Ymchwil ceirch

20 Ebrill 2011

Gwaith ymchwil arloesol yn IBERS yn helpu ffermwyr a defnyddwyr

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain y gwaith o atal afiechyd ar gnwd pwysig – heb ddefnyddio cemegau.

Bydd y prosiect yn helpu cynhyrchwyr ceirch i dyfu cnydau mwy a gwell gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd yr un pryd.

Trwy gymryd mantais o’r amrywiadau genetig o fewn ceirch ac o ddatblygiadau mewn technoleg enetaidd, mae staff yn IBERS - Sefydliad Gwyddora Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol – yn helpu i ddatblygu mathau o geirch a fydd yn well am wrthsefyll afiechydon llwydni a chorunrwd.

Gall corunrwd leihau maint cnwd ceirch o 50% ac mae’r ddau afiechyd yn effeithio ar ansawdd a gwerth y grawn.

“Mae datblygu gallu’r planhigion i wrthsefyll afiechyd yn well na defnyddio cemegau,” meddai un o arweinwyr yr ymchwil, Dr Athole Marshall, pennaeth rhaglen enwog IBERS ym maes  datblygu ceirch.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd yn cyfyngu ar y defnydd o ffwngladdwyr ar geirch a bydd defnyddio dulliau marcio wrth fridio planhigion yn cael llawer llai o effaith ar yr amgylchedd.

“Ein gwaith ni yw datblygu mathau newydd sy’n gallu gwrthsefyll yr afiechydon hyn ond sy’n parhau i gynnig y lefel a’r ansawdd o gnwd sydd ei angen ar ffermwyr a defnyddwyr.”

IBERS yw un o’r partneriaid yn y cynllun pum-mlynedd sy’n cael ei gyd ariannu gan y Bwrdd Strategaeth Dechnolegol – y cyllidwyr eraill yw Senova Ltd. a Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol a’r Grwp Arddu.

Cafodd rhan IBERS yn y cynllun ei groesawu gan Gyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Wayne Powell: “Mae hon yn esiampl arall o sut y mae ein gwaith ymchwil gwyddonol yn gallu cynnig enillion ar sawl lefel – i’r amgylchedd, i ffermwyr, i iechyd pobl ac i’r cyhoedd yn gyffredinol.”