Dull a Chyfleusterau
Mae synwyryddion di-gyswllt ac annistrywiol yn darparu gwybodaeth am ddatblygiad cnydau a ffisioleg, eu hamgylchedd, a'r rhyngweithio rhwng cnydau a'r amgylchedd. Mae dulliau o'r fath hefyd yn caniatáu mesuriadau mynych dros amser, gan ddarparu gwybodaeth am nodweddion hydredol ar ryngweithiadau amgylchedd x genoteip x rheolaeth ar draws y cylch bywyd.
Ymysg y technolegau sy'n dod i'r amlwg mae platfformau trin planhigion awtomataidd, roboteg, delweddau a chyfrifiadureg (dysgu dwfn, rhesymu semantig ac ati), sy'n ymestyn i Synhwyro o Bell ac Arsylwi'r Ddaear sy'n caniatau casgliad annistrywiol o baramedrau ffisegol a ffisiolegol ar draws graddfeydd, o'r is-gellog i'r maes a'r dirwedd (Yang et al., 2020; 10.1016/j.molp.2020.01.008).
Er bod ein platfformau masnachol wedi'u cynllunio ar gyfer rhes draddodiadol (ceirch, gwenith, had rêp/canola, ac ati) a chnydau tŷ gwydr, rydym wedi datblygu methodolegau pwrpasol ar gyfer gwreiddiau, meillion, glaswellt porthiant, grawnwin, rhywogaethau Miscanthus a mawndir. Mae technolegau biofeddygol wedi'u hailbwrpasu ar gyfer ymchwil gwyddor planhigion.
Mae tai gwydr arbenigol ac ystafelloedd amgylchedd rheoledig yn efelychu hinsoddau amrywiol ledredau. Er mwyn llenwi'r bwlch rhwng yr ystafelloedd a'r maes, mae unedau aer-planhigyn-pridd ar raddfa fawr yn darparu cyfleusterau wedi eu hofferynnu'n dda ar gyfer ffenoteipio ffisiolegol manwl. Mae lleiniau o gaeau wedi'u hofferynnu ar hyd goleddf uchderol (lefel y môr i 350m) ac o fewn ffotogyfnod cyffredin (10km ar drawslun tua G-D) a phlatfformau caffael data symudol yn rhoi defnydd o amgylcheddau tyfu awyr agored amrywiol yr holl ffordd at raddfa fferm.
Mae'r Labordy Ecoffisioleg yn darparu arbenigedd ac offeryniaeth o'r radd flaenaf ar gyfer astudiaethau ffisiolegol dwfn gan gynnwys siambrau pwysau Scholander, dadansoddwyr nwy isgoch, a monitro fflworoleuedd cloroffyl yn unigol ac yn barhaus.
Defnyddir y dulliau hyn, a ategir gan fetabolomeg a genomeg y genhedlaeth nesaf, i wella modelau cnydau sy'n rhagweld cynnyrch yng nghyd-destun newidynnau amgylcheddol, gyda'r bwriad o wella cynhyrchiant amaethyddol a chadwyni cyflenwi a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.
Er mwyn annog y defnydd o'r technolegau hyn mewn amaethyddiaeth yn gyffredinol ac mewn cynhyrchu bwyd effaith isel cynaliadwy fel ffermio fertigol yn benodol, mae Campws Arloesi newydd Aberystwyth yn darparu cyfleusterau a hyfforddiant i fusnesau bach.