Genomeg

 

Cyflwyniad

Genomeg Cnydau

I gynnal a gwella cynhyrchiant cnydau mewn hinsawdd sy'n newid defnyddiwn ddull o ganfod germplasm perthnasol, pennu'r nodweddion allweddol sy'n rhoi cynnyrch ac ansawdd sefydlog ar gyfer defnydd diwedd i bobl, anifeiliaid neu ddefnydd diwydiannol, a deall a manteisio ar eu rheoleiddio genomig i ymateb i amgylcheddau cyfredol a disgwyliedig. At hynny, rhaid i systemau cnydau gyfrannu at leihau nwyon tŷ gwydr er mwyn cyflawni a rhagori ar dargedau sero net. Mae cyfuniad o fioleg nodweddion, genomeg swyddogaethol a methodolegau bridio newydd yn hanfodol er mwyn datblygu a meithrin cnydau gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cyflawni'r gwelliannau hyn mae angen datblygu offer ac adnoddau newydd i gyflymu'r cynnydd tuag at fodloni gofynion byd sy'n newid yn gyflym.

Mae integreiddio data -nomeg presennol a newydd â datblygiad pangenomau ar gyfer ein cnydau yn rhoi llwyfan er mwyn i ni allu deall yr amrywiad genomig o fewn y rhywogaethau hyn a'r ffordd y caiff ei reoleiddio dan wahanol amodau amgylcheddol ac mewn croesrywiau.

Bydd hyn yn rhoi mewnwelediadau i groesrywedd llwyddiannus, heterosis, ac yn arwain detholiadau rhieniol. Bydd yn llwyfan i lansio prosiectau darganfod gwyddoniaeth a thrawsfudol newydd, gan gynnwys gwneud gwell defnydd o gasgliadau banc genynnau er budd amaethyddol ac amgylcheddol yn y dyfodol a strategaethau bridio newydd

Dull a Nodau

Dull a Nodau

Mae cyfeiriadau genom a dilyniant trwybwn uchel yn trawsnewid ein gallu i ddyrannu nodweddion, canfod amrywiaeth a rhagfynegi ffenoteipiau. Cyfiawnheir y buddsoddiadau mawr cychwynnol gan yr enillion dilynol o ran effeithlonrwydd genoteipio, rhwyddineb darganfod alel a'r gallu i ddyrannu mecanweithiau nodwedd. Trwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd ar draws ein cnydau cawn fwy o arbedion maint a chyflymir y defnydd o ddata genom i'w ddefnyddio ar gyfer bioleg nodwedd yn ein cnydau: meillion rhygwellt lluosflwydd, a Miscanthus. Byddwn yn adeiladu ar y genomau cyfeirio sydd bellach ar gael ar gyfer ein rhywogaethau cnwd: rhygwellt lluosflwydd, meillion, ceirch a Miscanthus (cyfeirnodau isod). Mae'r rhain yn bwydo i arolygon o'r amrywiaeth genomig o fewn pob rhywogaeth ac yn ei gysylltu ag addasiadau naturiol a thargedau dethol bridwyr.

Y nod nawr yw datblygu pangenomau ar gyfer y rhywogaethau hyn. Gall genomau planhigion oddef amrywiad sylweddol o ran cynnwys genynnau a sefydliad cromosom, felly mae angen amryfal enomau i ddal yr haplodeipiau hynny sy'n cynrychioli'r amrywiaeth mewn nodweddion o ddiddordeb ac sydd fwyaf perthnasol ar gyfer rhaglenni bridio. Mae banc genynnau IBERS yn cynnwys miloedd o dderbynion wedi eu geoleoli o laswellt porthiant, meillion, Miscanthus a cheirch. Bydd mwy o ddealltwriaeth o'r amrywiaeth genomig o fewn rhywogaethau ein cnydau yn gosod sylfeini ar gyfer darganfyddiadau ynglŷn â swyddogaeth genynnau, GxE, croesrywedd/mewnfynediad posib a bydd yn dylanwadu yn y pen draw ar y rhaglenni bridio.

Prosiectau

Prosiectau

Cnydau Gwydn ISPG  http://www.resilientcrops.org/

Bridio Miscanthus Miscanspeed  http://www.miscanthusbreeding.org/

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Dr Narcis Fernandez Fuentes naf4@aber.ac.uk +44 (0) 1970 621680
Dr Matthew Hegarty ayh@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622284
Dr Tim Langdon ttl@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823060
Dr Adriana Ravagnani adr@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823166
Dr Hannah Rees har55@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823078

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »