Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 2022-23 Cyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol
Camau Gweithredu'r Llyfrgell - Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod
Business Insights Rydym bellach yn cynnig mynediad at adnodd Busnes newydd - Gale - Business Insights. Trwy Business Insights, gallwch gyrchu mwy na 430,000 o broffiliau cwmni manwl gyda data ariannol y cwmni, trosolwg manwl o wledydd, a phroffiliau cynhwysfawr o'r diwydiant.
Ffyrdd newydd i ddarganfod adnoddau llyfrgell ar-lein - Rydym wedi cyflwyno dau adnodd newydd i'ch helpu i chwilio a dod o hyd i adnoddau llyfrgell ar-lein:
Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr i'w lawrlwytho sy'n darparu mynediad un-clic at erthyglau. Darllen rhagor
Mae Browzine yn eich galluogi i bori a chadw cyfnodolion ysgolheigaidd sydd ar gael o'r llyfrgell neu o ffynonellau agored. Darllen rhagor
Canllaw Primo - Primo yw catalog y llyfrgell ac offeryn darganfod Prifysgol Aberystwyth sy'n rhoi mynediad i chi at adnoddau'r llyfrgell. Rydym wedi cyhoeddi canllaw Primo newydd i'ch helpu i wneud y gorau o Primo.
Map Llawr y Llyfrgell - Rydym yn lansio map llawr ar-lein rhyngweithiol yn Llyfrgell Hugh Owen i helpu pobl i ffeindio eu ffordd o gwmpas ac ymgyfarwyddo â chyfleusterau'r llyfrgell. Mae Map Llawr y Llyfrgell wedi'i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell, i'ch helpu i leoli eich llyfrau. Ymwelwch â'r llyfrgell ar-lein yma
Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid - Ennillodd GG y safon swyddogol Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2015 ac rydym wedi cynnal y safon hon gan ennill meysydd o 'Compliance Plus', meysydd sy'n mynd uwchlaw'r gwasanaeth safonol, bob blwyddyn ers hynny.
Yn yr adolygiad llawn diwethaf yn 2021, dyfarnwyd 11 maes Compliance Plus. Cynhaliwyd y rhain i gyd yn 2022 ac yn 2023. Rhagor o wybodaeth yma
Myfyrwyr Rhyngwladol a'r Llyfrgell - Ym mis Chwefror 2023, cynhaliwyd wythnos o weithgareddau samplu i asesu'r ffyrdd y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ymgysylltu â'n gwasanaethau. Roedd y gweithgareddau'n seiliedig ar ddulliau UX ac roedd yn cynnwys teithiau llyfrgell dan arweiniad y myfyrwyr a chyfweliad lled-strwythuredig i holi am eu profiadau cyn ac ar ôl cyrraedd Aberystwyth. Manylion yma
Canllaw llyfrgell ar gyfer staff addysgu - Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi LibGuide ar gyfer staff addysgu newydd sy'n cynnwys popeth y mae angen i staff newydd ei wybod am y llyfrgell a sicrhau adnoddau ar gyfer eu modiwlau
Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru - Ennillodd ein tîm Ymgysylltu Academaidd yr ail wobr yng Ngwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru am eu gwaith ar y Canllaw Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad.
Dywedodd y beirniaid: “Cynlluniodd y tîm adnodd hyfforddi newydd ar gyfer cyfeirnodi. Mae'r adnodd yn rhyngweithiol ac yn gwbl ddwyieithog, wedi'i integreiddio i systemau dysgu myfyrwyr a gellir ei deilwra i wahanol anghenion myfyrwyr. Roedd llwyddiant datblygiad yr adnoddau hyfforddi newydd hyn yn cydnabod bod cyflwyno llwyddiannus yn dibynnu ar gael y defnyddwyr i gymryd rhan. Roedd yn amlwg bod gan y tîm ddealltwriaeth wirioneddol o sut y byddai myfyrwyr yn ymwneud â'r cynnwys a beth fyddai'n lleihau pryder wrth gyfeirnodi.
Canlyniadau'r ACF 2022 - Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr
Gwasanaethau Llyfrgell - 93 8 pwynt canran yn uwch na 2022 Ar y brig yng Nghymru
Gwasanaethau TG - 89 3 phwynt canran yn uwch na 2022 Ar y brig yng Nghymru
Arolwg Defnyddwyr GG 2022 - Rydym wedi bod yn gofyn i fyfyrwyr a staff lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd. Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arno? Rydym yn defnyddio'r ymatebion i gynllunio a datblygu ein gwasanaethau.
