefyd yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr
-
Gwasanaethau Llyfrgell - 87 8 pwynt canran yn uwch na 2021. Ar y brig yng Nghymru a 10fed yn y DU
-
Gwasanaethau TG - 86 6 phwynt canran yn uwch na 2021. Ar y brig yng Nghymru a 3ydd yn y DU
Arolwg Defnyddwyr 2021
Rydym wedi bod yn gofyn i ddefnyddwyr lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd.
Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arno? Rydym wedi defnyddio'r ymatebion i gynllunio a datblygu ein gwasanaethau. Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad
Rydym yn chwilio am y ffyrdd mwyaf effeithiol i gasglu adborth a thystiolaeth am ein gwasanaethau llyfrgell ar hyn o bryd.
Defnydd Adnoddau a Chyllideb
Gwariant - Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.
85% - sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data
15% - sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau, testunau wedi'u digido o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion.
Yr ydym hefyd wedi ymrwymo £40,000 o'r Gyllideb Adnoddau Llyfrgell i helpu i gefnogi ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda'r trosglwyddiad i gyhoeddi Mynediad Agored.
Defnydd - ers mis Awst 2021
Rydym wedi benthyca 37, 991 llyfr
Rydym wedi digideiddio 528 pennod / erthygl
Rydym wedi benthyca 162 cyfnodolyn - Yn 2021, fe wnaethom estyn yr hawl i fenthyg cyfnodolion - a oedd ar y pryd ar gael i’r staff yn unig - i grwpiau eraill o ddefnyddwyr. Ac erbyn hyn mae’n bosib gwneud cais amdanynt ar Primo
Rydym wedi benthyg 399 eitem ac wedi benthyca 1006 eitem i lyfrgelloedd eraill
Rhestrau Darllen
Ers mis Awst 2021, ychwanegwyd:
- 577 o adnoddau at restrau Celf
- 102 o adnoddau at restrau Addysg
- 240 o adnoddau at restrau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
- 2555 o adnoddau at restrau Hanes
- 1868 o adnoddau at restrau Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- 4 o adnoddau at restrau Canolfan Saesneg Rhyngwladol
- 246 o adnoddau at restrau Cyfraith a Throseddeg
- 57 o adnoddau at restrau Ieithoedd Modern
- 366 o adnoddau at restrau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
- 235 o adnoddau at restrau Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
*Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido
Mae gan 94% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire
Porth Ymchwil Aberystwyth
Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim
LibGuides
Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man.
Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol.
Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 37,841 o weithiau mewn un flwyddyn academaidd
Galluoedd Digidol
Galluoedd digidol yw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ffyrdd o weithredu sydd yn ein galluogi i fyw, dysgu a gweithio yn ddiogel ac effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff yn y Brifysgol i asesu a datblygu eu galluoedd digidol eu hunain.
Enghreifftiau o alluoedd digidol:
- Chwilio am lenyddiaeth yn effeithlon
- Rheoli data
- Cyfathrebu ag eraill ar-lein
- Deall sut i gadw'n ddiogel ar-lein
- Cydweithio mewn timau a grwpiau digidol
- Dysgu a myfyrio gan ddefnyddio offer digidol
Adnoddau i'ch cefnogi i asesu a datblygu eich galluoedd digidol
Offeryn Darganfod Digidol Jisc
Mae Offeryn Darganfod Digidol Jisc yn adnodd dwyieithog sy'n galluogi myfyrwyr a staff i hunanasesu eu galluoedd digidol. Bydd yn eich galluogi i nodi eich cryfderau yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu eich galluoedd digidol ymhellach.
Pryd fydd yr Offeryn Darganfod Digidol (ODD) ar gael i bob myfyriwr?
- 2021/22: Cynllun peilot Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn 1 yr ODD - Addysg, Seicoleg, Busnes, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
- 2022/23: ODD ar gael i bob myfyriwr Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn 1
- 2022/23: Cynllun peilot Blwyddyn 2 a Blwyddyn Derfynol yr ODD
- 2023/24: ODD ar gael i bob myfyriwr (Israddedig ac Uwchraddedig)
LinkedIn Learning
Llwyfan addysgu ar-lein sy’n cynnwys llyfrgell helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Gall LinkedIn Learning eich helpu chi i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal â nifer o sgiliau eraill.
Rhowch eich cyfrif LinkedIn Learning ar waith
Gwybodaeth gyswllt
Sioned Llywelyn (Swyddog Galluoedd Digidol) digi@aber.ac.uk
Tanysgrifiwch i'r safle WordPress Galluoedd Digidol