Llwyfan Ymchwil Tir Glas
Mae’n gwyddonwyr ymchwil tir glas, ein partneriaid diwydiannol, a’n rhwydweithiau ffermio yn gweithio i wella cynaliadwyedd amaethyddiaeth tir glas a helpu i ddarparu systemau bwyd a ffermio sero-net erbyn 2050. Mae cyfanswm o 47 amrywogaeth o gnydau porthiant (e.e. rhygwellt lluosflwydd, meillion coch a gwyn) wedi’u datblygu. Mae gwyddoniaeth IBERS wedi helpu i’w sefydlu ac yn cael eu masnacheiddio gan bartneriaid masnachol hirdymor Germinal Horizon.
Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid diwydiannolo bob rhan o’r gadwyn gyflenwi amaethyddol ac yn cynnal ymchwil gyfranogol gyda busnesau fferm i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u heriau yn y byd go iawn, y rhwystrau sy’n atal newid, a chanolbwyntio ar yr wyddoniaeth sydd ei hangen fwyaf i gefnogi’n cymunedau amaethyddol yn well. Drwy ddefnyddio dull systemau fferm gyfan, mae’n timau ymchwil amlddisgyblaeth yn cydweithio’n agos â ffermwyr i helpu i ddarparu systemau bwyd-amaeth mwy cynhyrchiol, gwydn a chynaliadwy.
Ar hyn o bryd mae systemau da byw yn meddiannu tua thraean o’r tir amaethyddol sydd ar gael yn fyd-eang, yn cyfrannu at 40% o werth yr allbynnau amaethyddol, ac un rhan o dair o’r protein a ddefnyddir gan bobl (FAO, 2019). Rhagwelir y bydd galw cynyddol am gynhyrchion anifeiliaid a hefyd dewisiadau amgen wedi’u seilio ar blanhigion yn parhau oherwydd twf yn y boblogaeth a’r cynnydd yn yr hyn sy’n cael ei fwyta fesul pen.
Mae angen cynyddol i ddeall effaith ffermio da byw ar yr amgylchedd yn well a dod o hyd i ffyrdd o leihau ei ôl troed amgylcheddol dros y system gyfan. Mae hyn yn cynnwys bridio cnydau porthiant mwy gwydn sydd wedi’u teilwra’n well i ddeiet anifeiliaid sy’n cnoi’r cil. At hynny, gall cnydau porthiant gael eu prosesu i ddarparu bwyd i anifeiliaid monogastrig a gall codlysiau gael eu tyfu i ddarparu ffynonellau protein amgen ar gyfer anifeiliaid a phobl.
Mae ymchwil graidd IBERS yn canolbwyntio ar ateb heriau ffermydd tir glas a’r wyddoniaeth sy’n sail ar gyfer bridio amrywogaethau newydd a gwell o borthiant, codlysiau a glaswelltau ynni. Mae gan IBERS fynediad at dros 1,000 hectar o dir glas sy’n cael ei reoli gan Brifysgol Aberystwyth ac sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio ac ymchwil amgylcheddol. Mae treialon graddiant uchder IBERS wedi’u gwasgaru ar draws sawl safle ac uchder (0-600 m), a’r rheiny wedi’u dewis i ymdrin â systemau ucheldir ac iseldir ac i gynrychioli 60% o holl amodau tyfu tir glas y Deyrnas Unedig.
Mae’r setiau data o arbrofion ac arsylwadau a geir o’r safleoedd hyn, sy’n cynnwys llwyfan ymchwil ucheldir Pwllpeiran a fferm Trawsgoed, yn hanfodol ar gyfer deall gwytnwch cnydau, dadansoddi dylanwadau genetig ac amgylcheddol ar berfformiad cnydau, a deall systemau amaethyddol tir glas yn well. Mae angen yr wybodaeth hirdymor hon er mwyn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio polisïau mewn hinsoddau atmosfferig, economaidd a gwleidyddol sy’n newid.