Cawsom 534 o ymatebion i'n Harolwg Defnyddwyr GG yn 2022. Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad
Adran | Nifer o ymatebwyr |
Ysgol Fusnes Aberystwyth | 36 |
Cyfrifiadureg | 50 |
Mathemateg | 8 |
Ffiseg | 19 |
Astudiaethau Gwybodaeth | 14 |
Gwariant - Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.
85% - sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data
15% - sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau, testunau wedi'u digido o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion.
- Gwariwyd £158,769 ar lyfrau ac elyfrau ers mis Awst 2022
- Gwariwyd £1,364,947 ar gyfnodolion, egyfnodolion a chronfeydd data ers mis Awst 2022
Defnydd - Ers mis Awst 2022:
- mae 37,165 o lyfrau wedi cael eu benthyg a 212 o gyfnodolion.
- Rydym wedi digideiddio 37 eitem ar gyfer CBGFf a 550 ar y cyfan.
- Rydym wedi benthyg 470 eitem gan lyfrgelloedd eraill ac wedi rhoi benthyg 964 o eitemau trwy'r cynllun benthyciadau rhwng llyfrgelloedd.
- Rydym wedi tywys 461 o fyfyrwyr o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen ar ddechrau'r tymor.
Mynychwyr teithiau'r llyfrgell yn ôl adran yn CBGFf:
Adran | |
Ysgol Fusnes Aberystwyth | 23 |
Cyfrifiadureg | 7 |
Adran Astudiaethau Gwybodaeth | 28 |
Mathemateg | 7 |
Ffiseg | 7 |
- 124,031 o ymweliadau â Llyfrgell Hugh Owen
- 15,258 o ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Roedd 361 o ymweliadau â'r Ystafell Iris de Freitas dros y Pasg. Roedd yr ystafell astudio ar agor 24/7 yn ystod y gwyliau tra roedd gweddill Llyfrgell Hugh Owen ar gau.
Rydym yn gweithio ar gynyddu oriau agor llyfrgell y tu allan i amseroedd tymor traddodiadol er mwyn darparu ar gyfer anghenion pob myfyriwr ar draws cynlluniau astudio cynyddol amrywiol.
Rhestrau darllen - Ers mis Mehefin 2022, ychwanegwyd:
-
67 o adnoddau at restrau Ysgol Fusnes Aberystwyth
-
8 o adnoddau at restrau Cyfrifiadureg
-
526 o adnoddau at restrau Astudiaethau Gwybodaeth
-
2 o adnoddau at restrau Mathemateg
-
15 o adnoddau at restrau Ffiseg
Ychwanegwyd cyfanswm o 618 adnodd at restrau darllen CBGFf ers mis Mehefin 2022. *Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido
Cymhareb o lyfrau print i elyfrau ar restrau darllen
Math o adnodd | |
Llyfrau print | 3022 |
elyfrau | 1228 |
Mae gan 95.3% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire
1762 o fodiwlau sydd angen rhestr. 1679 o fodiwlau sydd â rhestr
Darpariaeth Rhestrau Darllen y Cyfadran
Adran | Canran o'r holl restrau |
Cyfartaledd PA | 95.3% |
Ysgol Fusnes Aberystwyth | 89.7% |
Cyfrifiadureg | 88% |
Astudiaethau Gwybodaeth | 87.6% |
Mathemateg | 98.7% |
Ffiseg | 76.1% |
Porth Ymchwil Aberystwyth - yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim
- 171 o allbynau ymchwil CBGFf ers dechrau 2022
- 6 o draethodau hir ymchwil CBGFf ers dechrau 2022
LibGuides - Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man. Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol.
Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 44,053 o weithiau mewn un flwyddyn academaidd sy'n 6212 o weithau yn rhagor na'r flwyddyn flaenorol
Canllawiau Pwnc
Ysgol Fusnes Aberystwyth gwelwyd 1052 o weithiau yn 22/23
Cyfrifiadureg gwelwyd 150 o weithiau yn 22/23
Astudiaethau Gwybodaeth gwelwyd 1757 o weithiau yn 22/23
Mathemateg a Ffiseg gwelwyd 102 o weithiau yn 22/23
Gwasanaethau Gwybodaeth - Dysgu a chymorth llyfrgell - Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddiant i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a gwneud defnydd effeithiol o'n hamrywiol wasanaethau. Rydym yn cynnig hyfforddiant yn y meysydd canlynol:
- Sgiliau Academaidd i Fyfyrwyr
- Systemau Gweinyddol
- Sgiliau Digidol
- Dysgu ac Addysgu
- Datblygu Gyrfa
- Ymchwil
Yn 22/23 cyflwynodd ein Llyfrgellwyr Pwnc sesiynau ar Fetrigau a Metrigau Amgen, Canfod Adnoddau Safonol, Cyfeirnodi a meddalwedd gyfeirnodi EndNote a Mendeley.
Rydym yn gweithio ar ailwampio tudalennau SgiliauAber i'w gwneud yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy defnyddiol ar gyfer myfyrwyr. Bydd SgiliauAber ar eu newydd wedd yn lansio'n gynnar yn y flwyddyn academaidd nesaf
Gweithgareddau dysgu'r Llyfrgellwyr yn ôl adran
Adran | Oriau dysgu | Mynychwyr |
Cyfrifiadureg | 1 | 2 |
Astudiaethau Gwybodaeth | 13 | 313 |
Mathemateg | 1 | 7 |
Ysgol Fusnes Aberystwyth | 27 | 767 |
Sgiliau Digidol - Cwrdd â'r tîm
- Sioned Llywelyn - Arweinydd Sgiliau Digidol
- Shân Saunders - Cydlynnwyr Datblygu Galluoedd a Sgiliau Digidol
- Laurie Stevenson, Jeffrey Clark - Pencampwyr Digidol Myfyrwyr
Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein harfogi ni i fyw, dysgu ac i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain.
- Tanysgrifiwch i'r safle Wordpress Sgiliau Digidol i gael y diweddaraf
- Cysylltu â ni - digi@aber.ac.uk
Offeryn Darganfod Digidol Jisc Adnodd dwyieithog ar-lein sy'n galluogi myfyrwyr a staff i hunan-asesu eu sgiliau digidol, gan eich galluogi i nodi eich hyder a'ch gallu mewn arferion yn y byd go iawn yw'r Offeryn Darganfod Digidol.
Ers mis Medi 2022, cwblhaodd dros 800 o fyfyrwyr sylfaen a myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yr Offeryn Darganfod Digidol. Dyma fanylion am y niferoedd o bobl o fewn adrannau CBGFf sydd wedi cwblhau'r offeryn:
Adran | |
Ysgol Fusnes Aberystwyth | 71 |
Cyfrifiadureg | 92 |
Astudiaethau Gwybodaeth | 7 |
Mathemateg | 1 |
Ffiseg | 51 |
Llyfrgell Sgiliau Digidol Llyfrgell Adnoddau newydd i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol, gan amrywio o'ch cefnogi i ddatblygu arferion digidol iach i ddysgu sut i godio.
Gŵyl Sgiliau Digidol y flwyddyn nesaf: Mae gennym ddigwyddiad cyffrous ar y gweill ym mis Tachwedd 2023, yr Ŵyl Sgiliau Digidol! Wythnos yn llawn gweithdai, sesiynau hyfforddi a gweithgareddau, a'r cyfan wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol.
Linkedin Learning Llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell helaeth o gyrsiau ar-lein a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr i'ch helpu i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal â sawl sgil arall. Ers mis Medi 2022, mae 4,535 o gyrsiau a 31,246 o fideos wedi cael eu gwylio yn LinkedIn Learning.
Newydd: Rydym wedi lansio 15 casgliad newydd eleni, yn cynnwys cyrsiau a fideos byr LinkedIn Learning a fydd yn eich helpu'n benodol i ddatblygu eich sgiliau digidol.
Newydd: Mae Pencampwyr Digidol Myfyrwyr hefyd wedi creu amrywiaeth o gasgliadau i gefnogi myfyrwyr yn y meysydd canlynol:
· Mynd i'r afael â straen arholiadau
Prif Gyrsiau LinkedIn Learning ar gyfer Myfyrwyr CBGFf yn 22/23
- Excel Essential Training (2awr 22m)
- Python Essential Training (2022) (4awr 22m)
- 20 Rules of Visual Communication (1awr 47m)
- Overcome Overthinking (36m)
- Academic Research Foundations: Quantitative (1awr 41m)
- Beating Procrastination (23m)