Ecosystem IBERS
Ecosystem IBERS
Mae ymchwilwyr IBERS yn gweithio ar ystod eang o wahanol blanhigion, anifeiliaid a systemau amaethyddol, ond mae’r ymchwil graidd yn canolbwyntio ar ateb heriau ffermio tir glas a’r wyddoniaeth sy’n sail i fridio mathau newydd a gwell o geirch, porthiant, codlysiau, a chnydau ynni.
Mae IBERS wedi’i leoli ar gampws Gogerddan y tu allan i Aberystwyth ac mae’n darparu galluoedd cenedlaethol mewn gwyddor bridio tir glas a phlanhigion, gan gynnwys ei Fanc Hadau, Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, Llwyfan Ymchwil Tir Glas, a’r cyfleuster peilot ar gyfer bioburo.
Mae’r ecosystem ymchwil unigryw hon yn fodd inni ddatblygu cnydau yfory, gan helpu i wneud cynhyrchu amaethyddol yn fwy cynaliadwy, a helpu i ddatblygu technolegau galluogi i gyflawni’r nodau hyn. Drwy wella gwaith monitro yn y caeau, gwneud amaethyddiaeth yn fwy manwl gywir, a chanfod ffyrdd newydd o droi planhigion yn gynhyrchion, rydyn ni’n gweithio i leihau’n hôl troed amgylcheddol a’n dibyniaeth ar danwydd a deunyddiau ffosil.
Un rhan hanfodol o ecosystem IBERS yw ein perthynas â phartneriaid diwydiannol hirsefydlog, rhwydweithiau ffermwyr a thimau allgymorth sy’n ein helpu i ddeall yn well yr heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth fodern a’n helpu i gael mathau newydd o gnydau, arferion ffermio a phrosesau diwydiannol allan o’r labordy ac i’r byd go iawn.