Miss Sian Davies

Miss Sian Davies

Institute Development Project Manager

IBERS

Manylion Cyswllt

Proffil

Cyn ymuno a IBERS fel Rheolwr Prosiect Strategol y Sefydliad (Gorffennaf 2022), bu Sian yn gweithio fel Dwyddog Datblygu Ewropeaidd yn yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi (RBI) gan gynnig cymorth i geisiadau am arian Ewropeaidd (2016-2022).

Bu Sian hefyd yn rheoli prosiect rhan amser yn IBERS sef BIOREVIEW - prosiect Newton Bhabba / Innovate rhwng 2018 a 2021. 

Hefyd cyn ynumo a RBI gweithiodd Sian fel Rheolwr Prosiect ar y prosiect 3 mlynedd Hinsawdd Arloesedd KIC a ariennir gan y Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesedd a Thechnoleg yn Athrofa Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddi Radd Gwyddoniaeth Gymhwysol mewn Cemeg a Gwyddoniaeth Llygredd Amgylcheddol ac phrofiad gwerthfawr mewn diwydiannau dwr a fferyllol.

Hefyd mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad gweithio i gwmni gofal iechyd arbenigol rhyngwladol (Protherics, cwmni BTG) oedd yn darparu cynhyrchion fferyllol arbennig ar werth masnachol mewn nifer o wledydd. Fel Prif Swyddog Gwarantu Safonau roedd hi’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfaeth â chyrff rheoleiddio – FDA a MHRA (Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau'r U.D.A. ac Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd)

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Siân Davies yn Rheolwr Prosiect Strategol llawn amser, yn IBERS, yn gweithio ar draws timau eang i wella enw da IBERS fel sefydliad sy'n cael eu arwain drwy ymchwil. Ma'r rol yn cynnwys alinio i strwythur newydd sy'n mapio ar yr amcanion datblygu sefydliadol a diwylliant gan alluogi IBERS i addasu i'r blaenoriaethau newidiol ar gyfer ymchwil amaethyddol. Mae Sian yn cefnogi, monitro, gwerthuso ac adrodd ar gyfnewid gwyddoniaeth aa gwybodaeth strategol yn IBERS.