Lleisiau’r Pridd

Mae Lleisiau’r Pridd yn rhan o brosiect arloesol dan nawdd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) sy’n pontio sawl disgyblaeth academaidd. Enw’r prosiect yw Making the invisible visible: Instrumenting and interpreting an upland landscape for climate change resilience.

Tîm academaidd Prifysgol Aberystwyth yw'r Athro Andrew Thomas, yr Athro Fred Labrosse, Pete Todd a'r Athro Mariecia.

Rhan gydweithredol Whall, yn rhinwedd ei swydd fel artist, fu delweddu a chyflwyno’r data newydd a ddaw o dechnoleg synwyryddion pridd cydraniad-uchel mewn ffordd sy’n mynd y tu hwnt i ystadegau traddodiadol, er mwyn rhoi ystyr ehangach i’r data hwnnw, fel y bydd yn cael mwy o effaith. Mae Whall wedi mynd ati i ymateb i friff y prosiect drwy gynnig safbwynt newydd ar yr ymchwil wyddonol a hynny’n llythrennol drwy osod ei chorff yn y tir er mwyn ymgorffori’r pridd a rhoi llais iddo.

Mae’n hanfodol tanio diddordeb y gymuned a rhanddeiliaid mewn data gwyddonol os ydym yn mynd i gytuno ar benderfyniadau ynghylch sut i reoli’r ucheldiroedd yn y dyfodol, a llwyddo i helpu’r cymunedau lleol - yn bobl ac yn bethau byw eraill - i gael yr hyn sydd ei eisiau a’i angen arnynt. Nod y prosiect hwn yw helpu cynulleidfaoedd ehangach a phobl nad ydynt yn wyddonwyr i ddod yn rhan o’r sgwrs am reoli tir ac am newid yn yr hinsawdd.

Gwahoddir cynulleidfaoedd, yn lleol ac o gwmpas y byd, i gael cip bob hyn a hyn ar y ffrwd fyw 24-awr, gan obeithio, drwy fod yn rhithiol agos at y mynydd, ac ynddo, gyda’r pridd a Miranda am ychydig eiliadau neu oriau, y ceir mwy o ymwybyddiaeth a safbwyntiau newydd – nid dim ond o ran amodau amrywiol y pridd a’r arlliwiau ohono sy’n cael eu cyfleu, ond hefyd o safbwynt y plethu rhwng y dynol a’r annynol, a’r cysylltiadau rhwng byd y ddynolryw a phopeth arall, o safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol ac amgylcheddol-wleidyddol.

“Nod y prosiect ‘Making the Invisible Visible’ yw ymdrin â’r heriau lu sy’n wynebu’r ucheldir. Wrth i’r glawiad a dwysedd y glaw gynyddu, ar yr un pryd â’r cynnydd yn y cyfnodau o sychder a gwres uchel - sy’n golygu ei bod hi’n fwy tebygol y ceir tanau llystyfiant, erydu’r pridd, llifogydd a lleihau’r carbon sydd yn y pridd - ceir mwy o heriau i’r ucheldiroedd. Ond eto mae angen o hyd iddynt gynnal bywoliaethau cefn gwlad yn ogystal â chynnal (a chynyddu) eu bioamrywiaeth, a’r carbon a’r dŵr y maent yn eu storio. Oherwydd bod natur amrywiol yr ucheldiroedd yn creu sawl her o safbwynt casglu, dadansoddi a chyfleu’r dystiolaeth empirig y seilir penderfyniadau rhesymegol arni, er mwyn sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni, fe fydd y prosiect yn defnyddio technoleg synhwyro newydd mewn 3 safle i gofnodi tymheredd a lleithder y pridd. Bydd y data cydraniad uchel am dymheredd a lleithder y pridd a geir o’r rhwydwaith o synwyryddion yn galluogi gwell modelu ar yr allyriadau o nwyon tŷ gwydr o’r pridd ym mhob safle. Defnyddir y data ac allbwn y modelu i brofi damcaniaethau cyd-gysylltiedig am sut mae’r hinsawdd a’r modd y defnyddir y tir yn effeithio ar i) y carbon a gedwir yn y pridd; ii) allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r pridd; a iii) y dŵr sydd yn y pridd.”  Yr Athro Mariecia Fraser a’r Athro Andrew Thomas

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Prifysgol Aberystwyth a LADA - Live Art in Rural UK (Live Art Development Agency)

Hoffai Whall ddiolch i’r Athro Andrew Thomas, yr Athro Fred Labrosse, Pete Todd a'r Athro  Mariecia am alluogi’r ymateb creadigol hwn.

Gallwch wylio’r ffrwd fyw pryd bynnag y mynnwch, ac am ba hyd bynnag, trwy ymweld â hi ar dudalen Facebook Miranda Whall:  https://www.facebook.com/whallmiranda